{"id":10591,"date":"2024-04-05T11:00:17","date_gmt":"2024-04-05T10:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10591"},"modified":"2024-04-04T13:08:25","modified_gmt":"2024-04-04T12:08:25","slug":"aac2024-cavuhb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-cavuhb\/","title":{"rendered":"Bwrdd iechyd a wobrwywyd yn annog prentisiaid i &#8220;anelu am yr entrychion&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-cavuhb\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-cavuhb\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae un o fyrddau iechyd Cymru, sy&#8217;n annog staff i &#8220;anelu am yr entrychion&#8221; trwy fuddsoddi mewn  recriwtio a datblygu gyrfaoedd, wedi ennill gwobr brentisiaeth genedlaethol uchel ei bri.<\/p>\n<div id=\"attachment_17661\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Emma-Bendle-CAVUHB-image-e1712146362215.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17661\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Emma-Bendle-CAVUHB-image-e1712146362215.jpg\" alt=\"Emma Bendle, Cardiff and Vale UHB receiving the award.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17661\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17661\" class=\"wp-caption-text\">Emma Bendle, cydgysylltydd prentisiaethau ac ehangu mynediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro, yn derbyn gwobr Macro-Gyflogwr y Flwyddyn gan Kelly Reynolds, cyfarwyddwr y noddwr People Plus.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro wobr Macro-Gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r bwrdd iechyd wedi bod yn uwchsgilio ei weithlu drwy ddefnyddio amrywiaeth o brentisiaethau ers 2006, ond cyflymodd ei raglen yn sgil creu Academi Brentisiaethau yn 2018. Mae bron i 900 o unigolion newydd wedi cofrestru, gan gynnwys recriwtiaid newydd i&#8217;r sector.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull deuol hwn yn bwrw ffrwyth, gan fod bron i ddau ddwsin o brentisiaethau wedi creu cyfleoedd i adeiladu gyrfa i weithwyr presennol yn ogystal \u00e2 newydd-ddyfodiaid. Mae ffrwd newydd o dalent yn helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2 her recriwtio a chadw staff.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, sy&#8217;n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p><strong>Ar \u00f4l derbyn y wobr, dywedodd Emma Bendle, cydgysylltydd prentisiaethau ac ehangu mynediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro: <\/strong>&#8220;Rwy&#8217;n credu bod y wobr anhygoel hon yn cydnabod ac yn profi gwerth y gwaith rydym wedi&#8217;i wneud hyd yn hyn a byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn.<br \/>\n&#8220;Rydw i wedi bod yn fy swydd am y pum mlynedd diwethaf ac i mi, yn berson<br \/>\nol, mae&#8217;n teimlo fel bod yr angerdd a&#8217;r gwaith caled sydd wedi&#8217;i wneud wedi talu ar ei ganfed i bawb rydw i wedi&#8217;i recriwtio fel prentis neu i aelodau staff sydd wedi gallu symud ymlaen. Mae prentisiaethau wedi agor drysau at gyfleoedd newydd i bawb.<\/p>\n<p>&#8220;Mae prentisiaethau&#8217;n gweithredu ar wahanol lefelau ac yn cael eu paru \u00e2&#8217;n rolau band i sicrhau eu bod yn addas ac yn hwylus i&#8217;w cwblhau. &#8220;Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anelu am yr entrychion neu ddewis lefel lle maen nhw&#8217;n teimlo&#8217;n gyfforddus, gan hyrwyddo dull mwy cynhwysol o weithredu drwy ddiwallu anghenion unigolion \u00e2 sgiliau a galluoedd amrywiol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn wych. Rydym wedi gwylio a gwrando ar fideos am bobl a chyflogwyr anhygoel sydd i gyd wedi elwa ar brentisiaethau.&#8221;<\/p>\n<p>Mae partneriaethau wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu&#8217;r nifer fawr o raglenni sydd ar gael, ac mae Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a&#8217;r Fro wedi ymuno \u00e2&#8217;r prif ddarparwr hyfforddiant, ACT i weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;r bwrdd iechyd.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong> &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig y bwrdd iechyd ac enillwyr gwobrau eraill, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.&#8221; <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE:<\/strong> &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae straeon fel eu rhai nhw yn dangos yn eglur iawn yr effaith fawr y gall prentisiaeth ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw&#8217;n rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o fyrddau iechyd Cymru, sy&#8217;n annog staff i &#8220;anelu am yr entrychion&#8221; trwy fuddsoddi mewn recriwtio a datblygu gyrfaoedd, wedi ennill gwobr brentisiaeth genedlaethol uchel ei bri. Enillodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro wobr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-cavuhb\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-10591","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10591","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10591"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10591\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10595,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10591\/revisions\/10595"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10591"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10591"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10591"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}