{"id":10585,"date":"2024-04-04T11:37:17","date_gmt":"2024-04-04T10:37:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10585"},"modified":"2024-04-04T11:37:17","modified_gmt":"2024-04-04T10:37:17","slug":"aac2024-winner-needle-rock","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-needle-rock\/","title":{"rendered":"Entrepreneur clustogwaith o Ganolbarth Cymru yn ychwanegu gwobr prentisiaeth at ei chasgliad"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-winner-needle-rock\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-needle-rock\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r entrepreneur Dr Ali J. Wright, sy&#8217;n awyddus i sefydlu academi hyfforddi clustogwaith yn y Canolbarth, wedi ychwanegu gwobr brentisiaeth o fri at ei chasgliad cynyddol o wobrau.<\/p>\n<div id=\"attachment_17646\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Needle-Rock-image-e1712143606190.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17646\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Needle-Rock-image-e1712143606190.jpg\" alt=\"Needle Rock receiving their award.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17646\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17646\" class=\"wp-caption-text\">Perchennog Needle Rock Dr Ali J. Wright yn derbyn gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn gan Richard Spear, rheolwr gyfarwyddwr ACT Limited, y noddwr.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd Needle Rock, sef cwmni Ali sydd wedi ei leoli yn Llanrhystud, ger Aberystwyth, ers 2013, ei enwi&#8217;n Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Mae Ali yn gyn-arolygydd iechyd planhigion i Lywodraeth y DU, ond mae bellach yn meithrin prentisiaid ar \u00f4l troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes ar gyfer creu clustogwaith unigryw ac arbennig sydd wedi ennill gwobrau.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru, sy&#8217;n cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yn un o uchafbwyntiau&#8217;r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n arddangos llwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Mae Needle Rockwedi yn gwmni sydd wedi ei achredu gan yr Association of Master Upholsterers and Soft Furnishers, ac mae&#8217;n cynnig portffolio amrywiol o glustogwaith traddodiadol a modern ar gyfer cartrefi, tafarndai, clybiau, bwytai, carafanau, cychod cul a chartrefi modur. <\/p>\n<p>&#8220;Dw i wrth fy modd yn llwyr, mae&#8217;n anhygoel cael cydnabyddiaeth fel hyn,&#8221; <strong>meddai Ali, a oedd yn teimlo&#8217;n eithaf emosiynol ar \u00f4l derbyn y wobr. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cDw i wedi bod mewn busnes ers 11 mlynedd ac wedi bod yn meithrin prentisiaid am y tair blynedd diwethaf gyda chymorth Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd y wobr hon yn dod \u00e2 chyhoeddusrwydd i\u2019r cwmni a dw i hefyd yn awyddus i sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock. Dw i&#8217;n teimlo fy mod i wedi bod ar daith ar \u00f4l cael gwahanol yrfaoedd sydd wedi f&#8217;arwain at yr union fan lle dw i heddiw. Hwn yw\u2019r darn olaf o\u2019r jig-so fel petai.<\/p>\n<p>&#8220;Mae buddsoddi mewn gweithwyr ifanc yn golygu lot fawr o waith ond mae hefyd yn dod \u00e2 budd sylweddol. Mae cyfraniad ein prentisiaid at fusnes Needle Rock wedi bod yn anhygoel. Mae trosiant y cwmni wedi treblu, ac mae ein gweithdy bellach ar agor am 50 o wythnosau&#8217;r flwyddyn.&#8221;<\/p>\n<p>Enillodd y cwmni wobr Microfusnes y Flwyddyn 2023 y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac mae ganddo bedwar gweithiwr a gafodd eu recriwtio gyda chymorth dwy o raglenni Llywodraeth Cymru, sef y rhaglen flaenorol, Kickstart, a&#8217;r rhaglen bresennol Thwf Swyddi Cymru +.<\/p>\n<p>Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i lenwi&#8217;r bwlch ar gyfer prentisiaethau clustogwaith yng Nghymru, ac mae am greu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer Sgiliau Clustogwaith Uwch.<\/p>\n<p>Mae dau brentis cyntaf Needle Rock, Roselin Morgan a Jason Vale wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu, ac maent bellach wedi cofrestru ar Brentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes. <\/p>\n<p>Fis Tachwedd diwethaf, enillodd Jason wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru 2023. Ar hyn o bryd mae Jason a Roselin yn mentora&#8217;r ddau aelod diweddaraf sy&#8217;n dilyn yr un llwybr dysgu, ac yn cael eu tywys gan Myrick Training a Needle Rock. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: <\/strong>&#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Needle Rock a&#8217;r enillwyr eraill, ond hefyd yr holl gyflogwyr, prentisiaid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE:<\/strong> &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch y cyfraniad mawr y gall prentisiaethau ei wneud yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r entrepreneur Dr Ali J. Wright, sy&#8217;n awyddus i sefydlu academi hyfforddi clustogwaith yn y Canolbarth, wedi ychwanegu gwobr brentisiaeth o fri at ei chasgliad cynyddol o wobrau. Cafodd Needle Rock, sef cwmni Ali sydd wedi ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-winner-needle-rock\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10585","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10585","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10585"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10585\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10586,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10585\/revisions\/10586"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10585"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10585"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10585"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}