{"id":10841,"date":"2024-09-26T07:00:54","date_gmt":"2024-09-26T06:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10841"},"modified":"2024-09-23T19:26:50","modified_gmt":"2024-09-23T18:26:50","slug":"educ8-news-sept24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-news-sept24\/","title":{"rendered":"Canfod y ffordd trwy&#8217;r Dirwedd Ynni: Taith ym maes Rheoli Carbon"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-news-sept24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-news-sept24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18052\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Educ8-Michael-Vernall-scaled-e1726576359470.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18052\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Educ8-Michael-Vernall-scaled-e1726576359470.jpeg\" alt=\"Michael Vernall, apprentice at Hydro Aluminium UK.\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-18052\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18052\" class=\"wp-caption-text\">Michael Vernall, prentis gyda Hydro Aluminium UK.<\/p><\/div>\n<p>Yn ddiweddar, bu Educ8 Training yn siarad \u00e2 Michael Vernall, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a&#8217;r Amgylchedd yn Hydro Aluminium UK. Bu&#8217;n rhannu ei brofiad o astudio ar gyfer eu cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon a&#8217;r ffordd mae hynny&#8217;n ei helpu yn y gwaith.<\/p>\n<p>Mae Educ8 Training yn cynnig amryw o wahanol lwybrau prentisiaethau arloesol a ariannir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Felly, gall unigolion fel Michael astudio ar gyfer cymhwyster achrededig mewn meysydd newydd fel Rheoli Ynni a Charbon a Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, sydd \u00e2\u2019r nod o gyflwyno sgiliau a gwybodaeth ffres, gan wella nid yn unig eu perfformiad nhw, ond ychwanegu gwerth hefyd at y t\u00eem ehangach a&#8217;r busnes.  <\/p>\n<p>Tua dechrau 2024, cychwynnodd Michael ar bennod newydd yn ei yrfa trwy ddechrau prentisiaeth mewn Rheoli Ynni a Charbon. Ym maes iechyd, diogelwch a rheoli amgylcheddol mae cefndir Michael ac mae ei swydd yn Hydro Aluminium UK Ltd wedi datblygu dros dair blynedd a hanner i gwmpasu amrywiaeth eang o gyfrifoldebau gan ganolbwyntio ar dargedau sero net y llywodraeth.<\/p>\n<p><strong>Dilyn prentisiaeth<\/strong><br \/>\nCafodd Michael ei ysgogi i ddilyn prentisiaeth Rheoli Ynni a Charbon, Lefel 3 gydag Educ8 Training gan fod gofynion ei swydd yn esblygu a&#8217;r diwydiant ehangach yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Oherwydd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gyrraedd Sero Net erbyn 2030, roedd yn gweld pwysigrwydd deall y strategaethau cynaliadwyedd a monitro perfformiad ynni. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 rhoi\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau angenrheidiol iddo, mae\u2019r brentisiaeth yn rhannu dangosyddion perfformiad allweddol ei gwmni ar gyfer lleihau allyriadau carbon erbyn 2025 a 2030. Daeth budd o&#8217;r rhaglen eisoes, oherwydd mae wedi ei alluogi i reoli perfformiad ynni\u2019r safle&#8217;n well a chyfrannu at dargedau cynaliadwyedd y cwmni. Erbyn hyn, maent yn ystyried gosod paneli solar ar eu to ac maent wedi sicrhau gostyngiad o 98% mewn gwastraff ar-y-safle.<\/p>\n<p><strong>Rheoli perfformiad amgylcheddol<\/strong><\/p>\n<p><strong>Meddai Michael:<\/strong> \u2018Yn fy ngwaith yn Hydro Aluminium UK rwy&#8217;n goruchwylio iechyd, diogelwch a pherfformiad amgylcheddol safle Bedwas. Rwy\u2019n cynghori uwch reolwyr ar faterion deddfwriaethol ac yn trafod ein perfformiad amgylcheddol gyda chyrff allanol fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Felly mae&#8217;n bwysig bod gennyf wybodaeth a dealltwriaeth dda o gyfreithiau ac arferion cyfredol ym maes iechyd a diogelwch yn ogystal \u00e2 chadwraeth amgylcheddol.\u2019<\/p>\n<p><strong>Cydbwyso Gwaith, Astudio a Bywyd<\/strong><br \/>\nR\u0177n ni&#8217;n cwrdd yn rheolaidd dros Microsoft Teams i drafod y tasgau a\u2019r aseiniadau a sut y dylwn fynd atynt. R\u0177n ni&#8217;n cytuno erbyn pryd mae angen cyflwyno&#8217;r gwaith a phryd y byddwn yn cwrdd nesaf. Weithiau rwy&#8217;n mynd dramor i weithio a dydw i ddim yn gallu cyflwyno mewn pryd. Bryd hynny, mae Suzanne wedi bod yn hyblyg ac wedi cytuno i ohirio&#8217;r sesiynau a\u2019r dyddiadau cau i mi. Mae hyn yn gwneud pethau&#8217;n fwy hwylus. Fel llawer, rwy&#8217;n gweithio&#8217;n llawn amser ac mae gen i fywyd prysur gartref.<br \/>\nRwy&#8217;n gwybod y gallaf i ebostio neu ffonio Suzanne os bydd angen help arnaf. Diolch i\u2019r cymorth hwn rwy wedi gallu aros ar ben fy ngwaith a symud ymlaen trwy\u2019r gwahanol fodiwlau.\u2019<\/p>\n<p><strong>Cynlluniau at y Dyfodol<\/strong><br \/>\nBwriad Michael yw ymddeol o fewn y tair blynedd nesaf a threulio mwy o amser gyda&#8217;i deulu. Byddai&#8217;n hoffi gwneud rhywbeth i gadw&#8217;n brysur ar \u00f4l ymddeol hefyd.<br \/>\nMeddai:\u2018Bu&#8217;n nod gen i erioed i astudio ac ennill cymhwyster Meistr. Dydw i ddim wedi gallu gwneud hynny hyd yma oherwydd prysurdeb gwaith a chartref ond rwy\u2019n teimlo y gallaf i weithio tuag ato ar \u00f4l ymddeol.\u2019 <\/p>\n<p>Mae Educ8 Training Group yn dal i ddadlau dros brentisiaethau a grymuso busnesau ac unigolion ledled Cymru i fuddsoddi yn eu dyfodol. Gan eu bod yn cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau, mae cyfle i bawb ffynnu. <\/p>\n<p>Os hoffech wybod rhagor am brentisiaethau, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/cy\/\">educ8training.co.uk<\/a> neu ff\u00f4n 01443 749000.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn ddiweddar, bu Educ8 Training yn siarad \u00e2 Michael Vernall, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a&#8217;r Amgylchedd yn Hydro Aluminium UK. Bu&#8217;n rhannu ei brofiad o astudio ar gyfer eu cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon a&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-news-sept24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10841","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10841","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10841"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10841\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10912,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10841\/revisions\/10912"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10841"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10841"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10841"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}