{"id":10589,"date":"2024-04-04T14:00:58","date_gmt":"2024-04-04T13:00:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10589"},"modified":"2024-04-04T11:39:21","modified_gmt":"2024-04-04T10:39:21","slug":"aac2024-tfw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-tfw\/","title":{"rendered":"Trafnidiaeth Cymru yn codi st\u00eam i ennill gwobr brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-tfw\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-tfw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae rhaglen brentisiaeth arloesol i yrwyr trenau wedi rhoi cyfle gwych i Trafnidiaeth Cymru ennill gwobr genedlaethol y mae pawb am ei hennill.<\/p>\n<div id=\"attachment_17644\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/TfW-image-e1712144815349.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17644\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/TfW-image-e1712144815349.jpg\" alt=\"Transport for Wales receiving their award\" width=\"460\" height=\"275\" class=\"size-full wp-image-17644\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17644\" class=\"wp-caption-text\">Adam Bagwell o Trafnidiaeth Cymru yn derbyn gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn gan Bridget Moseley, pennaeth prentisiaethau ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, noddwr y categori.<\/p><\/div>\n<p>Trafnidiaeth Cymru a enillodd y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.  <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni nid-er-elw i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth. Maent wedi croesawu dysgu seiliedig ar waith drwy recriwtio cannoedd o brentisiaid er mwyn gwella perfformiad a chynaliadwyedd y cwmni yn y tymor hir. <\/p>\n<p>Recriwtiwyd y don gyntaf o brentisiaid yn 2019, ac erbyn 2021, roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno&#8217;r rhaglen brentisiaeth gyntaf o&#8217;i bath i yrwyr trenau dan hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig  wedi&#8217;i dylunio mewn cydweithrediad \u00e2&#8217;r corff dyfarnu, EAL, a&#8217;i darparu mewn partneriaeth \u00e2 Choleg y Cymoedd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen brentisiaeth eisoes wedi annog llu o recriwtiaid newydd o wahanol gefndiroedd i ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant rheilffyrdd, gyda&#8217;r nod o ddenu mwy na 150 o brentisiaid newydd y flwyddyn dros y tair i bum mlynedd nesaf. <\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 189 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio mwy na 300 dros y pum mlynedd diwethaf. Mae prentisiaethau, sydd hefyd yn cael eu darparu gan ALS Training, ar gael ar draws 12 maes o&#8217;r busnes ac maent yn cefnogi cynlluniau trawsnewid Trafnidiaeth Cymru.<\/p>\n<p>Gan ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, mae&#8217;r prentisiaethau wedi darparu cronfa gynaliadwy o dalent sy&#8217;n gydnaws \u00e2 nodau ac amcanion y sefydliad, fel yr amlinellir yn ei strategaeth gorfforaethol a&#8217;i gynllun cydraddoldeb strategol.<\/p>\n<p><strong>Ar \u00f4l derbyn y wobr, dywedodd Adam Bagwell, rheolwr hyfforddiant gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: <\/strong>&#8220;Ar \u00f4l blynyddoedd o waith caled, mae  ennill y wobr wych hon yn coronni&#8217;r cwbl. Mae wedi bod yn ymdrech hir i gyrraedd y pwynt yma , ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr arbennig hon.<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni&#8217;n mynd trwy gyfnod o drawsnewid enfawr, ac mae angen llawer mwy o yrwyr a phobl mewn ystod o rolau  y tu \u00f4l i&#8217;r llenni.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong> &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Trafnidiaeth Cymru ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond hefyd yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: <\/strong>&#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae rhaglen brentisiaeth arloesol i yrwyr trenau wedi rhoi cyfle gwych i Trafnidiaeth Cymru ennill gwobr genedlaethol y mae pawb am ei hennill. Trafnidiaeth Cymru a enillodd y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Gwobrau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-tfw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10589","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10589"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10590,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589\/revisions\/10590"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}