{"id":10834,"date":"2024-09-19T12:22:45","date_gmt":"2024-09-19T11:22:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10834"},"modified":"2024-09-19T12:22:45","modified_gmt":"2024-09-19T11:22:45","slug":"planed-sept24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/planed-sept24\/","title":{"rendered":"Hyrwyddo llesiant a hunanhyder ymhlith pobl o bob oed"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/PLANED-sept24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/PLANED-sept24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18037\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0084-scaled-e1726569699977.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18037\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0084-scaled-e1726569699977.jpg\" alt=\"Group of young children outside having a lesson\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-18037\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18037\" class=\"wp-caption-text\">John Ewart, PLANED Cydlynydd Cadarnhad yn rhoi adborth i Elemental Adventures, ysgol goedwig yng Ngheredigion.<\/p><\/div>\n<p><strong>A ydych yn gweithio gyda phobl a allai fod angen yr hyder ychwanegol y byddai cymhwyster yn ei gynnig?<\/strong><\/p>\n<p>Mae Prosiect Cadarnhad, a gyflwynir gan PLANED (partneriaeth gymunedol), yn canolbwyntio ar rymuso pobl trwy gydnabod a dathlu eu sgiliau a\u2019u profiad.<\/p>\n<p>Nod Prosiect Cadarnhad yw hyrwyddo llesiant a hunanhyder pobl o bob oed sydd, efallai, yn teimlo eu bod wedi\u2019u hallg\u00e1u rhag addysg brif ffrwd trwy weithio gyda phobl mewn ffyrdd sy\u2019n gwneud iddynt deimlo\u2019n gyfforddus. Gwneir hyn trwy weithio gyda grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i archwilio profiadau a sgiliau y mae unigolion yn eu dysgu neu sgiliau a phrofiadau y mae unigolion yn meddu arnynt eisoes. Mae rhai wedi camu yn eu blaen at brentisiaeth, astudiaeth bellach neu waith.<\/p>\n<p>Dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth 2023, yn dilyn astudiaeth beilot fer ac ar \u00f4l cael arian gan y Loteri Genedlaethol trwy gyfrwng y grant Pobl a Lleoedd. Ers i\u2019r astudiaeth beilot gychwynnol honno ddechrau, mae\u2019r 274 o ddysgwyr o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi cofrestru gydag Agored Cymru, mewn amrywiaeth o bynciau.<\/p>\n<p>Mae PLANED yn ganolfan a gydnabyddir gan Agored Cymru. Caiff ymgeiswyr eu paru ag unedau a chymwysterau Agored Cymru, ac yna c\u00e2nt eu cynorthwyo tra bydd tystiolaeth asesu\u2019n cael ei chasglu. Mae cymwysterau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019r Saesneg a chaiff y llwyddiannau eu cofnodi trwy gyfrwng dulliau sy\u2019n gweddu i\u2019r unigolyn, yn cynnwys ar ddu a gwyn, ar lafar neu ar ffurf fideo.<\/p>\n<p>Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae\u2019r prosiect wedi helpu pobl ifanc i ailasesu eu hagweddau at ddysgu ac at yr ysgol. Gyda chymorth Prosiect Cadarnhad, mae pobl h\u0177n ag anghenion dysgu penodol wedi camu yn eu blaen at gyrsiau eraill ac, mewn ambell achos, maent wedi dod o hyd i waith o ganlyniad uniongyrchol i ennill cymhwyster Agored Cymru.<\/p>\n<p>Mae sefydliadau hyfforddi sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Menter Iaith Gorllewin Sir G\u00e2r wedi cael eu hachredu, a hefyd mae rhaglen hyfforddi ac achredu ar gyfer adran anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol gyfun leol wrthi\u2019n cael ei datblygu.<\/p>\n<p><strong>Milford Youth Matters<\/strong> oedd y sefydliad cyntaf y gweithiodd Prosiect Cadarnhad gydag ef, a chafodd pobl ifanc dystysgrifau mewn gweithgareddau chwaraeon a gwasanaethau i gwsmeriaid.<\/p>\n<p><strong>Mae Prosiect Harbwr Ysgol Bro Gwaun<\/strong> yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion cymhleth dwys sy\u2019n dysgu cwricwlwm sgiliau bywyd amgen. Yn sgil y dull arloesol a rydd Prosiect Cadarnhad ar waith gogyfer casglu ac asesu tystiolaeth am ddysgwyr, mae\u2019r bobl ifanc wedi llwyddo i ennill achrediad Agored Cymru.<\/p>\n<div id=\"attachment_18039\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0329-e1726569785381.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18039\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0329-e1726569785381.jpeg\" alt=\"A learner being presented with her certificate.\" width=\"460\" height=\"418\" class=\"size-full wp-image-18039\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18039\" class=\"wp-caption-text\">Cyflwyno tystysgrifau i bobl ifanc i Zoe Davies, rheolwr Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc POINT yn Abergwaun.<\/p><\/div>\n<p><strong>Dywedodd Darren Howells, Prif Weithredwr, Agored Cymru:<\/strong><br \/>\n\u201cRydym yn falch iawn o weithio gyda PLANED a\u2019u cefnogi  yn eu hymrwymiadau i helpu dysgwyr i ymgysylltu ag addysg beth bynnag fo\u2019u hamgylchiadau.<\/p>\n<p>Mae gweld dysgwyr a allai fod wedi gweld addysg fel rhwystr yn cyflawni eu nodau yn bleser ac yn ysgogol ac mae\u2019n anrhydedd gan Agored Cymru fod yn rhan o\u2019u llwyddiant<\/p>\n<p>Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a\u2019r modd y gall helpu eich sefydliad chi a\u2019r unigolion rydych yn gweithio gyda nhw, cysylltwch \u00e2 John Ewart, Cydgysylltydd Prosiect PLANED ar <a href=\"mailto:john.ewart@planed.org.uk\">john.ewart@planed.org.uk<\/a> neu ffoniwch 01834 860965.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/planed.org.uk\/cy\/hafan\/\">PLANED<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg A ydych yn gweithio gyda phobl a allai fod angen yr hyder ychwanegol y byddai cymhwyster yn ei gynnig? Mae Prosiect Cadarnhad, a gyflwynir gan PLANED (partneriaeth gymunedol), yn canolbwyntio ar rymuso pobl trwy gydnabod a dathlu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/planed-sept24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10834","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10834","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10834"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10834\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10881,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10834\/revisions\/10881"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10834"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10834"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10834"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}