{"id":10706,"date":"2024-06-20T07:01:23","date_gmt":"2024-06-20T06:01:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10706"},"modified":"2024-06-19T11:39:47","modified_gmt":"2024-06-19T10:39:47","slug":"cambrian-june-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-june-24\/","title":{"rendered":"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-june-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-june-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17847\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/6_-Welsh-Butcher-of-the-Year-2024-Winner-e1718103619475.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17847\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/6_-Welsh-Butcher-of-the-Year-2024-Winner-e1718103619475.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"365\" class=\"size-full wp-image-17847\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17847\" class=\"wp-caption-text\">Philip Tucker o Tuckers Butchers, y Mwmbwls &#8211; Enillydd gwobr Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru 2024, wrthi&#8217;n cystadlu<\/p><\/div>\n<p>Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol a&#8217;r ffaith fod cigyddion yn rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac yn barod i addasu eu cynnyrch wrth i ofynion pobl newid.  \u201cEr mwyn sicrhau bod siopau cigydd yn para i&#8217;r dyfodol mae angen gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa a buddsoddi mewn prentisiaethau cigyddiaeth.  Dyma pam mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn noddi gornest Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru,\u201d meddai Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.<\/p>\n<p><strong>Busnesau Cigyddion yn Tyfu er bod yr Economi&#8217;n Crebachu<\/strong><br \/>\nRhwng 1995 a 2019, roedd y lleihad yn nifer siopau cig annibynnol y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu&#8217;r dirywiad yn y stryd fawr gan ostwng <a href=\"https:\/\/ahdb.org.uk\/news\/consumer-insight-butcher-trends\">60% i tua 6,000<\/a> o safleoedd (Swyddfa Ystadegau Gwladol).  Fodd bynnag, yn ddiweddar mae llawer o gwsmeriaid yn dewis dychwelyd i&#8217;r stryd fawr a phrynu cig ffres wedi&#8217;i fagu&#8217;n lleol a&#8217;i gynhyrchu mewn ffordd foesegol \u2013 cig y gellir olrhain ei darddiad ac sydd ag \u00f4l troed carbon bychan.  Yn ogystal, mae cigyddion sydd wedi\u2019u hyfforddi\u2019n broffesiynol yn rhoi cyngor arbenigol i gwsmeriaid ar baratoi a choginio cig a sut i&#8217;w storio&#8217;n ddiogel a byddant yn torri\u2019r cig i ofynion penodol cwsmer.  Mae mwy o ddewis o gig ffres hefyd, o iau oen i sgwariau bol porc rhost \u00e2 chraclin i wahanol fathau o selsig cartref, prydau parod hwylus i&#8217;w coginio a chigoedd barbeciw.  Diolch i ymgyrchoedd marchnata Hybu Cig Cymru (HCC), mae cwsmeriaid yn deall bod gan gigyddion ran hanfodol yn y gwaith o gefnogi datblygiad economaidd lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol, a phrynu o ffermydd lleol sydd yn eu tro yn defnyddio lladd-dai lleol, gan gefnogi&#8217;r gadwyn gyflenwi ar gyfer cig ffres.  Y llynedd gwerthwyd mwy o gig eidion a chig oen rhydd na chig felly wedi\u2019i becynnu&#8217;n barod.  Yn y pedair blynedd diwethaf, arafodd y gostyngiad mewn siopau cig gryn dipyn. Felly yn 2023 roedd 5,637 o siopau cig yn y DU.  Mae canlyniadau&#8217;r Big British Butchers Survey 2023 gan y National Craft Butchers yn cadarnhau\u2019r adfywiad gyda\u2019r rhan fwyaf o\u2019r cigyddion a holwyd yn nodi bod eu busnesau wedi tyfu yn 2022 \u2013 \u201cgan ddangos adfywiad graddol yn un o gonglfeini&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.thegrocer.co.uk\/high-street\/674.subject\">stryd fawr<\/a> yn y DU mewn cyfnod anodd\u201d.  <\/p>\n<p><strong>Cynllunio ar gyfer Olyniaeth &#8211; Hyrwyddo Prentisiaethau Cigyddiaeth <\/strong><br \/>\nUn o&#8217;r prif fygythiadau sy&#8217;n wynebu&#8217;r sector cigyddiaeth yn y DU, yn cynnwys Cymru, yw oedran cigyddion, gyda hanner y perchnogion busnesau a ymatebodd i&#8217;r Big British Butchers Survey 2023, yn 56 oed neu\u2019n h\u0177n a 26% yn bwriadu ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. O&#8217;r cigyddion a ymatebodd, dim ond 33% sy&#8217;n cyflogi prentis ar hyn o bryd er i 82% ddweud y byddent yn croesawu un.  \u201cMae\u2019n hanfodol bwysig hyfforddi\u2019r genhedlaeth nesaf o gigyddion a hyrwyddo gyrfaoedd a phrentisiaethau cigyddiaeth er mwyn sicrhau nad ydym yn colli\u2019r sgiliau hyn,\u201d meddai Faith O\u2019Brien.<\/p>\n<p>Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) yw\u2019r darparwr dysgu seiliedig ar waith sy&#8217;n darparu&#8217;r nifer fwyaf o brentisiaethau cigyddiaeth yng Nghymru ac mae\u2019n cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo\u2019r sector.  Dyna pam mai\u2019r cwmni yw noddwr swyddogol cystadleuaeth Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW). Mae hefyd yn cefnogi T\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru, sy\u2019n cynnwys prentisiaid cigyddiaeth gorau\u2019r wlad.  <strong>Mae Swyddog Hyfforddiant Cigyddiaeth CHC, Craig Holly, wedi cystadlu yn Nh\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru yn America<\/strong>. Meddai \u201cRoedd yn anrhydedd fawr i mi gael cynrychioli fy ngwlad ac arddangos fy sgiliau proffesiynol ar lwyfan y byd. Mae&#8217;r cyfleoedd hyn i gystadlu yn bwysig gan eu bod yn chwistrellu ffyrdd newydd o feddwl y gallwn eu defnyddio yn y siop. Heb y cystadlaethau hyn, byddai llawer llai o arloesi a datblygu ym maes cigyddiaeth. Mae cystadlu&#8217;n rhoi hwb i&#8217;r hyder hefyd, gan helpu i hyrwyddo busnes y cystadleuwyr a denu rhagor o gwsmeriaid. Gyda rhagor o bobl yn dewis yn ofalus ble maen nhw\u2019n siopa, gall cystadlaethau fel hyn fod yn fanteisiol i gigyddion.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae Ben Roberts, 32, wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau cigyddiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian<\/strong>, o Brentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) ac yna Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Busnes.  Ym mis Ionawr eleni, llwyddodd i agor ei siop gigydd ei hun, <a href=\"https:\/\/www.astleyandstratton.co.uk\/\">Astely &#038; Stratton Ltd.<\/a> yn Farndon, ger Caer, gan gymryd lle siop gigydd Griffiths a fu ar y Stryd Fawr ers 200 mlynedd. Roedd y perchennog diweddaraf yn ymddeol. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;i alluogi i ddysgu crefft a sefydlu ei fusnes ei hun, mae taith Ben trwy ei brentisiaethau wedi rhoi cyfle iddo arddangos ei grefft a rhagori yn ei faes.  Mae wedi cystadlu dros ei wlad yn Nh\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru gan orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills UK 2021 ac yn ail yng ngornest Cigydd y Flwyddyn Cymru yn yr un wythnos ag yr agorodd ei fusnes newydd. Enillodd Ben wobrau Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru ac yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian 2022 ac mae hefyd wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Mae&#8217;n awyddus iawn i gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o gigyddion. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cFy nod yn y tymor hir yw sefydlu rhaglen brentisiaethau yn y siop, er mwyn i gigyddion ifanc gael yr un profiadau ag y ces i&#8217;r fraint o&#8217;u cael yn fy ngyrfa hyd yma,\u201d <strong>meddai Ben<\/strong>.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Llywodraeth y DU yn Buddsoddi yn y Stryd Fawr a\u2019r Sector Cigyddiaeth <\/strong><br \/>\nMae Llywodraeth y DU yn cymryd camau i wrthdroi\u2019r dirywiad ac adfywio&#8217;r stryd fawr mewn trefi ledled y DU.  Mae\u2019r llywodraeth wedi sefydlu Tasglu&#8217;r Stryd Fawr ac wedi creu Cronfa Stryd Fawr y Dyfodol gwerth \u00a31 biliwn a Chronfa Trefi gwerth \u00a32.6 biliwn i gefnogi gwaith adnewyddu ac ail-lunio&#8217;r stryd fawr a mannau eraill yng nghanol trefi.  Mae Menter a Busnes, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynhyrchu adnoddau addysg dwyieithog i ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn Cigyddiaeth yn ysgolion Cymru ar gyfer Camau Cynnydd 3 a 4, gan dargedu myfyrwyr TGAU Technoleg Bwyd.<\/p>\n<p><strong>Sylw i gigyddion gorau Cymru ar Lwyfan y DU a&#8217;r Byd <\/strong><br \/>\nMae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o ffermio cig ac mae timau Cigyddiaeth Crefft blaenorol Cymru wedi cael llawer o lwyddiant. Maent wedi ennill cystadlaethau Cigyddiaeth yn WorldSkills UK a Premier Butcher ac mae cigyddion o Gymru wedi\u2019u dewis i gynrychioli t\u00eem y DU mewn cystadlaethau Cigyddiaeth rhyngwladol. Mae hyn i gyd wedi helpu i hyrwyddo prentisiaethau a gyrfaoedd mewn cigyddiaeth.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Rydym yn falch iawn bod Craig a Ben a phrentisiaid eraill wedi cael llwyddiant yn eu gyrfa.  Bydd Hyfforddiant Cambrian yn gwneud eu gorau i sicrhau bod prentisiaid cigyddiaeth Cymru&#8217;n cael cyfle yn y dyfodol hefyd i gystadlu yn erbyn y goreuon ac arddangos eu crefft. Bydd hyn yn hwb i lwyddiant a bywiogrwydd y sector cigyddiaeth,\u201d meddai <strong>Faith O\u2019Brien<\/strong>.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol a&#8217;r ffaith fod cigyddion yn rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac yn barod i addasu eu cynnyrch wrth i ofynion &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-june-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10706","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10706","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10706"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10706\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10726,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10706\/revisions\/10726"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10706"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10706"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10706"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}