{"id":10581,"date":"2024-04-08T09:30:33","date_gmt":"2024-04-08T08:30:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10581"},"modified":"2024-03-29T12:57:19","modified_gmt":"2024-03-29T12:57:19","slug":"act-digital-literacy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-digital-literacy\/","title":{"rendered":"Llythrennedd digidol yn dod yn sgil hanfodol i gyflogwyr"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-digital-literacy\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-digital-literacy\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae llythrennedd digidol wedi ennill ei blwyf fel un o&#8217;r sgiliau pwysicaf y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, mae <a href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/ashleystahl\/2024\/02\/07\/3-essential-skill-sets-to-enhance-your-professional-trajectory\/?sh=c41cf3643082\">Forbes<\/a> wedi ei osod yn ail ar ei restr o briodoleddau proffesiynol sydd eu hangen i symud ymlaen yn llwyddiannus mewn gweithle modern. Mae llythrennedd digidol hefyd wedi cael ei <a href=\"https:\/\/www.getreading.co.uk\/news\/business\/digital-skills-more-important-degree-27613533\">ystyried<\/a> i fod yn bwysicach na gradd i bobl sy\u2019n chwilio am swydd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/act-digital-literacy-e1711716525894.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/act-digital-literacy-e1711716525894.jpg\" alt=\"Two young people sitting in front of a computer.\" width=\"460\" height=\"306\" class=\"alignleft size-full wp-image-17635\" \/><\/a><\/p>\n<p>Efallai eich bod chi\u2019n meddwl taw ymysg pobl h\u0177n y mae diffyg llythrennedd digidol yn codi, ond mae hyn ymhell o&#8217;r gwir. Er mai gweithwyr &#8216;Gen Z&#8217; yw&#8217;r genhedlaeth gyntaf i gael eu &#8216;codi gan y rhyngrwyd&#8217;, mae ganddynt, yn aml, fwlch sgiliau TG oherwydd eu diffyg profiad o weithio gyda chyfrifiaduron &#8211; i gymharu \u00e2\u2019u hyfedredd ar ddyfeisiau symudol a thabledi.<\/p>\n<p>Mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, yn cyflwyno cymhwyster seiliedig ar waith newydd i sicrhau bod gan bob gweithiwr ddealltwriaeth sylfaenol o&#8217;r systemau y maent yn defnyddio yn eu gwaith bob dydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwrs Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes hefyd yn helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o&#8217;r rhaglenni y maent wedi buddsoddi ynddynt ar gyfer eu staff. Gyda ffioedd trwydded uchel, mae&#8217;n bwysig bod y rhai sy&#8217;n defnyddio&#8217;r feddalwedd yn deall y dulliau a&#8217;r triciau nid yn unig i gwblhau eu gwaith yn effeithlon ond hefyd mewn ffordd effeithiol ar gyfer y busnes.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Lucy Wilkinson, Rheolwr Llwybr Gwasanaethau Digidol ACT:<\/strong><br \/>\n&#8220;Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes yn ymwneud \u00e2 hybu hyder ac yn rhoi ffordd effeithlon i gyflogwyr sicrhau bod gan yr holl staff ddealltwriaeth sylfaenol o&#8217;r feddalwedd ddigidol y maent yn eu defnyddio.<\/p>\n<p>Gall y cwrs hefyd roi hwb i effeithlonrwydd cwmni, gan ddysgu&#8217;r dulliau, y triciau a&#8217;r llwybrau byr yn y rhaglenni y maent yn debygol o&#8217;u defnyddio&#8217;n rheolaidd ond nid i&#8217;w potensial llawn.<\/p>\n<p>&#8220;O safbwynt personol, mae&#8217;r cwrs yn darparu achrediad ac yn edrych yn wych ar CV.&#8221;<\/p>\n<p>Ar Lefel Dau, mae&#8217;r cymhwyster yn archwilio pynciau fel rhannu digidol, llywio rhaglenni a ddefnyddir yn aml fel Teams, Canva a thaenlenni. Mae dysgwyr hefyd yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau i baratoi dogfennau yn briodol yn ogystal \u00e2 chreu cyflwyniadau (er nad oes angen cyflwyno i gwblhau&#8217;r cwrs.)<\/p>\n<p>Mae modiwlau hefyd ar sicrwydd ac iechyd a diogelwch, yn ogystal ag unedau eraill mewn defnyddio taenlenni, e-bost a chyfryngau cymdeithasol lle gall dysgwyr ddewis a dethol yr hyn sy&#8217;n berthnasol i&#8217;w r\u00f4l a&#8217;u busnes.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n debygol bod sefydliadau wedi buddsoddi llawer mwy mewn meddalwedd ddigidol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda chynnydd mewn gweithio o bell a hybrid, felly mae&#8217;n bwysig bod staff yn manteisio i&#8217;r eithaf ar y buddsoddiadau costus hyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r hyfforddiant seiliedig ar waith ar Lefel Dau wedi&#8217;i anelu at unrhyw un sy&#8217;n defnyddio cyfrifiadur yn eu gwaith.<\/p>\n<p>Mae ACT hefyd yn cynnig Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes ar Lefel Tri i&#8217;r rhai sydd mewn r\u00f4l sy\u2019n fwy digidol ac yn ymwneud a thrin data.<\/p>\n<p>Yn gwrs delfrydol ar gyfer gweinyddwyr lefel uchel, rheolwyr prosiect neu debyg, mae&#8217;r cwrs Lefel Tri yn archwilio meddalwedd cronfa ddata a sut y gellir ei defnyddio i adrodd a defnyddio data&#8217;n effeithlon. <\/p>\n<p>Gan anelu at bontio&#8217;r bwlch rhwng gwaith gweinyddol a dadansoddol, mae&#8217;r cymhwyster yn canolbwyntio ar fodelu data a nodweddion uwch offer TG y mae staff eisoes yn gyfarwydd \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Ychwanegodd Lucy: &#8220;Ar Lefel Tri, mae dysgwyr yn cael gwell dealltwriaeth o&#8217;r offer maen nhw&#8217;n ei ddefnyddio ar gyfer eu r\u00f4l, gan hybu effeithlonrwydd yn eu gwaith.<\/p>\n<p>&#8220;Gall Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes sicrhau bod meddalwedd yn cael ei ddefnyddio i&#8217;w lawn botensial.&#8221;<\/p>\n<p>Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gall cyrsiau Sgiliau Digidol Busnes ACT eich dyrchafu chi neu&#8217;ch gweithlu, yna Cysylltwch \u00e2 ni <a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/cefnogaeth-i-gyflogwyr\/\">acttraining.org.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae llythrennedd digidol wedi ennill ei blwyf fel un o&#8217;r sgiliau pwysicaf y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn ddiweddar, mae Forbes wedi ei osod yn ail ar ei restr o briodoleddau proffesiynol sydd eu hangen i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-digital-literacy\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10581","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10581","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10581"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10581\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10583,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10581\/revisions\/10583"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10581"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10581"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10581"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}