{"id":10764,"date":"2024-08-15T07:00:27","date_gmt":"2024-08-15T06:00:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10764"},"modified":"2024-08-12T11:04:47","modified_gmt":"2024-08-12T10:04:47","slug":"act-a-level-results","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-a-level-results\/","title":{"rendered":"Cyfraniad pwysig y mae ymadawyr ysgol yn eu gwneud i fusnesau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-a-level-results\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-a-level-results\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_16166\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/richard_spear_act-scaled-e1692776696167.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16166\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/richard_spear_act-scaled-e1692776696167.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-16166\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16166\" class=\"wp-caption-text\">Richard Spear, ACT Rheolwr Gyfarwyddwr<\/p><\/div>\n<p>Diwrnodau canlyniadau mis Awst yw rhai o ddyddiadau pwysicaf yn y calendr ysgol &#8211; ond fel arweinydd busnes, fe ddylen nhw fod yn ddyddiadau pwysig i chi hefyd.<\/p>\n<p>Bob blwyddyn, mae nifer fawr o ymadawyr ysgol yn edrych at gyflogaeth fel eu cam nesaf \u2013 gan symud i ffwrdd o addysg am y tro cyntaf i fyd cyffrous gwaith. Mae hwn yn gyfnod hanfodol i sefydliadau chwilio am dalent newydd, cyfle i ddod \u00e2 &#8216;chynfas wag&#8217; i mewn i&#8217;r diwydiant a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr yn cael yr hyfforddiant mwyaf cyfredol a pherthnasol i&#8217;ch gweithgareddau.<\/p>\n<p>Gall y gweithwyr newydd hyn fod yn allweddol i ddatblygiad eich busnes. Nid yn unig y mae staff ifanc yn helpu i ddod \u00e2 phersbectif newydd i weithgareddau, maent hefyd yn fuddsoddiad hir dymor gwych, gan hogi eu crefft yng nghyd-destun blaenoriaethau ac ethos eich cwmni.<\/p>\n<p>A gyda <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/almost-half-of-welsh-businesses-report-skills-shortage\/\">bron i hanner busnesau Cymru<\/a> yn dweud bod yna fwlch sgiliau ar hyn o bryd, ni fu dod \u00e2 thalent newydd i&#8217;ch sector erioed yn bwysicach. Mewn gwirionedd, mae 75% o sefydliadau yng Nghymru, sy&#8217;n defnyddio rhaglenni prentisiaeth ar hyn o bryd, yn disgwyl cynyddu neu ymrwymo i&#8217;r un nifer o ddysgwyr dros y 12 mis nesaf, gan amlygu gwerth dysgu seiliedig ar waith fel modd o feithrin talent newydd a mynd i&#8217;r afael ag anghenion sgiliau penodol. <\/p>\n<p>Bydd llawer o bobl sy&#8217;n gadael yr ysgol yn ystyried symud i fyd gwaith drwy gynllun prentisiaeth.<\/p>\n<p>Iddyn nhw, mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill sgiliau, cyfrifoldebau a phrofiadau newydd ac ennill arian ar yr un pryd.<\/p>\n<p>I fusnesau, mae prentisiaethau&#8217;n cynnig cyfle i &#8216;dyfu eich talent eich hun&#8217;, gan feithrin ethos cryf wedi\u2019i seilio ar eich cwmni ac yn y b\u00f4n yn mowldio gweithiwr o&#8217;r cychwyn cyntaf. <\/p>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.apprenticeships.gov.uk\/employers\/understanding-apprenticeship-benefits-and-funding\">ystadegau&#8217;r Llywodraeth<\/a>, mae 86% o gyflogwyr yn dweud bod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau sy&#8217;n berthnasol i&#8217;w sefydliad. Mae mwy na thri chwarter y cyflogwyr (76%) yn nodi cynhyrchiant gwell trwy brentisiaethau, tra bod 74 y cant wedi gweld gwelliant yn ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth.<\/p>\n<p>Yn amlwg, gall denu talent newydd deimlo fel gorchwyl anodd ond felly hefyd yw ceisio dod o hyd i&#8217;ch swydd gyntaf. Felly, dylai cwmn\u00efau gydnabod pwysigrwydd a braint rhoi cyfle cychwynnol i weithiwr ifanc a&#8217;r gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau eu bod yn ffynnu yn y r\u00f4l.<\/p>\n<p>Dylai rhoi cyfle proffesiynol cyntaf i rywun sy&#8217;n gadael yr ysgol fod nid yn unig yn fater o lenwi swydd wag yn eich busnes ond yn fuddsoddiad a chyfraniad gweithredol at ddyfodol cadarnhaol eich diwydiant a&#8217;ch sector.<\/p>\n<p>Mae ACT, ynghyd \u00e2&#8217;i chwaer gwmni ALS, yn ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw sy&#8217;n gweithio gyda dros 600 o gyflogwyr ar hyn o bryd &#8211; gan gynnwys British Heart Foundation, Legal and General a byrddau iechyd y GIG \u2013 i ddarparu prentisiaethau sy&#8217;n gweithio i&#8217;r cyflogwr a&#8217;r gweithiwr.<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n awyddus i ddarganfod sut y gallai llogi prentis weithio i chi, gallwch ddarganfod mwy o fanylion a chysylltu ag <a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/cefnogaeth-i-gyflogwyr\/\">ACT yma.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Diwrnodau canlyniadau mis Awst yw rhai o ddyddiadau pwysicaf yn y calendr ysgol &#8211; ond fel arweinydd busnes, fe ddylen nhw fod yn ddyddiadau pwysig i chi hefyd. Bob blwyddyn, mae nifer fawr o ymadawyr ysgol yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-a-level-results\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10764","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10764","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10764"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10764\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10766,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10764\/revisions\/10766"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10764"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10764"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10764"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}