{"id":10587,"date":"2024-04-04T12:45:18","date_gmt":"2024-04-04T11:45:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10587"},"modified":"2024-04-04T11:38:28","modified_gmt":"2024-04-04T10:38:28","slug":"aac2024-trj","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-trj\/","title":{"rendered":"Busnes adeiladu teuluol o Orllewin Cymru yn ennill gwobr brentisiaeth uchel ei bri"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-trj\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-trj\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Cafodd busnes adeiladu teuluol llwyddiannus TRJ Cyf, a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones yn 1935, ei enwi&#8217;n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.<\/p>\n<div id=\"attachment_17645\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/TRJ-image-e1712144202690.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17645\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/TRJ-image-e1712144202690.jpg\" alt=\"TRJ receiving their award.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17645\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17645\" class=\"wp-caption-text\">Mae swyddog gwerth cymdeithasol a hyfforddiant TRJ Cyf, Stuart Thomas, yn derbyn gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn gan Rachel Mooney, pennaeth dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau Addysg a Gwella Iechyd Cymru, noddwr.<\/p><\/div>\n<p>Tua 89 mlynedd ar \u00f4l i Mr Jones lansio&#8217;r busnes yn Rhydaman, mae TRJ yn dal i gyflogi prentisiaid, gan sicrhau llif cyson o dalent adeiladu ar gyfer y de-orllewin.<\/p>\n<p>Mae trydedd genhedlaeth y teulu bellach yn rhedeg y cwmni sy&#8217;n cyflogi 160 o bobl &#8211; gan gynnwys 16 prentis &#8211; a thua 100 o is-gontractwyr lleol. <\/p>\n<p>Dros y pum mlynedd diwethaf, mae TRJ wedi cyflogi 43 o brentisiaid, ac mae&#8217;n cefnogi rhaglenni prentisiaethau a rennir a rhaglenni prentisiaethau traddodiadol trwy Cyfle Building Skills a Choleg Sir G\u00e2r.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p><strong>Wrth ymateb i&#8217;r wobr, dywedodd Stuart Thomas, swyddog gwerth cymdeithasol a hyfforddiant TRJ Cyf:<\/strong> &#8220;Mae cymaint o ymdrech yn mynd i mewn i brentisiaethau \u2013 fel rydyn ni wedi clywed gan y bobl anhygoel sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori heno \u2013 ac  mae&#8217;n wych ein bod ni wedi cael ein cydnabod am gael pobl ar gam cyntaf eu gyrfa.<\/p>\n<p>&#8220;Dw i mor falch dros TRJ ein bod ni wedi cyrraedd y safonau a&#8217;r rhagoriaeth uchel sydd eu hangen i ennill y wobr hon.<\/p>\n<p>&#8220;Mae dysgu a datblygu yn rhan allweddol o ymrwymiad y cwmni i ddatblygu gyrfaoedd ein gweithwyr. &#8220;Dechreuodd y sylfaenydd ei yrfa fel saer prentis. Ac fe adeiladodd y cwmni gan bwysleisio wrth eraill bwysigrwydd addysg a datblygu.&#8221;<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau wrth wraidd TRJ Cyf, sy&#8217;n defnyddio&#8217;r dywediad &#8216;adeiladu ar sylfaen gadarn&#8217;. Mae naw o gyn-brentisiaid bellach yn meddu ar rolau rheoli neu oruchwylio. Cyflwynir ystod eang o brentisiaethau masnach adeiladu gan Goleg Sir G\u00e2r, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Penybont. <\/p>\n<p>Mae cyfarwyddwr TRJ Cyf, Owain Jones, yn ymddiriedolwr CITB ac yn ymwneud \u00e2&#8217;r gwaith o ddatblygu model cyflawni newydd ar gyfer hyfforddiant adeiladu. Treialodd y cwmni Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil, mewn partneriaeth \u00e2 Choleg Sir G\u00e2r a CITB. Cwblhawyd y cwrs gan 30 o brentisiaid.<\/p>\n<p>Mae prentisiaid yn dysgu amrywiaeth o sgiliau adeiladu ar draws y busnes, gyda chymorth porth dysgu ar-lein. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong> &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig TRJ Cyf ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE:<\/strong> &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd busnes adeiladu teuluol llwyddiannus TRJ Cyf, a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones yn 1935, ei enwi&#8217;n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024. Tua 89 mlynedd ar \u00f4l i Mr Jones lansio&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-trj\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10587","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10587","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10587"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10587\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10588,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10587\/revisions\/10588"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10587"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10587"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10587"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}