{"id":10727,"date":"2024-06-20T07:00:34","date_gmt":"2024-06-20T06:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10727"},"modified":"2024-06-19T11:40:43","modified_gmt":"2024-06-19T10:40:43","slug":"act-june-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-june-24\/","title":{"rendered":"Pwysigrwydd rhoi\u2019r Gymraeg ar waith yn eich busnes"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-june-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-june-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_17897\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/2_Rachel-Dwyer-ACT-2-e1718717681194.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17897\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/2_Rachel-Dwyer-ACT-2-e1718717681194.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-17897\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17897\" class=\"wp-caption-text\">Rachel Dwyer, Cydlynydd Marchnata ACT<\/p><\/div>\n<p>Fel darparwr addysg sy\u2019n gweithio ar draws Cymru, mae ACT yn deall pwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg nid yn unig yn cael ei chydnabod yn ei sefydliad ond ei bod yn cael ei defnyddio\u2019n weithredol p\u2019un ai yn rhugl neu\u2019n achlysurol.<\/p>\n<p>Mae ACT yn gweithio gyda bron i 500 o ddysgwyr Cymraeg eu hiaith i gyflawni eu nodau gyrfa, ac felly rydym yn cynnig tiwtoriaid a staff cymorth sy\u2019n siarad Cymraeg yn ogystal \u00e2 chyfathrebu dwyieithog.<\/p>\n<p>Buom yn siarad \u00e2 Rachel Dwyer sydd ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei phrentisiaeth Marchnata Digidol gydag ACT.<\/p>\n<p><strong>Mae Rachel yn rhiant sengl sy\u2019n byw yn yr Eglwys Newydd ac yn gweithio fel cydlynydd marchnata ar \u00f4l bron i ddegawd fel cynorthwyydd dysgu.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cPenderfynais fynd yn \u00f4l i\u2019r hyn roeddwn i\u2019n gwneud cyn i mi gael y plant sef marchnata a hyrwyddo,\u201d esboniodd. \u201cRoeddwn yn falch o gael cynnig prentisiaeth gydag ACT er mwyn diweddaru fy sgiliau wrth weithio. Dwi tua hanner ffordd drwyddo ac yn mwynhau\u2019n fawr. Mae fy asesydd yn amyneddgar gyda mi ac rwy\u2019n gwerthfawrogi\u2019n fawr y ffaith y gallaf gofnodi fy nhystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd.\u201d<\/p>\n<p><strong>Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, magwyd Rachel ar aelwyd ddwyieithog.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae fy iaith a\u2019m diwylliant yn bwysig i mi,\u201d meddai. \u201cRwy\u2019n teimlo\u2019n gryf y dylem wneud defnydd mor gynhwysol \u00e2 phosib o\u2019r Gymraeg ac annog dysgu a defnydd ohoni. Mae\u2019r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd ac rwy\u2019n defnyddio\u2019r ddwy iaith yn feunyddiol.\u201d<\/p>\n<p>Ni ddylid ystyried hyrwyddo\u2019r defnydd o\u2019r Gymraeg fel ymarfer ticio bocs. Mae busnes sy\u2019n ymgorffori\u2019r iaith ar draws ei weithgareddau yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chynwysoldeb, gan gydnabod ei gwerth.<\/p>\n<p>Ychwanegodd Rachel: \u201cAlla i ddim dychmygu bod heb yr iaith Gymraeg, mae mor bwysig yn ddiwylliannol. Mae cenedlaethau wedi cael eu rhwystro rhag siarad ein hiaith a hoffwn weld cwmn\u00efau\u2019n parchu ein hanes a helpu i oresgyn hyn.\u201d<\/p>\n<p>Er y gall y dasg o weithredu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chefnogi siaradwyr Cymraeg o fewn sefydliad ymddangos yn anodd, yn aml mae pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr.<\/p>\n<p>\u2018Mae ond angen bod yn agored iddo,\u2019 meddai Rachel. \u201cMae gweld ein hiaith yn cael ei chynrychioli, cael fy nghyfarch \u00e2 \u2018bore da\u2019 neu jest gwybod fy mod i\u2019n gallu sgwrsio gyda rhywun neu gael mynediad at eu gwasanaethau drwy gyfrwng fy iaith yn bositif iawn.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig i gwmn\u00efau fod yn ymwybodol o\u2019n hanes \u2013 mae pethau allweddol fel y Llyfr Gleision, y Welsh Not a Tryweryn yn helpu pobl i ddeall pam ein bod ni mor amddiffynnol o\u2019n hiaith.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT:<\/strong><br \/>\n\u201cMae ACT yn credu\u2019n gryf bod y Gymraeg yn rhan werthfawr o hunaniaeth a diwylliant pob unigolyn yng Nghymru ac wedi ymrwymo i gefnogi \u2018Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr\u2019.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig bod pob dysgwr sy\u2019n rhan o rwydwaith ACT yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg \u2013 waeth beth fo\u2019u man cychwyn, a datblygu a chynnal eu hyder wrth ddefnyddio\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>\u201cMae cydweithwyr ar draws ein rhwydwaith yn gweithio\u2019n galed i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn cefnogaeth bwrpasol, gan ddarparu hyblygrwydd o ran defnyddio\u2019r Gymraeg mewn asesiadau, gan ddatblygu sgiliau ymhellach mewn ffyrdd sy\u2019n gweddu orau i\u2019w dull dysgu.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Fel darparwr addysg sy\u2019n gweithio ar draws Cymru, mae ACT yn deall pwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg nid yn unig yn cael ei chydnabod yn ei sefydliad ond ei bod yn cael ei defnyddio\u2019n weithredol p\u2019un ai &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-june-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10727","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10727","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10727"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10727\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10741,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10727\/revisions\/10741"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10727"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10727"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10727"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}