{"id":10719,"date":"2024-06-20T07:00:57","date_gmt":"2024-06-20T06:00:57","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10719"},"modified":"2024-06-19T11:40:05","modified_gmt":"2024-06-19T10:40:05","slug":"landw-june-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/landw-june-24\/","title":{"rendered":"Ymunwch \u00e2 phartneriaeth ymgyrch Wynnes Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Medi"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/landw-june-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/landw-june-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Adult-Learners-Week-2024--e1718278843540.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Adult-Learners-Week-2024--e1718278843540.png\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"alignleft size-full wp-image-17866\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy\u2019n rhoi cyfle arbennig i bobl gofleidio ail gyfle ar addysg a gwaith, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes yng Nghymru. Bob blwyddyn mae\u2019r ymgyrch yn ysbrydoli miloedd o bobl i fynychu digwyddiadau arbennig, cofrestru ar gyfer cyrsiau a gofyn am gyngor ac arweiniad ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt i gynyddu eu sgiliau, gwella eu hyder a\u2019u lles, darganfod hob\u00efau newydd a gwneud cysylltiadau newydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ymgyrch hefyd yn dathlu llwyddiannau gwych pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy\u2019n hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o ddysgu a sgiliau.<\/p>\n<p>Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu sefydliadau ar draws llu o sectorau i gynllunio a chyflwyno gweithgaredd gyda ffocws ar gyfer wythnos yr ymgyrch (<strong>9-15 Medi<\/strong>) a thrwy gydol mis Medi. Mae enghreifftiau o\u2019r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb, cyrsiau byr, dyddiau agored, adnoddau, gwybodaeth a chyngor, a digwyddiadau arbennig i ddangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.<\/p>\n<p>Cafodd <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">llwyfan  yr Wythnos Addysg Oedolion<\/a> ei gynllunio i gynnal cynnwys dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb i gysylltu pobl gyda darpariaeth leol ar draws Cymru a thu hwnt. Y llynedd, roedd dros 600 rhestriad ar y llwyfan gan amrywiaeth o sefydliadau yn cynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, Amgueddfa Cymru, Ymestyn yn Ehangach, UNISON, Canolfan Gwirfoddolwyr Caerdydd, darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, TUC Cymru, Cymdeithas B\u00eal-droed Cymru, ac eraill.<\/p>\n<p><strong>Dewch yn bartner i\u2019r ymgyrch, gan weithio gyda Dysgu a Gwaith i wneud dysgu gydol oes yn fwy hygyrch a gweladwy i oedolion ledled Cymru<\/strong><br \/>\nBydd eich cyfraniad at yr ymgyrch yn helpu i gynyddu effaith a phroffil addysg oedolion yng Nghymru, gan alluogi mwy o bobl i ddatblygu\u2019r hyder i edrych am gyfleoedd newydd.<\/p>\n<ul>\n<li>Ehangu eich darpariaeth a hyrwyddo eich cyrsiau, dyddiau agored, digwyddiadau blasu ac adnoddau dysgu ar <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/gwybodaeth-i-ddarparwyr\/?lang=cy\">lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion yn rhad ac am ddim<\/a>.<\/li>\n<li>Dylai darparwyr sy\u2019n newydd i\u2019r ymgyrch lenwi <a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Adult-Learners-Week-2024_Stakeholder-form_-Cymraeg-1.docx\">ffurflen rhanddeiliaid yr Wythnos Addysg Oedolion i gofrestru eu diddordeb<\/a>. Gall darparwyr sydd wedi cofrestru eisoes fewngofnodi i\u2019w cyfrif <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/my-account\/?lang=cy\">yma<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch ar gael ar <a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/maer-hyn-a-wnawn\/wythnos-addysg-oedolion\/\">wefan Dysgu a Gwaith<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Cronfa Arloesedd:<\/strong><br \/>\nMae Dysgu a Gwaith wedi lansio Cronfa Arloesedd yr Wythnos Addysg Oedolion ar gyfer sefydliadau sy\u2019n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn wythnos yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2024.<\/p>\n<p>Mae grantiau o hyd at \u00a3750 ar gael i sefydliadau sy\u2019n gweithio yng Nghymru ac yn cyflwyno dysgu gydol oes. Bwriad y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu wyneb yn wyneb, digwyddiadau dysgu, dyddiau agored, gweithgareddau maes, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu yn rhad ac am ddim.<\/p>\n<p>Mae mwy o wybodaeth am y gronfa a dolenni i\u2019r canllawiau a\u2019r ffurflen gais ar gael ar <a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/maer-hyn-a-wnawn\/wythnos-addysg-oedolion\/gronfa-arloesedd\/\">wefan Dysgu a Gwaith<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd ymuno \u00e2\u2019r gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio hashnodau <strong>#dalatiiddysgu #wythnosaddysgoedolion<\/strong> a thagio L&#038;W <strong><a href=\"https:\/\/twitter.com\/LearnWorkCymru\">X<\/a>, <a href=\"https:\/\/uk.linkedin.com\/company\/learning-and-work-institute\">LinkedIn<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/learningandworkinstitute\">Facebook<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/learnworkcymru\/\">Instagram<\/a><\/strong>. Rhannwch straeon a digwyddiadau addysg oedolion a dathlu popeth sydd gan ddysgu i\u2019w gynnig drwy gydol mis Medi.<\/p>\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfrif darparydd Wythnos Addysg Oedolion neu os hoffech drafod gweithgaredd hyrwyddo ar y cyd, cysylltwch \u00e2 Nisha Patel yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: <a href=\"mailto:alwevents@learningandwork.org.uk\">alwevents@learningandwork.org.uk<\/a>. os gwelwch yn dda.<\/p>\n<p>Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy\u2019n rhoi cyfle arbennig i bobl gofleidio ail gyfle ar addysg a gwaith, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes yng Nghymru. Bob blwyddyn mae\u2019r ymgyrch yn ysbrydoli miloedd o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/landw-june-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10719","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10719","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10719"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10719\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10723,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10719\/revisions\/10723"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10719"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10719"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10719"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}