{"id":10629,"date":"2024-05-14T10:00:34","date_gmt":"2024-05-14T09:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10629"},"modified":"2024-05-13T11:27:45","modified_gmt":"2024-05-13T10:27:45","slug":"jisc-conference-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-conference-24\/","title":{"rendered":"Llywio heriau a chyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial i ddysgwyr"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/jisc-conference-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-conference-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17715\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Michael-Webb-photo-e1715166543532.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17715\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Michael-Webb-photo-e1715166543532.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"363\" class=\"size-full wp-image-17715\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17715\" class=\"wp-caption-text\">Michael Webb, cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg yn Jisc<\/p><\/div>\n<p>Roedd Tachwedd 2022 yn drobwynt yng nghanfyddiad y cyhoedd o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan greu cymaint o gyffro ag o bryder. Mae pethau wedi symud yn gyflym dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf (ac yn enwedig yn ystod y chwe mis diwethaf) wrth i AI ddod yn rhan fwy integredig o&#8217;n bywydau pob dydd, gan gynnwys addysg a chyflogaeth.  <\/p>\n<p>Fel asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU ar gyfer addysg drydyddol a phartner darparu allweddol ar gyfer <a href=\"https:\/\/digidol2030cymru.jisc.ac.uk\/\">Digidol 2030: Fframwaith Strategol<\/a>, mae Jisc yn cefnogi ein haelodau i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn gyflym mewn ffordd gyfrifoldrwy ddefnyddio cynlluniau peilot [1], cyngor ac arweiniad [2], digwyddiadau a chymunedau ymarfer AI [3] pwrpasol ar draws y sectorau addysg bellach a sgiliau ac addysg uwch.  <\/p>\n<p>Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer AI cynhyrchiol, sy&#8217;n cael effaith drawsnewidiol ar addysgu a dysgu. <\/p>\n<p><strong>AI Cynhyrchiol \u2013 mae&#8217;n fwy na dim ond ChatGPT<\/strong><br \/>\nEr mai hwn yw&#8217;r un mwyaf adnabyddus yn \u00f4l pob tebyg, mae ChatGPT ymhell o fod yr unig offeryn AI cynhyrchiol sydd ar gael, gyda thechnolegau newydd yn dod i&#8217;r amlwg ac yn esblygu&#8217;n fwyfwy rheolaidd i gefnogi defnyddwyr mewn tasgau megis codio, chwilio a dylunio cynnwys.  <\/p>\n<p>Mewn addysg a chyflogaeth, mae offer wedi eu pweru gan AI megis Teachermatic [4] a Microsoft Copilot [5] yn dod yn anhepgor ar gyfer tasgau megis cynhyrchu cyflwyniadau, paratoi deunyddiau dysgu ac awtomeiddio gwaith gweinyddol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw diweddar [6].  <\/p>\n<p>Mae AI hefyd yn dod yn rhan fwyfwy integredig o&#8217;r offer y mae llawer ohonom yn eu defnyddio bob dydd, megis Google Workspaces, Microsoft Teams a hyd yn oed Snapchat, sy&#8217;n golygu nad yw osgoi AI yn llwyr yn opsiwn mewn gwirionedd.  <\/p>\n<p><strong>Defnyddio AI yn foesegol<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r rhan fwyaf o sefydliadau naill ai ar y cam &#8216;agos\u00e1u a deall&#8217; neu &#8216;arbrofi ac archwilio&#8217; wrth ddefnyddio AI, sef yr amser perffaith i ddechrau datblygu prosesau cyfrifol a chanllawiau ar gyfer sut rydych chi am i ddefnyddwyr ryngweithio ag AI yn eich sefydliad chi.  <\/p>\n<p>O ystyried y cynnydd dros nos syfrdanol yn y defnydd o offer AI cynhyrchiol mewn addysg, does ryfedd i hyn greu cryn ofid ymhlith llawer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr. Roedd y pryderon yn canolbwyntio&#8217;n bennaf ar gyfleoedd i gamddefnyddio a&#8217;r effaith ar uniondeb academaidd ac asesu.  <\/p>\n<p>Daeth rhywfaint o dawelwch meddwl yn sgil cyflwyno synwyryddion AI ond, mewn gwirionedd, ni all unrhyw system heddiw brofi&#8217;n derfynol bod testun wedi&#8217;i ysgrifennu gan AI, felly mae pwysigrwydd gwell dealltwriaeth o ddefnydd moesegol ar gyfer dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn hollbwysig. Hefyd, mae angen y sgiliau ar fyfyrwyr i ddefnyddio AI yn y gweithle, felly mae angen adlewyrchu hynny rywsut mewn asesiadau. <\/p>\n<p>Yn ddiweddar aeth Jisc mewn partneriaeth \u00e2 Chymdeithas y Colegau (AoC) [7] ati i lunio cyfres o egwyddorion [8] sydd wedi eu bwriadu i helpu colegau a darparwyr AB i lywio&#8217;r heriau a gwneud yn gorau o gyfleoedd AI. Mae&#8217;r egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau bod gan ddysgwyr ac athrawon y sgiliau y mae eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd lle mae dylanwad AI yn prysur gynyddu.  <\/p>\n<p><strong>Agweddau dysgwyr tuag at AI cynhyrchiol  <\/strong><br \/>\nMae&#8217;r rhan fwyaf o ddysgwyr heddiw yn defnyddio AI cynhyrchiol mewn rhyw ffordd neu&#8217;i gilydd. Yng ngwanwyn 2023, lluniodd Jisc adroddiad yn dilyn cyfres o fforymau trafod i ddeall yn well ganfyddiadau myfyrwyr o AI [9], gan gynnwys defnydd dysgwyr, pryderon allweddol a disgwyliadau ynghylch y r\u00f4l y gallai AI ei chwarae yn y profiad addysgol.<\/p>\n<p>Dangosodd y canfyddiadau fod dysgwyr yn defnyddio AI cynhyrchiol mewn amrywiol feysydd i wella eu bywydau academaidd a phersonol, a&#8217;u bod yn credu bod cofleidio deallusrwydd artiffisial yn eu grymuso i gyfrannu&#8217;n ystyrlon at fyd sy&#8217;n cael ei yrru gan AI.  <\/p>\n<p>Mae gan ddysgwyr ddisgwyliadau clir hefyd o&#8217;r hyn y mae ei angen arnynt gan eu sefydliadau i&#8217;w helpu i ddefnyddio AI yn effeithiol, gyda&#8217;r pwyslais ar gyngor ac arweiniad ynghylch y sgiliau y mae eu hangen arnynt a&#8217;r offer y dylent eu defnyddio. Mae ymgynghori hefyd yn ystyriaeth allweddol, gan fod dysgwyr am fod yn rhan o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio AI yn eu haddysg eu hunain, gan ofyn am ddeialog agored a chydweithio ar y pwnc. <\/p>\n<p>Naw mis yn ddiweddarach, cyn bo hir byddwn yn lansio&#8217;r adroddiad &#8216;canfyddiadau myfyrwyr o ddeallusrwydd artiffisial&#8217; nesaf, er mwyn parhau \u00e2&#8217;r drafodaeth gyda dysgwyr wrth i dechnoleg barhau i esblygu. <\/p>\n<p><strong>Arbed amser i staff <\/strong><br \/>\nMae offer megis Teachermatic [4] a Graide [10] wedi bod yn chwyldroi&#8217;r defnydd o AI yn yr ystafell ddosbarth, gan helpu athrawon gyda&#8217;u tasgau pob dydd a mynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau llwyth gwaith.   <\/p>\n<p>Mae&#8217;r gallu, er enghraifft, i greu cynlluniau gwersi, cwisiau a gweithgareddau dysgu yn gyflym yn seiliedig ar y cwricwlwm, ac sy&#8217;n berthnasol i wahanol alluoedd ac ieithoedd, wedi galluogi staff i ganolbwyntio ar y sgiliau dynol craidd na all technoleg eu haddysgu, ond y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi&#8217;n fawr. <\/p>\n<p>Bu sgil-effaith fuddiol hefyd o ran hybu lles rhai athrawon, megis y staff yng Ngholeg Technoleg Basingstoke [11], a gafodd eu nosweithiau a&#8217;u penwythnosau yn \u00f4l, ac a adenillodd eu creadigrwydd pan symudwyd y baich gweinyddu diangen.  <\/p>\n<p><strong>Y ffordd ymlaen<\/strong><br \/>\nWrth i&#8217;r offer hyn amlhau, ac wrth i ganllawiau ar gyfer defnydd moesegol a chyfrifol ddod yn fwyfwy sefydledig, dim ond cynyddu fydd y cyfleoedd i ddefnyddio AI cynhyrchiol i wella dysgu ac addysgu. <\/p>\n<p>Ar gyfer sefydliadau sy&#8217;n symud tuag at y camau &#8216;gweithredol&#8217; a &#8216;gwreiddiedig&#8217; o fabwysiadu AI, bydd strategaeth ac egwyddorion clir ar gyfer eu defnyddio yn hanfodol i sicrhau defnydd moesegol a phriodol.  <\/p>\n<p>Y nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau i ffynnu mewn gweithle sy&#8217;n cael ei bweru gan AI. Mae technoleg newydd bob amser yn arwain at fathau newydd o swyddi, ac nid yw AI yn wahanol yn hyn o beth \u2212 er enghraifft, ymddangosiad rolau peirianwyr anogwyr. Amcangyfrifir y gallai 10-30% o&#8217;r holl swyddi gael eu hawtomeiddio gan AI*, sy&#8217;n ffigwr brawychus, ond mae cyfleoedd gyrfa newydd yn dod i&#8217;r amlwg yn rheolaidd wrth i gyflogwyr sylweddoli&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael iddynt o dechnolegau newydd. The impact of AI on UK jobs and training [12].<\/p>\n<p>Mae&#8217;n debygol y bydd y rhan fwyaf o swyddi&#8217;n cynnwys rhyw elfen o sgiliau AI yn y dyfodol, ac mae llythrennedd AI eisoes yn uchel ar y rhestr i lawer o gyfwelwyr ochr yn ochr \u00e2 sgiliau dynol hanfodol, megis meddwl yn feirniadol, y gallu i addasu a gwneud penderfyniadau moesegol.  <\/p>\n<p>Yn ystod y deunaw mis diwethaf, gwelwyd corwynt o arloesi ac addasu ym maes AI mewn addysg a chyflogaeth, ac mae&#8217;r cyflymder yn debygol o barhau. Bydd cydweithio rhwng y gweithle a&#8217;r ystafell ddosbarth yn hanfodol i sicrhau bod dysgwyr yn ennill y sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr. Cyn belled \u00e2 bod dysgwyr ac addysgwyr yn parhau i fod yn hyblyg, \u00e2 meddwl agored ac yn awchus i ddysgu, mae cyfnod cyffrous o&#8217;n blaenau. <\/p>\n<p>[1] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/reports\/national-centre-for-ai-in-tertiary-education-pilots\">peilot<\/a><br \/>\n[2] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/innovation\/artificial-intelligence\">cyngor ac arweiniad<\/a><br \/>\n[3] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/get-involved\/artificial-intelligence-community\">chymunedau ymarfer AI <\/a><br \/>\n[4] <a href=\"https:\/\/teachermatic.com\/\">Teachermatic<\/a><br \/>\n[5] <a href=\"https:\/\/copilot.microsoft.com\/\">Microsoft Copilot<\/a><br \/>\n[6] <a href=\"https:\/\/nationalcentreforai.jiscinvolve.org\/wp\/2024\/03\/07\/guiding-your-ai-journey-essential-resources\/#Integrity\">ein canllaw diweddar<\/a><br \/>\n[7] <a href=\"https:\/\/www.aoc.co.uk\/\">Chymdeithas y Colegau (AoC)<\/a><br \/>\n[8] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/further-education-and-skills\/principles-for-the-use-of-ai-in-fe-colleges\">lunio cyfres o egwyddorion<\/a><br \/>\n[9] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/reports\/student-perceptions-of-generative-ai\">trafod i ddeall yn well ganfyddiadau myfyrwyr o AI<\/a><br \/>\n[10] <a href=\"https:\/\/www.graide.co.uk\/\">Graide<\/a><br \/>\n[11] <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/blog\/implementing-ai-with-digital-wellbeing-at-its-core\">Ngholeg Technoleg Basingstoke<\/a><br \/>\n[12] <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/media\/656856b8cc1ec500138eef49\/Gov.UK_Impact_of_AI_on_UK_Jobs_and_Training.pdf\">The impact of AI on UK jobs and training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd Tachwedd 2022 yn drobwynt yng nghanfyddiad y cyhoedd o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan greu cymaint o gyffro ag o bryder. Mae pethau wedi symud yn gyflym dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf (ac yn enwedig yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-conference-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-10629","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10629","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10629"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10629\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10635,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10629\/revisions\/10635"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10629"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10629"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10629"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}