{"id":1100,"date":"2012-04-02T10:00:24","date_gmt":"2012-04-02T10:00:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=1100"},"modified":"2012-04-02T11:01:57","modified_gmt":"2012-04-02T11:01:57","slug":"taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\/","title":{"rendered":"Taflen Newyddion NTfW \u2013 Mawrth 2012"},"content":{"rendered":"<h3 class=\"newsletter-posts\">Cynnwys y daflen newyddion<\/h3>\n<p><a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-01\">Aelodau NTfW yn helpu i gydnabod dysgu blaenorol ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-02\">Rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-03\">Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru \u2013 Prosiect Ymchwil Microfusnesau<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-04\">UCMC \u2013 Cerdyn Apprentice Extra<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-05\">Dinasyddiaeth a Diwylliant<\/a><\/p>\n<h3 class=\"newsletter-posts\">Newyddion gan y Rhanbarthau<\/h3>\n<p><a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-06\">Gr\u0175p Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy yn dathlu prentisiaethau gyda&#8217;r Siambr Fasnach<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-07\">Y De&#8217;n Arwain y Ffordd i Rannu CPD<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-08\">Conduit yn symud i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-09\">Cydnabod Llwyddiant NVQ gydag Excelsior Plus<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-10\">Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-11\">Mae ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru, wedi agor Academi Sgiliau ar ei newydd wedd yng Nghaerffili i helpu i leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-12\">Seminar i annog defnyddio&#8217;r Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn y de orllewin<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-13\">Seminarau i drafod sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt<\/a><\/p>\n<h3 class=\"newsletter-posts\">Newyddion Busnes<\/h3>\n<p><a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-14\">Gwybod faint o wyliau i&#8217;w rhoi i&#8217;ch staff<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-15\">Defnyddio eich cynllun busnes i gael cyllid<\/a><br \/>\n<a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-16\">Iaith Fyw: Iaith Byw<\/a><\/p>\n<h3 class=\"newsletter-posts\">Dates for your diary<\/h3>\n<p><a class=\"newsletter-posts\" href=\"#nlw-mar-12-17\">Check dates for the latest events<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-01\">Aelodau NTfW yn helpu i gydnabod dysgu blaenorol ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/wrc-dpia-logos-300x56.gif\" alt=\"\" title=\"wrc-dpia-logos\" width=\"300\" height=\"56\" class=\"alignleft size-medium wp-image-2284\" \/><\/p>\n<p>Mae cynllun peilot cyffrous lle mae aelodau NTfW, Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) ac Alltudion ar Waith (DPiA) yn cydweithio wedi cael ei draed dano yn ne Cymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun peilot yn rhan o gynllun braenaru ehangach ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol. Ei nod yw sefydlu rhaglen gynaliadwy sy&#8217;n cydnabod dysgu blaenorol pobl sydd \u00e2 statws ffoaduriaid yng Nghymru a&#8217;r sgiliau sydd ganddynt eisoes trwy brosesau sydd eisoes ar waith mewn fframweithiau credydau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun peilot yn helpu chwech o bobl i fynd trwy&#8217;r \u201cbroses RPL\u201d ym meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adeiladu a Manwerthu.  Mae&#8217;r arwyddion cyntaf gan y tri darparwr (A4e, Acorn Learning Solutions a TSW Training) yn awgrymu bod y cynllun peilot yn mynd yn dda ac, oherwydd natur y bobl sydd arno, ei fod yn \u201cymestyn y systemau mewnol\u201d.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gwerthuso&#8217;r cynllun peilot, bwriedir cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru gyda&#8217;r nod o sicrhau cyllid ar gyfer rhaglen gynaliadwy lle byddai Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn helpu&#8217;r rhai y mae&#8217;r Swyddfa Gartref yn eu hanfon i Gymru ac sy&#8217;n eithriadol o awyddus i weithio yng Nghymru.<\/p>\n<p>Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 Jeff Protheroe, Ebost:  <a href=\"mailto:jeff.protheroe@ntfw.org\">jeff.protheroe@ntfw.org<\/a> neu ff\u00f4n symudol: 07425 621711.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-02\">Rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/MFL.jpg\" alt=\"Money For Life Challenge\" title=\"MFL\" width=\"440\" height=\"120\" class=\"alignleft size-full wp-image-2287\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Her Arian am Oes<\/h3>\n<p>Mae ColegauCymru ac NTfW yn llawn cyffro am yr her Arian am Oes (MFL). Mae&#8217;r syniadau am brosiectau wedi&#8217;u cyflwyno a rhoddwyd grantiau i 40 prosiect yng Nghymru (104 ledled y DU). Da iawn chi, Canolfan Adnoddau Blaenau Gwent, Babcock Training, ACT, A4E a nifer fawr o golegau am gyflwyno cynigion dyfeisgar. Cafodd cyfanswm o 11 grant eu cymeradwyo ar gyfer y cyrff hyn sy&#8217;n darparu dysgu seiliedig ar waith. Cyflwynir y prosiectau gorffenedig erbyn 16 Mawrth a bydd y beirniadu cychwynnol yn digwydd yng Nghymru ar 19 a 20 Mawrth. Bydd y pum prosiect sy&#8217;n cyrraedd y brig a nifer o rai agos atynt yn cael eu gwahodd i achlysur yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Ebrill. Bydd cyfle i&#8217;r rhai sydd yn rownd derfynol Cymru gyflwyno&#8217;u syniadau i wahoddedigion a phanel o feirniaid a fydd yn penderfynu ar enillydd cenedlaethol Cymru a \u2018dewis y bobl&#8217; ar y diwrnod. Bydd yr enillydd cenedlaethol yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU yn Llundain ar 24 Mai. Dymuniadau gorau i bawb sy&#8217;n cymryd rhan! Cewch bleidleisio dros eich hoff brosiect trwy Facebook a twitter, felly cofiwch fynd i wefan Arian am Oes ar \u00f4l 16 Mawrth gan y bydd pob pleidlais yn cyfrif. <\/p>\n<h3>Cyrsiau Teach Others a Teach Me<\/h3>\n<p>Teach Others: Mae rhaglen Teach Others ar gyfer eleni yn tynnu tua&#8217;i therfyn ac rydym wedi ymateb i&#8217;r galw trwy drefnu dwy sesiwn arall o&#8217;r rhaglen. Os oes gennych chi neu gydweithiwr ddiddordeb mewn dilyn Teach Others, mae rhai llefydd wedi&#8217;u hariannu&#8217;n llawn ar \u00f4l.  Gan nad ydym yn siwr a fydd y rhaglen yn parhau ar \u00f4l mis Mai, efallai mai&#8217;r rhain fydd y llefydd olaf a gawn sydd wedi&#8217;u hariannu&#8217;n llwyr.<\/p>\n<p>Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) sydd wedi bod ar y cwrs yn canmol y cynnwys yn fawr ac yn dweud ei fod yn werthfawr iddyn nhw a&#8217;u sefydliadau.<\/p>\n<p>&#8216;Mae&#8217;r cwrs Teach Others wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Mae wedi rhoi digon o syniadau i mi am gyflwyno Cymhwyso Rhif i ddysgwyr mewn meysydd ariannol sy&#8217;n berthnasol i&#8217;w hyfforddiant yn y gweithle a&#8217;r sgiliau ehangach sy&#8217;n eu helpu i gael gwaith.&#8217;   Kate Hall, Ymgynghorydd Hyfforddiant Trin Gwallt \u2013 ISA Training<\/p>\n<p>Gellir gwneud cais trwy fynd i: <a href=\"http:\/\/www.moneyforlifeprogramme.org.uk\/qualifications\/\">http:\/\/www.moneyforlifeprogramme.org.uk\/qualifications\/<\/a><br \/>\nDim ond pedwar lle sydd ar gael ar ein cwrs yng Nghaerdydd (14 a 28 Mawrth).<br \/>\nCynhelir ein dau gwrs newydd Teach Others ar y dyddiadau isod:<br \/>\nCaerfyrddin 17\/04\/12 (Diwrnod 1) a 01\/05\/12 (Diwrnod 2)<br \/>\nColeg Llandrillo, Campws Rhos  15\/05\/12 (Diwrnod 1) a 29\/05\/12 (Diwrnod 2)<br \/>\nDiolch am helpu i roi&#8217;r gair ar led.<\/p>\n<p>Teach Me: Mae llefydd ar gael tan ddiwedd Mai ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar y cwrs ar lein hwn sy&#8217;n cael ei ariannu&#8217;n llawn. Mae&#8217;n gyfle gwych i chi neu&#8217;ch staff gymryd rhan mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) mewn Gallu Ariannol trwy eich rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Mae nifer o ddarparwyr sydd wedi cwblhau&#8217;r cwrs yn dweud eu bod wedi dysgu llawer ac wedi meithrin sgiliau sy&#8217;n hwb i&#8217;w hyder ac wedi rhoi syniadau iddynt ar gyfer rhaglenni Sgiliau Hanfodol Cymru, Sgiliau Sylfaenol a&#8217;r Adduned Cyflogwr. Mae&#8217;r cwrs yn cynnwys deg awr o ddysgu ar lein ac mae&#8217;n cael ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored (OCN).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod rhagor am y rhaglen Arian am Oes, yr her neu gyrsiau staff wedi&#8217;u ariannu&#8217;n llawn, ewch i <a href=\"http:\/\/www.moneyforlifeprogramme.org.uk\">www.moneyforlifeprogramme.org.uk<\/a>.<\/p>\n<p>Neu gallwch gysylltu \u00e2 Clara Weekley <a href=\"mailto:clara.weekley@ntfw.org\">clara.weekley@ntfw.org<\/a> neu Julia Owens <a href=\"julia.owens@colegaucymru.ac.uk\">julia.owens@colegaucymru.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-03\">Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru \u2013 Prosiect Ymchwil Microfusnesau<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/lmw.jpg\" alt=\"Leadership &amp; Management Wales\" title=\"lmw\" width=\"440\" height=\"79\" class=\"alignleft size-full wp-image-2295\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect ymchwil microfusnesau yn tynnu tua&#8217;r terfyn.  Mae angen holi nifer o gyflogwyr a llunio tipyn o astudiaethau achos yn ystod mis Mawrth a disgwylir y bydd yr adroddiad terfynol a&#8217;r canfyddiadau&#8217;n cael eu cyflwyno i Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARhC) ym mis Mai, a&#8217;u cyhoeddi ym mis Mehefin.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr i&#8217;r holl ddarparwyr sydd wedi cyfrannu at y prosiect hyd yma trwy ddod i gwrpiau ffocws, darparu cronfeydd data o&#8217;u microgyflogwyr i&#8217;w holi a rhannu cysylltiadau \u00e2 rhanddeiliaid allanol.<\/p>\n<p>Bydd arolwg gwerthuso terfynol i&#8217;w weld ar Moodle dros yr wythnosau diwethaf, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn parhau i gefnogi trwy ei anfon at eich holl ficrogyflogwyr a&#8217;i lenwi eich hunan os ydych yn ddarparwr sydd \u00e2 9 aelod o staff neu lai.<\/p>\n<p>Trwy ein cysylltiadau ag ARhC, gofynnwyd i ni dynnu sylw at gyfleoedd am gymorth a chyllid a all fod o ddiddordeb i&#8217;n haelodau. <\/p>\n<p>Rhaglen datblygu&#8217;r gweithlu \u2013 cyllid dewisol.  Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol (HRD) i gydweithio \u00e2 chwmni heb godi t\u00e2l arnynt i:<\/p>\n<ul>\n<li>Adolygu strategaeth y cwmni er mwyn sicrhau bod holl waith datblygu a hyfforddi&#8217;r staff yn helpu i gyflawni amcanion y busnes<\/li>\n<li>Helpu&#8217;r cwmni i wella&#8217;r ffordd y mae&#8217;n edrych ar reoli a hyfforddi trwy baratoi cynllun datblygu y cytunir arno, a chynnig cyngor yngl&#375;n \u00e2&#8217;i weithredu <\/li>\n<li>Penderfynu ar y gofynion hyfforddi a datblygu a pharatoi cynllun dysgu y cytunir arno<\/li>\n<li>Helpu&#8217;r cwmni i gwrdd \u00e2&#8217;i anghenion hyfforddi a datblygu trwy ei gysylltu \u00e2 sefydliadau hyfforddi a sicrhau&#8217;r cyrsiau cywir<\/li>\n<li>Helpu&#8217;r cwmni i sicrhau dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y cynghorydd yn ceisio sicrhau&#8217;r trefniadau mwyaf manteisiol ar gyfer y cynllun dysgu, gan ddefnyddio mentrau Llywodraeth Cymru.  Lle na ellir diwallu anghenion hyfforddi a datblygu trwy raglenni sy&#8217;n bodoli eisoes, gellir trefnu bod cyllid dewisol ar gael.  Trwy gyllid dewisol, bydd Llywodraeth Cymru&#8217;n cynnig cymhorthdal o 50% ar gyfer yr hyfforddiant y cytunir arno ar y cynllun dysgu (hyd at derfynau y cytunir arnynt).<\/p>\n<p>Ar gyfer pwy y mae hyn? <\/p>\n<ul>\n<li>Busnesau \u00e2 10 neu fwy o weithwyr (dylai busnesau \u00e2 9 neu lai o weithwyr droi at yr adran cais uniongyrchol);<\/li>\n<li>Mae pob busnes yn y sector preifat yn gymwys ar yr amod nad ydynt wedi cael cymorth trwy&#8217;r llwybr hwn o&#8217;r blaen;<\/li>\n<li>Gall busnesau sector cyhoeddus gael cymorth cynghorydd HRD am d\u00e2l gostyngol ond ni fyddant i gael cyllid dewisol;<\/li>\n<li>Rhaid bod prif swyddfa&#8217;r busnesau yng Nghymru;<\/li>\n<li>Nid yw busnesau&#8217;n gymwys i gael cyllid dewisol os ydynt eisoes wedi cael cydnabyddiaeth IiP; fodd bynnag gallant wneud cais uniongyrchol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os hoffech ragor o wybodaeth neu ffurflen gais, ffoniwch y Llinell Sgiliau Busnes ar 0845 60 661 60 neu ebostio <a href=\"mailto:info@skillspeoplesuccess.com\">info@skillspeoplesuccess.com<\/a> <\/p>\n<p>I gael rhagor o wybdoaeth am y Cronfeydd Dewisol, dilynwch y ddolen hon: <a href=\"http:\/\/lmw.org.uk\/cy\/cyllid\/workforce-development-programme-discretionary-funding\/\">http:\/\/lmw.org.uk\/cy\/cyllid\/workforce-development-programme-discretionary-funding\/<\/a><\/p>\n<p>Mae rhestr o&#8217;r cyrsiau sydd wedi&#8217;u cymeradwyo ar gyfer cyllid dewisol arweinyddiaeth a rheolaeth i&#8217;w gweld isod. Os hoffech wybod a fyddai rhaglen hyfforddi benodol yn cael cyllid ELMS, cysylltwch \u00e2&#8217;ch cynghorydd HRD (os yw&#8217;n berthnasol) neu ebostiwch elmsenquiries@cymru.gsi.gov.uk<\/p>\n<p>Rhestr gymeradwy o gyrsiau ELMS  <\/p>\n<p>Sylwch: Mae&#8217;r holl gyllid arweinyddiaeth a rheolaeth yn dod yn rhannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-04\">UCMC \u2013 Cerdyn Apprentice Extra<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/nus-extra.jpg\" alt=\"NUS extra card\" title=\"nus-extra\" width=\"205\" height=\"234\" class=\"alignleft size-full wp-image-2298\" \/><\/p>\n<p>Mae Cerdyn Apprentice Extra UCM yn gweithio&#8217;n iawn erbyn hyn ac mae ar gael i ddysgwyr yng Nghymru sy&#8217;n gwneud prentisiaethau.<\/p>\n<p>Roedd rhai anawsterau ar y dechrau i ddarparwyr oedd yn dymuno cofrestru fel sefydliad cydnabyddedig ond mae&#8217;r rhain wedi&#8217;u datrys a daeth y cerdyn yn boblogaidd iawn dros y misoedd diwethaf. Mae&#8217;r Cerdyn ar gael yn Lloegr hefyd erbyn hyn ac felly, os ydych yn rheoli contractau yno, cofiwch s\u00f4n wrth eich cydweithwyr.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Cerdyn yn rhoi gostyngiadau ar wahanol eitemau hanfodol o dros 120 o siopau&#8217;r Stryd Fawr a gwerthwyr ar lein. Mae&#8217;n cdanolbwyntio ar roi gostyngiadau ar eitemau sy&#8217;n arbennig o berthnasol i Brentisiaid, fel offer, gwisgoedd ac ati. Gyda&#8217;r cerdyn, gallwch arbed tua \u00a3525 y flwyddyn ar deithio, chwaraeon, llyfrau a DVDS, technoleg, ffonau symudol a band eang, yn ogysal \u00e2 dillad, harddwch a chymdeithasu.<\/p>\n<p>Bydd yr arian a ddaw i mewn o&#8217;r cerdyn yn mynd tuag at Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid sy&#8217;n cynrychioli Prentisiaid ac yn eu cefnogi yn ystod eu hyfforddiant galwedigaethol. I gael gwybod rhagor neu i gofrestru fel sefydliad er mwyn prynu cardiau ar gyfer eich dysgwyr, ewch i <a href=\"http:\/\/www.nus.org.uk\/en\/nus-apprentices-extra-card\/\">www.nus.org.uk\/en\/nus-apprentices-extra-card\/<\/a><\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu&#8217;r cynllun ymhellach er budd dysgwyr, byddem yn ddiolchgar am unrhyw ymateb neu awgrymiadau. Os oes gennych bryderon, awgrymiadau, cwestiynau neu sylwadau, gallwch ebostio Clara Weekley, <a href=\"mailto:clara.weekley@ntfw.org\">clara.weekley@ntfw.org<\/a> Rydym yn ceisio sicrhau bod cynrychiolydd o d\u00eem Apprentice Extra UCMC yn dod i&#8217;r cyfarfodydd rhanbarthol ym misoedd Ebrill a Mai er mwyn hybu&#8217;r gwasanaeth ac ateb eich cwestiynau.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-05\">Dinasyddiaeth a Diwylliant<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/esdgc.jpg\" alt=\"Welsh Cakes\" title=\"esdgc\" width=\"205\" height=\"234\" class=\"alignleft size-full wp-image-2300\" \/><\/p>\n<p>Bod yn Gymro\/Gymraes a beth mae&#8217;n ei olygu i mi<\/p>\n<p>Gwnewch arddangosfa fach neu wisgo rhywbeth i ddangos beth y mae bod yn Gymro\/Gymraeg yn ei olygu i chi.<\/p>\n<p>Ewch ati i annog y dysgwyr i wneud yr un peth \u2013 cyfle i ddod i&#8217;w nabod yn well!<br \/>\nGofynnwch i&#8217;r dysgwyr enwi rhai pethau Cymreig e.e. hoff ganwr neu fand, dywediadau digri etc.<\/p>\n<p>Dathlu Gyda Phice ar y Maen <\/p>\n<p>Mae pice ar y maen neu deisennau cri yn flasus gyda phaned. Slawer dydd, roedden nhw&#8217;n cael eu coginio ar faen neu blanc mewn ffwrn lo ond gallwch chi eu gwneud ar badell ffrio drom neu radell.<br \/>\nAmser Paratoi: 15 munud<br \/>\nAmser Coginio: 6 munud<br \/>\nCyfanswn: 21 munud<\/p>\n<p>Cynhwysion:<\/p>\n<ul>\n<li>8 owns\/ 225g blawd codi<\/li>\n<li>4 owns\/100g menyn<\/li>\n<li>1 llwy de sbeis cymysg<\/li>\n<li>3 owns\/75g siwgr m\u00e2n<\/li>\n<li>3 owns\/75g cyrensa syltanas cymysg<\/li>\n<li>Pinsiaid o halen<\/li>\n<li>Croen hanner lemon, wedi&#8217;i gratio<\/li>\n<li>1 &#373;y mawr, wedi&#8217;i guro<\/li>\n<li>Ychydig o laeth i&#8217;w gymysgu os bydd angen<\/li>\n<\/ul>\n<p>Paratoi:<\/p>\n<ul>\n<li>Hidlwch y blawd, yr halen a&#8217;r sbeis i ddysgl gymysgu. Rhwbiwch y braster i mewn nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara m\u00e2n. Ychwanegwch y siwgr, y croen lemon a&#8217;r ffrwythau sych. Ychwanegwch yr &#373;y wedi&#8217;i guro a throi&#8217;r cymysgedd i wneud toes solet. Ychwanegwch joch fach o laeth os bydd y toes yn rhy sych. Rhowch ychydig iawn ar y tro rhag i&#8217;r toes fynd yn rhy wlyb.<\/li>\n<li>Taenwch flawd ar fwrdd gweithio a rolio neu wasgu&#8217;r toes i tua &#188;\u201d(5mm) o drwch, tua&#8217;r un trwch \u00e2&#8217;ch bys bach. Torrwch yn gylchoedd \u00e2 thorrwr 1&#189;\u201c neu 2\u201d (4 neu 5cm). Neu torrwch yn sgwariau.<\/li>\n<li>Coginiwch y Pice ar y Maen\/Teisennau Cri ar radell ar wres canolig am tua thair munud ar bob ochr, gan eu troi unwaith, nes eu bod yn frown euraid ar y ddwy ochr ond braidd yn feddal yn y canol. Taenwch ychydig o siwgr m\u00e2n drostynt pan fyddant yn boeth. Os nad oes gennych radell, defnyddiwch ffreipan \u00e2 gwaelod trwm wedi&#8217;i hiro \u00e2 menyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r teisennau cri yn fwy blasus yn gynnes ond gallwch eu cadw am hyd at 10 diwrnod mewn bocs aerglos. Maent yn flasus gyda hufen ffres wedi&#8217;i chwipio&#8217;n ysgafn a jam hefyd. <\/p>\n<p><strong>Digwyddiadau <\/strong><br \/>\nDyddiadau a threfi ymweliad y fflam Olympaidd \u00e2 Chymru<\/p>\n<p>Bydd y fflam Olympaidd yn pasio trwy Gymru ar y dyddiadau isod. Cyhoeddir yr amserau yn nes at yr amser. Cewch ragor o wybodaeth yn <a href=\"http:\/\/wales.gov.uk\/topics\/cultureandsport\/2012\/torch\/?lang=en\">http:\/\/wales.gov.uk\/topics\/cultureandsport\/2012\/torch\/?lang=en<\/a><\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/\/wel\/images\/regions-header-web-wel.gif\" alt=\"News from the Regions\" \/><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-06\">Gr\u0175p Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy yn dathlu prentisiaethau gyda&#8217;r Siambr Fasnach<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/deeside.jpg\" alt=\"Deeside college event\" title=\"deeside\" width=\"205\" height=\"170\" class=\"alignleft size-full wp-image-2305\" \/><\/p>\n<p>Fel rhan o Wythnos Brentisiaethau Cymru 2012, cynhaliodd Coleg Llaneurgain sy&#8217;n rhan o Gr\u0175p Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy frecwast rhwydweithio a seminar di-d\u00e2l ar y cyd \u00e2 Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru ar fore Mercher 8 Chwefror.<\/p>\n<p>Pwrpas yr achlysur oedd tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau ac fe&#8217;i hagorwyd gan Bennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy, David Jones. Roedd yno 60 o gynadleddwyr ynghyd \u00e2 chynrychiolwyr o Goleg Glannau Dyfrdwy, Coleg I\u00e2l, Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Gorllewin Swydd Gaer i roi cyngor am recriwtio a hyfforddi prentisiaid.<\/p>\n<p>Bu cyflogwyr a phrentisiaid o Airbus, DRB Group a Chyngor Sir y Fflint yn s\u00f4n am eu cynllun prentisiaethau nhw eu hunain gan ddefnyddio astudiaethau achos a gwybodaeth wedi&#8217;i seilio ar eu profiadau nhw.<\/p>\n<p>Meddai Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy: \u201cFel rhan o&#8217;r Wythnos Brentisiaethau, rydym wedi bod yn hybu gwaith cyffrous colegau a chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd am brentisiaethau i bobl ifanc a phobl sydd eisoes yn gweithio iddynt. Gall prentisiaethau helpu sefydliadau o bob sector trwy sicrhau bod gweithwyr newydd a rhai presennol yn dysgu sgiliau newydd sy&#8217;n ateb anghenion y busnes unigol.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae&#8217;n bwysig ein bod ni, y colegau, yn dal i gefnogi a hybu prentisiaethau er mwyn helpu cyflogwyr i dyfu eu busnesau ac mae&#8217;n dda gweld cynifer o bobl yma heddiw gyda chefnogaeth y Siambr Fasnach.<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, Colin Brew: \u201cMae&#8217;r Siambr Fasnach wrth ei bodd o gael cydweithio&#8217;n agos \u00e2 holl brif golegau&#8217;r ardal er mwyn sicrhau cysylltiad cryfach rhyngddynt a&#8217;r sector preifat. Ein nod yw rhoi gwybodaeth i bobl a s\u00f4n wrth fusnesau am fanteision prentisiaethau. Mae&#8217;r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i bawb ddysgu mwy am y cynlluniau hyfforddi gweithwyr sydd ar gael a bydd yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer busnesau sy&#8217;n ystyried cymryd prentis.  Ar \u00f4l heddiw, gobeithio y bydd rhagor o gyflogwyr lleol wedi cael eu hargyhoeddi am fanteision cynllun prentisiaeth.\u201d <\/p>\n<p>Ar \u00f4l y digwyddiad, dywedodd Keith Vivian o DRB Group, \u201dRoedd yn dda cael dweud wrth gyflogwyr eraill am lwyddiant y cynllun prentisiaethau a&#8217;r manteision i fusnesau.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd yr achlysur ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-07\">Y De&#8217;n Arwain y Ffordd i Rannu CPD<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/cpd.jpg\" alt=\"ISA Training\" title=\"cpd\" width=\"205\" height=\"110\" class=\"alignleft size-full wp-image-2307\" \/><\/p>\n<p>Mae Rhanbarth y De, NTfW, wedi dyfeisio ffordd newydd o feithrin diwylliant o rannu arferion ymhlith ei aelodau a hybu datblygiad staff. Mewn oes lle mae&#8217;n rhaid hyfforddi a datblygu staff er mwyn cynnal, datblygu a gwella ansawdd dysgu, mae Rhanbarth y De yn dechrau datblygu calendr rhannu CPD. Mae&#8217;r aelodau wedi cytuno i rannu adnoddau CPD a gweithgareddau datblygu staff gyda&#8217;r nod o ddatblygu calendr CPD ar y cyd ar gyfer y rhanbarth.<\/p>\n<p>Ymhlith y gweithgareddau CPD a gynigir yn fewnol gan aelodau&#8217;r rhanbarth, mae Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, TAQA, Diogelu Plant a llawer rhagor. Felly, mae&#8217;r cynllun yn gyfle gwych i staff rannu eu harferion a datblygu eu gwybodaeth a&#8217;u sgiliau mewn gwahanol ffyrdd.<\/p>\n<p>Bydd y cynllun yn cychwyn yn ystod y tri mis nesaf ac, ar \u00f4l bod yn rhedeg am dipyn, caiff ei werthuso gan Fwrdd Rhanbarth y De gyda&#8217;r posibilrwydd o&#8217;i ehangu i&#8217;r rhanbarthau eraill.<\/p>\n<p>A ninnau&#8217;n rhwydwaith o sefydliadau hyfforddi profiadol o safon uchel, bydd rhannu arferion da ac arferion datblygu staff yn golygu bod ein haelodau a&#8217;n dysgwyr yn elwa o brofiadau ac arbenigedd ei gilydd.  Mae hyn yn dangos bod NTfW wir yn gweithio mewn Partneriaeth.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-08\">Conduit yn symud i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/conduit.jpg\" alt=\"Conduit logo\" title=\"conduit\" width=\"205\" height=\"170\" class=\"alignleft size-full wp-image-2309\" \/><\/p>\n<p>Mae cwmni Conduit, sy&#8217;n rhedeg canolfannau galw, yn symud staff o swyddfa Hodge House yng nghanol Caerdydd i fannau eraill, swyddfa Fusion Point gerllaw yn bennaf, lle mae&#8217;n gobeithio cyflog 600 o staff ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae Conduit yn eiddo i gwmni KGN o&#8217;r Unol Daleithiau ac mae&#8217;n cyflogi dros 1,900 o staff yn ei swyddfeydd yn ne Cymru \u2013 sef yng Nghanol Dinas Caerdydd, Porth Caerdydd ac Abertawe.<br \/>\nBydd safle Fusion Point, ychydig i&#8217;r de o Orsaf Caerdydd Canolog, yn trafod galwadau gwasanaeth Homecare Nwy Prydain.<\/p>\n<p>Dywedodd Denis Creighton, prif weithredwr Conduit Ewrop, mai Cymru oedd yn cael y marciau uchaf am wasanaethau cwsmeriaid a pherfformiad yn y deg gwlad yr oedd y cwmni&#8217;n gweithio ynddynt. Meddai: \u201cDyna pam yr ydym yn mynd i ganolbwyntio ar dyfu yma. Fusion Point 1 fydd yn arwain y twf yn ein busnes.\u201d<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-09\">Cydnabod Llwyddiant NVQ gydag Excelsior Plus<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/excelsior.jpg\" alt=\"Excelsior Plus\" title=\"excelsior\" width=\"205\" height=\"135\" class=\"alignleft size-full wp-image-2311\" \/><\/p>\n<p>Cynhaliodd prosiect Excelsior Plus seremoni arbennig yn ddiweddar i anrhydeddu 12 o gyflogwyr a 36 o&#8217;u gweithwyr a lwyddodd i ennill cymwysterau seiliedig ar waith yn y gweithle gydag Aseswyr NVQ Coleg Pen-y-bont. <\/p>\n<p>Pwrpas y seremoni, yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr ger Pen-y-bont ar Ogwr, oedd cydnabod gweithwyr a oedd wedi ennill NVQs mewn Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gyrru Cerbydau sy&#8217;n Cludo Teithwyr, Gweithgynhyrchu, Arwain Timau a Rheoli.<\/p>\n<p>Meddai Clara Weekley o NTfW, \u201cRoedd yn brofiad arbennig gweld cynifer o bobl wych ac ysbrydoledig yn cael eu gwobrwyo.\u201d<\/p>\n<p>Menter o dan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yw Excelsior Plus a&#8217;r nod yw helpu gweithwyr i ennill Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) er mwyn datblygu eu sgiliau a&#8217;u hyder i greu gweithlu mwy cynhyrchiol gyda gwell cymwysterau. <\/p>\n<p>Mae gweithwyr yn gymwys ar gyfer prosiect Excelsior Plus os ydynt yn gweithio am fwy nag 16 awr yr wythnos i fusnes bach neu ganolig ei faint, elusen neu fenter gymdeithasol o Dde Cymru yn ardaloedd Cydgyfeirio&#8217;r ESF, sef Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Blaenau Gwent.<\/p>\n<p>Mae Coleg Pen-y-bont, Coleg Merthyr Tudful a Choleg Ystrad Mynach yn cydweithio ar brosiect Excelsior Plus. Wrth ysgrifennu hwn, mae 234 o fusnesau a sefydliadau wedi cymryd rhan ac mae 1255 o ymgeiswyr ar y llyfrau. O&#8217;r rhai sydd \u00e2&#8217;u henwau ar y llyfrau, mae 274 o weithwyr wedi cael eu NVQs ar y prosiect ers 2010. Yn ogystal, mae 49 cwmni wedi manteisio ar gyngor polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd ar gael am ddim ar y prosiect.  <\/p>\n<p>Bydd cyfanswm o 2800 o gyfleoedd NVQ wedi&#8217;u hariannu&#8217;n llawn ar gael i ymgeiswyr yn siroedd Cydgyfeirio ESF yn y De a bydd modd cofrestru hyd at fis Ebrill 2014. <\/p>\n<p>Os hoffech ragor o wybodaeth am brosiect Excelsior Plus a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cysylltwch \u00e2 Liz Plenty, Rheolwr y Prosiect yng Ngholeg Pen-y-bont ar <a href=\"mailto:excelsiorplus@bridgend.ac.uk\">excelsiorplus@bridgend.ac.uk<\/a> neu trwy ffonio: 01656 302 329.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-10\">Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/one-newport.gif\" alt=\"One Newport logo\" title=\"one-newport\" width=\"205\" height=\"135\" class=\"alignleft size-full wp-image-2313\" \/><\/p>\n<p>Mae&#8217;r Orsaf Wybodaeth wedi cael \u00a3700,000 o gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddwyn ynghyd wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill.<\/p>\n<p>Mae nifer o wahanol wasanaethau ar gael i bobl sy&#8217;n ymweld \u00e2&#8217;r Orsaf Wybodaeth, ynghyd \u00e2 chyngor ar faterion fel: Trethi busnes, y dreth gyngor, gwasanaethau ailgartrefu, a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cynnwys plant a theuluoedd, amddiffyn plant, atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, a gwasanaethau cyflogaeth dan gymorth. <\/p>\n<p>Wrth agor yr Orsaf Wybodaeth, dywedodd Jane Hutt:<\/p>\n<p>&#8220;Mae hwn yn gyfleuster newydd gwych a fydd yn ei gwneud yn haws o lawer i bobl yng Nghasnewydd gael gwybodaeth am wasanaethau a chyngor am y cymorth sydd ar gael pan fydd arnyn nhw ei angen. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r Orsaf Wybodaeth yn enghraifft ardderchog o wella gwasanaethau i&#8217;r cyhoedd.  Daeth o ganlyniad i gydweithio, rhannu adnoddau, offer a swyddfeydd, a chynllunio gwasanaethau i ateb anghenion pobl yn y gymuned leol yn hytrach na chyfundrefnau.<\/p>\n<p>Dw i&#8217;n arbennig o falch o weld bod manteision y dechnoleg newydd yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau i&#8217;r cyhoedd. Yr Orsaf Wybodaeth yw&#8217;r enghraifft arwyddocaol gyntaf o dechnoleg teleffoni Band Eang y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i&#8217;w chwarae yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi \u00e2 llai o arian, yn hybu arloesi a newid ac yn gweithio mewn partneriaeth.  Mae&#8217;r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn ein helpu i wneud hyn.<\/p>\n<p>Dw i mor falch ein bod wedi gallu helpu Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un, yn cynnwys rhoi \u00a3700,000 o&#8217;r gronfa Buddsoddi i Arbed, i&#8217;w helpu i wneud eu gwasanaethau&#8217;n fwy effeithlon a hwylus i bobl. <\/p>\n<p>Rwy wedi trefnu bod y Gronfa&#8217;n dal ar gael i brosiectau sy&#8217;n sicrhau gwelliannau mawr mewn effeithlonrwydd a gwelliannau ehangach a byddaf yn ei hagor i geisiadau newydd eto cyn hir.<\/p>\n<p>Mae Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un yn dangos manteision edrych o&#8217;r newydd ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau lleol. Gobeithio y bydd y prosiect yn parhau i dyfu a datblygu, ac y gall rhannau eraill o Gymru ddysgu o&#8217;r llwyddiannau a gafodd y dull hwn o weithio \u2013 ac a gaiff eto yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-11\">Mae ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru, wedi agor Academi Sgiliau ar ei newydd wedd yng Nghaerffili i helpu i leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/act.jpg\" alt=\"Jonathan Davies and Jeff Cuthbert\" title=\"act\" width=\"205\" height=\"135\" class=\"alignleft size-full wp-image-2315\" \/><\/p>\n<p>Agorwyd yr Academi ar ei newydd wedd yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, ar ddydd Llun 20 Chwefror. Nod yr Academi sydd ar Stad Ddiwydiannol Pontygwindy. Caerffili, yw helpu cannoedd o bobl ifanc yr ardal i gael gwaith.  Croesawyd pawb i&#8217;r diwrnod agored gan Lysgennad Sgiliau ACT, y seren o fyd rygbi, Jonathan Davies, a ymunodd \u00e2&#8217;r Dirprwy Weinidog ar daith o gwmpas y cyfleusterau modern. Cafodd cyflogwyr lleol, Gyrfa Cymru, y Ganolfan Waith a mudiadau eraill sy&#8217;n gweithio gyda phobl ifanc wahoddiad i gael yr olwg gyntaf ar y cyfleusterau newydd ac i drafod yr hyn y mae ACT yn ei wneud yn ardal Caerffili.<\/p>\n<p>Roedd gan Jonathan Davies neges bwysig i gyflogwyr lleol. Roedd am eu hannog i gefnogi pobl ifanc ardal Caerffili trwy gynnig blas ar waith, lleoliadau gwaith a phrentisiaethau iddynt er mwyn iddynt gael cyfle i ddysgu wrth weithio.<\/p>\n<p>Cyn yr ailwampio, roedd yr Academi&#8217;n cynnig hyfforddiant mewn Trin Gwallt, Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu Busnes, Perfformio, Gweithgynhyrchu a Gosod Brics. Ar \u00f4l y gwaith ehangu gwerth \u00a3250,000, mae&#8217;r cyfleusterau newydd yn cynnwys adrannau hyfforddi ym maes cerbydau ac adeiladu, a chegin fodern fel y gall y dysgwyr gael profiad ymarferol o&#8217;r gwahanol bynciau. Yn ogystal, mae&#8217;r Academi yn cynnig rhagor o ddewisiadau ym maes Adeiladu, fel Plastro, Gwaith Coed, Plymio, Paentio ac Addurno ynghyd \u00e2 rhaglen TEAM Ymddiriedolaeth y Tywysog. <\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-12\">Seminar i annog defnyddio&#8217;r Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn y de orllewin<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/rlp.jpg\" alt=\"RLP event\" title=\"rlp\" width=\"205\" height=\"170\" class=\"alignleft size-full wp-image-2317\" \/><\/p>\n<p>Trefnwyd seminar am ddim gan Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol De Orllewin Cymru i helpu pobl sy&#8217;n ymwneud \u00e2 Dysgu Oedolion yn y Gymuned a&#8217;r iaith Gymraeg. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r Bartneriaeth yn cael ei hariannu trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ac o ffynonellau eraill. Mae&#8217;n dwyn ynghyd sefydliadau allweddol ym maes addysg ac adfywio o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyda&#8217;r nod o wella cyfleoedd dysgu i bawb.<\/p>\n<p>Daeth tua 40 o bobl i&#8217;r seminar hanner-diwrnod ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ym mis Chwefror.<\/p>\n<p>Roedd yn rhan o Raglen Waith is-gr_p Dysgu Oedolion yn y Gymuned er mwyn hybu arferion da wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.  Rhoddodd gipolwg ar ffyrdd o roi hyder i bobl ddefnyddio&#8217;r Gymraeg.<\/p>\n<p>Roedd cynrychiolwyr o Ddinas a Sir Abertawe, Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion, Coleg Powys, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir G\u00e2r, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg G_yr Abertawe, y Brifysgol Agored Cymru, Dysgu Bro Ceredigion, Cefn Calon a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), ymhlith eraill.<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr roedd Esther Barrett, Cynghorydd E-Ddysgu yn yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion (DACE) ym Mhrifysgol Abertawe; Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH; Angharad Mai Roberts, Rheolwr Cenedlaethol Datblygu Addysg a Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg gyda SGILIAITH a  Sian Merlys, Swyddog Dysgu Cymunedol Dinefwr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.<\/p>\n<p>Roedd eu cyflwyniadau&#8217;n canolbwyntio ar ganfyddiadau myfyrwyr, arferion gorau o rannau eraill o Gymru a sut y gallwn gydweithio mwy yn y rhanbarth i helpu ein tiwtoriaid a&#8217;n dysgwyr i ddefnyddio mwy o&#8217;r iaith Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned. <\/p>\n<p>Cafwyd ymateb da iawn i&#8217;r seminar gyda chanmoliaeth i&#8217;r cynnwys, y lefel a&#8217;r naws.  Bydd trafodaethau&#8217;r gweithdai&#8217;n cael eu dadanoddi a&#8217;u defnyddio wrth gynllunio sut i hybu&#8217;r Gymraeg wrth Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.<\/p>\n<p>Dyma oedd gan Kay Timpson sy&#8217;n cydgysylltu tiwtoriaid yn ardal Abertawe i&#8217;w ddweud am y seminar: \u201cFe wnes i fwynhau&#8217;r seminar yn fawr. Mae llawer o \u2018nghydweithwyr yn awyddus i wneud my o ddefnydd o&#8217;r Gymraeg a byddent yn croesawu adnoddau a syniadau ymarferol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd eraill bod y seminar yn \u201cddiddorol iawn ac yn hwb i ni\u201d ac roedd un yn dweud y byddai&#8217;n chwilio am gyfleoedd i gynnwys y Gymraeg yn ei wersi.<\/p>\n<p>Bwriedir cynnal digwyddiad tebyg eto a fydd yn datblygu&#8217;r them\u00e2u a&#8217;r materion a drafodwyd yn y seminar hon.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-13\">Seminarau i drafod sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/skills.jpg\" alt=\"Beverley Wilson-Smith\" title=\"skills\" width=\"205\" height=\"135\" class=\"alignleft size-full wp-image-2321\" \/><\/p>\n<p>Cynhaliwyd cyfres o seminarau yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru i drafod y sgiliau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Seminarau ar gyfer arweinwyr strategol ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, cymorth busnes a chyfarwyddyd oedd y rhain.<\/p>\n<p>Llwyddodd Beverley Wilson-Smith, Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol (RLP) i gael arian gan Lywodraeth Cymru a&#8217;i Chronfa Blaenoriaethau Sector i&#8217;r Cynghorau Sgiliau Sector gynnal cyfres o bum Seminar yn rhanbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru rhwng Ionawr a Mawrth 2012.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y seminarau hanner-diwrnod ym Mhenfro, Llandrindod, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe a dywedodd yr Eiriolwr: \u201cRoedd y seminarau&#8217;n gyfle i glystyrau o Gynghorau Sgiliau Sector gyflwyno trosolwg o&#8217;u sector nhw&#8217;u hunain gan nodi pa sgiliau yr oedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn awr ac yn debygol o chwilio amdanynt yn y degawd nesaf.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yn gyfle i drafod anghenion gwahanol ddiwydiannau er mwyn cynllunio at y dyfodol ac roedd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, cymorth a chyngor busnes a chyfarwyddyd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y seminarau&#8217;n canolbwyntio ar glystyrau sector fel &#8211; Lantra, People 1st, Improve, Skillsmart Retail; Cyngor Gofal Cymru, Sgiliau Iechyd, SkillsActive, Sgiliau er Cyfiawnder a&#8217;r Bartneriaeth Sgiliau Ariannol; Sgiliau Ynni a Chyfleustodau, Cogent a Sgiliau Asedau; Skillset, E-Skills, Summit a Sgiliau Iechyd; ynghyd \u00e2 Semta,  Sgiliau ar gyfer  Logisteg a Sefydliad y Diwydiant Moduro.  Roedd y cyflwyniadau i gyd yn rhoi golwg glir ar y gwahanol sectorau a&#8217;u cyfraniad at economi Cymru.  Hefyd, cafodd y gynulleidfa olwg ar y sgiliau yr oedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt a chyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb \u00e2 phanelau&#8217;r sgiliau sector.<\/p>\n<p>Wrth gloi&#8217;r seminar olaf yn y Village Hotel, Abertawe, ar 5 Mawrth, galwodd Karl Napieralla, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar y gynulleidfa i ddefnyddio&#8217;r wybodaeth werthfawr a gawsant gan y cyflwynwyr.  Meddai: \u201cMae hon wedi bod yn gyfres werth chweil, gyda phob un o&#8217;r siaradwyr yn cyfeirio at y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a&#8217;r cyfle i ddatblygu sgiliau er mwyn cynnal busnesau, creu swyddi newydd a hybu ffyniant economaidd.  <\/p>\n<p>\u201cMae cydweithio&#8217;n bwysicach nag erioed i hybu&#8217;r agenda sgiliau.\u201d<\/p>\n<p>Cafwyd ymateb cadarnhaol i&#8217;r seminarau i gyd ac roedd dros 60 o bobl, ar gyfartaledd, ym mhob un ohonynt. <\/p>\n<p>Dywedodd yr Eiriolwr: \u201cMae llawer o bobl wedi canmol pob un o&#8217;r seminarau. Roedden nhw&#8217;n dweud eu bod wedi cael llawer o wybodaeth a chroeso cynnes ym mhob un o&#8217;r canolfannau. Gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn gan ddwyn gwahanol randdeiliaid ynghyd eto yn y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cO safbwynt RLP, mae ein partneriaid eisoes yn cytuno bod cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn beth da.  Bwriadwn adeiladu ar y seminarau hyn, gan sicrhau bod y cydweithio rhwng ein sefydliadau a&#8217;n hasiantau yn gwella wrth fynd ymlaen.\u201d  <\/p>\n<p>Roedd tri darlunydd yn darlunio negeseuon allweddol y pum seminar ac roedd myfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn eu ffilmio. Bydd holl weithgareddau seminarau&#8217;r Cynghorau Sgiliau Sector, yn cynnwys y cyflwyniadau, i&#8217;w gweld ar wefan RLP cyn hir. Ewch i <a href=\"http:\/\/www.rlpsww.org.uk\/Cymraeg\/Pages\/home.aspx\">www.rlpsww.org.uk\/Cymraeg\/Pages\/home.aspx<\/a> a dilyn y ddolen \u2018Eiriolwr Rhanbarthol&#8217;.<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-17\">Dates for your diary<\/h2>\n<p><strong>Dydd Gwener 27 Ebrill<\/strong><br \/>\nCyfarfod Cyffredinol Blynyddol NTfW Lantra, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd LD2 3WY<\/p>\n<p><strong>Friday 20th June<\/strong><br \/>\nDiwrnod VQ<br \/>\nDe \u2013 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd<br \/>\nGogledd \u2013 I&#8217;w gadarnhau<\/p>\n<p><strong>24 a 25 Hydref<\/strong><br \/>\nGwobrau Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cenedlaethol Cymru a Chynhadledd Flynyddol NTfW<br \/>\nVenue Cymru, Llandudno<\/p>\n<p><strong>14 \u2013 17 Tachwedd<\/strong><br \/>\nSkills Show &#8211; NEC Birmingham<\/p>\n<p><a class=\"top\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-14\">Gwybod faint o wyliau i&#8217;w rhoi i&#8217;ch staff<\/h2>\n<p>Gyda gwyliau&#8217;r Jiwbil\u00ee ar y gorwel, mae&#8217;n bryd chwilio am y rheolau am gyflog ac amser o&#8217;r gwaith ar wyliau cyhoeddus a gwyliau banc.  <a href=\"http:\/\/business.wales.gov.uk\/bdotg\/action\/detail?dm_i=8DJ,PSFH,2Z9K2E,22UV4,1&#038;itemId=1081597934&#038;lang=cy&#038;site=230&#038;tc=230EN015018&#038;type=RESOURCES\">Darllen rhagor &raquo;<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-15\">Defnyddio eich cynllun busnes i gael cyllid<\/h2>\n<p>Mae cynllun busnes yn hanfodol i&#8217;ch menter. P&#8217;un a yw eich busnes yn newydd neu eisoes wedi&#8217;i sefydlu, eich cynllun busnes ydy eich strategaeth ar gyfer datblygu yn y dyfodol. <a href=\"http:\/\/business.wales.gov.uk\/bdotg\/action\/layer?dm_i=8DJ,OYHT,2Z9K2E,20HVF,1&#038;lang=cy&#038;site=230&#038;tc=230EN015017&#038;topicId=1073958998\">Darllen rhagor &raquo;<\/a><\/p>\n<h2 id=\"nlw-mar-12-16\">Iaith Fyw: Iaith Byw<\/h2>\n<p>Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sy&#8217;n gyfrifol am y Gymraeg, heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddefnyddio&#8217;r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg newydd. <a href=\"http:\/\/wales.gov.uk\/newsroom\/welshlanguage\/2012\/120301iaithfyw\/?skip=1&#038;lang=cy\">Darllen rhagor &raquo;<\/a><\/p>\n<p><a class=\"top-last-enews\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-newsletter-october-2011\/\">Yn \u00f4l i&#8217;r brig \u00bb<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynnwys y daflen newyddion Aelodau NTfW yn helpu i gydnabod dysgu blaenorol ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru Rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru \u2013 Prosiect Ymchwil Microfusnesau UCMC \u2013 Cerdyn Apprentice Extra Dinasyddiaeth a Diwylliant &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/taflen-newyddion-ntfw-mawrth-2012\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-1100","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1100","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1100"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1100\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1100"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1100"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1100"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}