{"id":10593,"date":"2024-04-05T09:15:40","date_gmt":"2024-04-05T08:15:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10593"},"modified":"2024-04-04T11:40:53","modified_gmt":"2024-04-04T10:40:53","slug":"aac2024-anne-reardon-james","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-anne-reardon-james\/","title":{"rendered":"Anne ysbrydoledig yn cael ei henwi&#8217;n Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2024-anne-reardon-james\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-anne-reardon-james\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ysbrydoledig a ddisgrifiwyd gan ei chyflogwr fel &#8220;ymgorfforiad dysgu gydol oes&#8221; wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith rhagorol.<\/p>\n<div id=\"attachment_17659\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Anne-Reardon-James-image-e1712145971812.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17659\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Anne-Reardon-James-image-e1712145971812.jpg\" alt=\"Anne Reardon-James receiving her award\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17659\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17659\" class=\"wp-caption-text\">Anne Reardon-James yn derbyn gwobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn gan Darren Howells, prif weithredwr y noddwr Agored Cymru.<\/p><\/div>\n<p>Ychwanegodd Anne Reardon-James, 46, sy&#8217;n byw yn Y Barri, wobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn at ei  chasgliad yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn INC Cymru, Casnewydd.<\/p>\n<p>Mae hi&#8217;n gynghorydd dysgu gyda Panda Education and Training, gan ddarparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training. Mae gan Anne awch ddibendraw am wybodaeth ac mae&#8217;n rhannu ei gwybodaeth i ysbrydoli ei dysgwyr a&#8217;i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu \u00f4l-16 yng Nghymru.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r wobr hon yn hollol wych a bron yn ormod i&#8217;w chymryd i mewn,&#8221; meddai Anne, a enillodd wobr 2023 y Sefydliad Dysgu a Gwaith am Diwtor y Flwyddyn Ysbrydoli! am Sgiliau Gwaith y llynedd. &#8220;Mae&#8217;n gydnabyddiaeth o&#8217;r gwaith rydyn ni&#8217;n ei wneud gyda&#8217;n dysgwyr wrth ddarparu prentisiaethau o safon. Rwy&#8217;n credu y bydd fy nysgwyr yn gyffrous ar fy rhan. <\/p>\n<p>&#8220;Ymunais \u00e2 maes dysgu seiliedig ar waith yn hwyrach yn fy mywyd ac mae&#8217;n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau. Rwyf wrth fy modd \u00e2&#8217;m gwaith ac rwyf yn wastad yn chwilio am ffyrdd gwahanol o&#8217;i gyflawni.&#8221;<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Maent yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. <\/p>\n<p>Prif noddwr eleni oedd EAL, partner a sefydliad dyfarnu sgiliau arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Anne yn astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, ac mae ganddi MA mewn Addysg, TAR a gradd yn y Gwyddorau Ymddygiadol. Mae hi hefyd yn Gymrawd o SET, ac yn Gymrawd Cyswllt o&#8217;r CIPD a HE Advance.<\/p>\n<p>Mae hi wedi gweithio ym maes addysg \u00f4l-16 ers 17 mlynedd, gan addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, darparu hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig, a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai. <\/p>\n<p>Mae Anne yn selog dros Ddysgu Gydol Oes, ac yn ysbrydoli ei dysgwyr, drwy ddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallan nhw eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain.  <\/p>\n<p>Mae Anne yn cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella&#8217;r broses ddysgu, mae&#8217;n cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi&#8217;i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae hi&#8217;n olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arfer da \u00e2 grwpiau rhwydweithiau ar-lein.<\/p>\n<p>Mae gwaith gwirfoddol Anne yn cynnwys addysgu Saesneg i ffoaduriaid Wcr\u00e1in a&#8217;u cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal \u00e2 siopa dros gleientiaid sy&#8217;n gaeth i&#8217;r t\u0177 ac ymweld \u00e2 nhw.<br \/>\n<strong><br \/>\nDywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:<\/strong> &#8220;Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Anne ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny&#8217;n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE:<\/strong> &#8220;Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a&#8217;r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae straeon fel eu rhai nhw yn dangos yn eglur iawn yr effaith fawr y gall prentisiaeth ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw yn rhan hanfodol o&#8217;r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.&#8221;<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">lyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffoniwch 03000 603000<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ysbrydoledig a ddisgrifiwyd gan ei chyflogwr fel &#8220;ymgorfforiad dysgu gydol oes&#8221; wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith rhagorol. Ychwanegodd Anne Reardon-James, 46, sy&#8217;n byw yn Y Barri, wobr Ymarferydd Dysgu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2024-anne-reardon-james\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16,11],"tags":[],"class_list":["post-10593","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10593","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10593"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10593\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10594,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10593\/revisions\/10594"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10593"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10593"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10593"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}