{"id":10682,"date":"2024-06-20T07:00:40","date_gmt":"2024-06-20T06:00:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10682"},"modified":"2024-06-19T11:41:49","modified_gmt":"2024-06-19T10:41:49","slug":"rlspsww-june-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-24\/","title":{"rendered":"\u00d4l-osod &#8211; Cadw Contractau&#8217;n Lleol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rlspsww-june-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/aerial-view-of-goods-warehouses-and-logistics-cent-sml-e1717955651291.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/aerial-view-of-goods-warehouses-and-logistics-cent-sml-e1717955651291.jpg\" alt=\"Ariel view of industrial units.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-17805\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cynhaliodd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru ddigwyddiad ym Mharc y Scarlets yn ddiweddar ar gyfer y sector \u00f4l-osod. Roedd yno dorf o dros 100 o weithwyr proffesiynol o&#8217;r diwydiant tai, contractwyr adeiladu a rheolwyr cadwyni cyflenwi.  <\/p>\n<p>Roedd yn achlysur hanfodol i bobl sydd ar flaen y gad yn y mudiad \u00f4l-osod, gan ysgogi newid er gwell yn y sector tai.  <\/p>\n<p>Prif bwnc y drafodaeth oedd prinder sgiliau yn y diwydiant a sut i ganfod arian er mwyn cau\u2019r bylchau.  <\/p>\n<p>Agorwyd y digwyddiad gan Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru, a sonidd am rymuso busnesau i greu dyfodol gwyrddach.  <\/p>\n<div id=\"attachment_17842\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/RLSPSWW-Retrofit-2-scaled-e1718029318148.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17842\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/RLSPSWW-Retrofit-2-scaled-e1718029318148.jpg\" alt=\"CEO of Net Zero Industry Wales addressing the audience.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-17842\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17842\" class=\"wp-caption-text\">Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru<\/p><\/div>\n<p>Cyfeiriodd Steve Knight a Phil Mason, ar ran MCS a TrustMark, at arwyddoc\u00e2d yr achrediadau hyn, sy\u2019n hanfodol er mwyn cynnal safonau\u2019r diwydiant.<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Oonagh Gavigan, Rheolwr Prosiect HAPS ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a siaradodd am y syniad o &#8216;Gartrefi fel Gorsafoedd P\u0175er&#8217; (HAPS) a&#8217;r weledigaeth ar gyfer tai yn y dyfodol yn ne-orllewin Cymru.  Cyflwynodd Kassie Williams, Rheolwr Partneriaethau Cynaliadwy gyda Robert Price, astudiaeth achos ar y cyd-ymdrechion i gyrraedd y targed sero net.  Bu Malcolm Davies, Uwch-reolwr Rhaglen Datgarboneiddio Tai Llywodraeth Cymru, yn trafod cyfleoedd a heriau yn y sector tai.  Soniodd Alec Thomas, Arweinydd Cadwyni Cyflenwi HAPS, am gyfleoedd i dendro ar gyfer contractau sydd i ddod.  Cyflwynodd Dafydd Guto Carrod, Cynghorydd Cadwyni Cyflenwi gyda Busnes Cymru, strategaethau ar gyfer sicrhau contractau. <\/p>\n<p> Daeth y diwrnod i ben \u00e2 chyflwyniad gan Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru. Soniodd am bwysigrwydd cael gweithlu \u00e2&#8217;r sgiliau iawn i ymateb i\u2019r cyfleoedd a gaiff eu creu dros y 10-15 mlynedd nesaf. <\/p>\n<p>Meddai Jane:  \u201cRoedd y digwyddiad yn llwyddiant. Daeth cwmn\u00efau adeiladu, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol at ei gilydd i ddangos yr holl gyfleoedd caffael sydd ar gael i gwmn\u00efau sydd \u00e2&#8217;r sgiliau i osod technoleg glyfar mewn cartrefi hen a newydd ledled y rhanbarth.   <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Bartneriaeth yn awyddus i gefnogi arweinwyr busnes i uwchsgilio staff lle bo angen er mwyn sicrhau y gallant dendro am y contractau amrywiol sydd ar gael yn y rhanbarth.\u201d <\/p>\n<p>Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol i\u2019r digwyddiad ac roedd y rhai a fu yno yn awyddus i roi\u2019r wybodaeth a\u2019r strategaethau a drafodwyd ar waith. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.rlp.org.uk\/cym\/home\">Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cynhaliodd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru ddigwyddiad ym Mharc y Scarlets yn ddiweddar ar gyfer y sector \u00f4l-osod. Roedd yno dorf o dros 100 o weithwyr proffesiynol o&#8217;r diwydiant tai, contractwyr adeiladu a rheolwyr cadwyni &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10682","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10682","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10682"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10682\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10702,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10682\/revisions\/10702"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10682"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10682"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10682"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}