{"id":10885,"date":"2024-09-26T07:00:48","date_gmt":"2024-09-26T06:00:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=10885"},"modified":"2024-09-24T02:19:53","modified_gmt":"2024-09-24T01:19:53","slug":"calls-on-fm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/calls-on-fm\/","title":{"rendered":"NTFW yn galw ar y Prif Weinidog i adfer cyllid prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/calls-on-fm\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/calls-on-fm\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn galw ar y Prif Weinidog Eluned Morgan i ddad-wneud y toriad o 14% a wnaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ei Rhaglen Brentisiaethau arloesol. <\/p>\n<div id=\"attachment_18111\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/15.12.23-mh-ACC24-Cardiff-and-Vale-Health-4-scaled-e1726843020817.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18111\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/15.12.23-mh-ACC24-Cardiff-and-Vale-Health-4-scaled-e1726843020817.jpg\" alt=\"Emma Bendle, apprenticeship and widening access co-ordinator and staff and apprentices outside Cardiff and Vale University Health Board offices.\" width=\"460\" height=\"302\" class=\"size-full wp-image-18111\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18111\" class=\"wp-caption-text\">Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad (canol) a staff a phrentisiaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p><\/div>\n<p>Ysgrifennodd Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW a Dr Barry Walters, cadeirydd Gr\u0175p Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd ColegauCymru, lythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn pwysleisio&#8217;r \u201crhan hollbwysig\u201d mae prentisiaethau\u2019n ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu medrus. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r llythyr yn nodi bod y pryderon difrifol a godwyd gan gyflogwyr, y CBI a&#8217;r Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch maint y toriad yn y cyllid yn cael eu gwireddu erbyn hyn.<\/p>\n<p>Roeddent yn datgan bod y toriadau wedi:<\/p>\n<ul>\n<li>Lleihau cyfleoedd i bobl ifanc;<\/li>\n<li>Rhoi mwy o straen ar gyflogwyr;<\/li>\n<li>Effeithio ar rannau allweddol o&#8217;r economi a&#8217;r sector cyhoeddus;<\/li>\n<li>Amharu ar weithlu proffesiynol darparwyr dysgu;<\/li>\n<li>Effeithio&#8217;n benodol ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd, aeth Llywodraeth Cymru ymlaen \u00e2\u2019r toriad \u201cdigynsail\u201d o 14% yn y cyllid ar gyfer 2024-25, a fyddai&#8217;n arwain at oblygiadau economaidd hirdymor i Gymru. <\/p>\n<p>\u201cO ystyried yr effeithiau sylweddol hyn, mae\u2019n hanfodol ein bod yn symud tuag at adfer cyllid i\u2019r gyllideb brentisiaethau am weddill tymor y Senedd hon,\u201d dywed y llythyr.  \u201cByddai toriadau pellach yn eithriadol o niweidiol. <\/p>\n<p>\u201cTrwy adfer y cyllid a pharhau i ganolbwyntio ar lwybrau i waith, gallwn sicrhau bod prentisiaethau\u2019n dal yn rhaglen o bwys i Lywodraeth Cymru ac yn dal i chwarae rhan hanfodol yn cynnal blaenoriaethau\u2019r llywodraeth, fel gostwng diweithdra, hybu symudedd cymdeithasol a meithrin datblygiad economaidd.  <\/p>\n<p>\u201cRydym yn hyderus y gallwn gydweithio o dan eich arweiniad chi i adfer a gwella ein rhaglenni prentisiaethau, gan ddarparu\u2019r cyfleoedd y mae ar bobl ifanc eu hangen i lwyddo a chyfrannu at les cyffredinol ein cymdeithas.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau&#8217;n helpu i greu Cymru fwy cyfartal, yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy ac yn sylfaen ar gyfer llawer o\u2019n gwasanaethau cyhoeddus allweddol, fel y GIG. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n anochel y bydd gweithlu llai medrus yn arwain at ostyngiad mewn cynhyrchiant, cyflogau is a llai o dwf economaidd.  Mae buddsoddi mewn prentisiaethau&#8217;n golygu buddsoddi yn ffyniant y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Yr NTFW yw llais darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae&#8217;n dal i godi llais dros eu hanghenion. <\/p>\n<p>\u201cWrth ymwneud \u00e2 llunwyr polisi yn ddiweddar roeddem yn canolbwyntio ar ddadlau dros gyllid cynaliadwy a chymorth rheoleiddiol i wella rhaglenni prentisiaeth,\u201d esboniodd Lisa.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r NTFW yn atgyfnerthu partneriaethau ag arweinwyr diwydiant er mwyn gwella ansawdd prentisiaethau a&#8217;u gwneud yn fwy perthnasol.  Wrth gydweithio \u00e2 busnesau ein nod yw sicrhau bod hyfforddiant yn ateb anghenion y gweithlu, a bod prentisiaid yn dysgu&#8217;r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  <\/p>\n<p>\u201cWrth i ni symud ymlaen, mae&#8217;r NTFW yn dal i ymroi i gefnogi&#8217;n haelodau trwy eiriolaeth, adnoddau a chydweithio.  Rydym yn gwahodd aelodau i gynnig barn a syniadau am y ffordd rydym yn cydweithio i gryfhau sefyllfa prentisiaethau. <\/p>\n<p>Diolchodd i aelodau&#8217;r NTFW am ddal ati i ymroi i hyfforddiant ragorol i brentisiaid yng Nghymru a dywedodd eu bod yn cael cryn effaith ar weithlu&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar cyfarfu&#8217;r NTFW, Deiliaid Contractau a Gomisiynwyd a chynrychiolwyr ColegauCymru \u00e2 thimau Medr a staff Llywodraeth Cymru sy\u2019n gyfrifol am raglenni prentisiaethau a cyflogadwyedd i drafod cydweithio a heriau\u2019r dyfodol.  <\/p>\n<p>Ar 18 Medi, cynhaliwyd cyfarfod o&#8217;r Gr\u0175p Trawsbleidiol ar Brentisiaethau mewn partneriaeth \u00e2 ColegauCymru.  Bu aelodau Bwrdd NTFW a phenaethiaid colegau&#8217;n holi Simon Pirotte, prif weithredwr Medr a\u2019i d\u00eem am ffyrdd newydd o weithio, ariannu a chontractio a dyfodol sgiliau a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Ymhlith y digwyddiadau sydd ar y gweill mae seminar brecwast NTFW gyda rhanddeiliaid ym mis Tachwedd.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn galw ar y Prif Weinidog Eluned Morgan i ddad-wneud y toriad o 14% a wnaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ei Rhaglen Brentisiaethau arloesol. Ysgrifennodd Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/calls-on-fm\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-10885","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10885","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10885"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10885\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10922,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10885\/revisions\/10922"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10885"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10885"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10885"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}