{"id":10836,"date":"2024-09-26T07:00:41","date_gmt":"2024-09-26T06:00:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10836"},"modified":"2024-09-21T12:32:02","modified_gmt":"2024-09-21T11:32:02","slug":"act-news-sept24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept24\/","title":{"rendered":"&#8220;Mae&#8217;r cwrs hwn wedi fy nghymell ymhell y tu hwnt i&#8217;r hyn roeddwn i\u2019n ei ddisgwyl&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ACT-news-sept24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ACT-news-sept24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ACT-sept24-e1726570407550.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ACT-sept24-e1726570407550.jpg\" alt=\"Young women teaching a group of children.\" width=\"460\" height=\"306\" class=\"alignleft size-full wp-image-18046\" \/><\/a><\/p>\n<p>I lawer, atyniad dysgu seiliedig ar waith yw ei hyblygrwydd a&#8217;r gallu i ennill sgiliau newydd yn ystod oriau gwaith. Ar gyfer y cynorthwyydd addysgu Karen De Freitas roedd y rhyddid hwn yn hanfodol i gyd-fynd \u00e2&#8217;i r\u00f4l fel rhiant.<\/p>\n<p>Roedd Karen eisiau uwchsgilio ond roedd angen cwrs allai weithio o amgylch ei swydd mewn ysgol gynradd arni. Dyna pryd y daeth o hyd i&#8217;r cymhwyster Lefel 3 Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (STLS) gydag ACT.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymhwyster yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o&#8217;u r\u00f4l a&#8217;u cyfrifoldebau mewn lleoliad addysg, gan ddatblygu eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a&#8217;u hyder yn eu gwaith gyda phlant a chydweithwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd yn gwrs y gallwn i ei gwblhau wrth weithio,&#8221; esboniodd Karen. &#8220;Roedd yr hyblygrwydd yn allweddol. Roeddwn i&#8217;n gallu gwella fy sgiliau llythrennedd a rhifedd a gwella fy ngwybodaeth yn y r\u00f4l.&#8221;<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 gwella sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, canfu Karen fod y cymhwyster yn rhoi hwb i\u2019w hyder.<\/p>\n<p>Dywedodd: &#8220;Rwy&#8217;n well cynorthwyydd addysgu nag o&#8217;r blaen. Rwy&#8217;n teimlo&#8217;n fwy sicr ac yn fwy hyderus yn yr hyn rwy&#8217;n ei wneud. Dwi ddim yn teimlo&#8217;n anghymwys mwyach.&#8221;<\/p>\n<p>Wrth siarad am ymarferoldeb cwblhau cymhwyster wrth weithio, dywedodd Karen: &#8220;Roedd yn wych oherwydd roeddwn i&#8217;n gallu gweithio yn fy mhwysau ac yn fy lle fy hun. Roedd y dyddiadau cau yn gyraeddadwy.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd fy aseswr, Charlotte, yn wych. Roedd dau achlysur lle roeddwn i&#8217;n agos at roi&#8217;r ffidil yn y  to. Dim byd i&#8217;w wneud \u00e2&#8217;r cwrs, ond i wneud \u00e2 hyder a gwydnwch. Yn fy nghyfarfodydd \u00e2 Charlotte, roedd ei chefnogaeth a\u2019i hanogaeth yn rhyddhad ac yn hwb i fi orffen fy nghwrs. Ac mi wnes i.<\/p>\n<p>Roedd fy nghyflogwr hefyd yn gefnogol ac yn gynorthwyol. Roedden nhw&#8217;n wych yn galluogi i Charlotte fynd i fy asesu yn y gwaith.&#8221;<\/p>\n<p>Er gwaethaf ambell i rwystr ar hyd y ffordd, mae Karen yn awyddus i barhau i ddysgu ac mae hi bellach wedi gosod ei golygon ar her hyd yn oed yn fwy.<\/p>\n<p>Meddai: &#8220;Mae&#8217;r cwrs hwn, fy nghydweithwyr a Charlotte wedi fy ysgogi i fynd ymhell y tu hwnt i&#8217;r hyn roeddwn i&#8217;n ei ddisgwyl \u2013 ac rwy wedi rhoi fy mryd ar ennill gradd. Rwyf wedi mentro ac rwy&#8217;n fenyw brifysgol nawr, yn aros i ddechrau\u2019r antur nesaf.&#8221;<\/p>\n<p>Pan ofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw eiriau o anogaeth i rywun sydd ar y ffens ynghylch dilyn cwrs ai peidio, dywedodd Karen: &#8220;Cer amdani, mae&#8217;n gyfle gwych i ddysgu pethau newydd a thanio dy ymennydd. Os wyt ti&#8217;n fam fel fi, mae&#8217;n gyfle i wneud rhywbeth drosot ti dy hun. Rwyt ti&#8217;n ei gwblhau yng nghysur dy gartref, gyda llwyth o gefnogaeth, a byddi di byth ar dy ben dy hun.&#8221;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg I lawer, atyniad dysgu seiliedig ar waith yw ei hyblygrwydd a&#8217;r gallu i ennill sgiliau newydd yn ystod oriau gwaith. Ar gyfer y cynorthwyydd addysgu Karen De Freitas roedd y rhyddid hwn yn hanfodol i gyd-fynd \u00e2&#8217;i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10836","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10836","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10836"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10836\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10892,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10836\/revisions\/10892"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10836"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10836"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10836"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}