{"id":11004,"date":"2024-10-30T07:00:50","date_gmt":"2024-10-30T07:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11004"},"modified":"2024-10-29T11:37:47","modified_gmt":"2024-10-29T11:37:47","slug":"wbta-20years-2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbta-20years-2024\/","title":{"rendered":"WBTA yn dathlu 20fed penblwydd drwy gynnal Seremoni Wobrwyo arbennig"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wbta-20years-2024\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbta-20years-2024\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18342\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/wbta-awards-24-e1730200395951.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18342\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/wbta-awards-24-e1730200395951.jpeg\" alt=\"Winners holding their awards\" width=\"460\" height=\"316\" class=\"size-full wp-image-18342\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18342\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr Gwobrau Digwyddiad 20 Mlynedd ers Sefydlu WBTA yn dathlu eu cyflawniadau gyda Sian Lloyd.<\/p><\/div>\n<p>Dathlodd Work Based Training Agency (WBTA) 20 mlynedd ers sefydlu\u2019r busnes ar 22ain Hydref trwy gydnabod 13 o ddysgwyr a 9 cwmni cyflogwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig a gynhaliwyd yn ei Ganolfan Hyfforddi yn Walter Street Business Centre ym Mhort Talbot.<\/p>\n<p>Wrth groesawu&#8217;r enillwyr i&#8217;r Digwyddiad 20 Mlynedd ers Sefydlu WBTA, <strong>dywedodd Tyrone Emmett, Rheolwr Gyfarwyddwr WBTA:<\/strong> &#8220;Fel rhan o&#8217;n digwyddiad heddiw rydym yn cydnabod cyflawniadau ein dysgwyr gwych yn ogystal \u00e2 diolch i&#8217;n cyflogwyr mwyaf cefnogol. <\/p>\n<p>&#8220;Mae gallu cydnabod unigolion mor dalentog ac ysbrydoledig yn fraint go iawn.&#8221;<\/p>\n<p>Mae WBTA yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwaith Chwarae, Gofal Plant, a Thrin Gwallt a Gwaith Barbwr. <\/p>\n<p><strong>Dewiswyd 10 prentis sy&#8217;n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dderbyn Gwobrau Cydnabod Cyflawniad Dysgwyr:<\/strong> Mae Hannah Slee o D &#038; S Care Homes, Naomi Smith o Aropa Care Group, Nia Griffiths o Modern Care ac Alexis Redwood o Hanbury Care oll wedi cyflawni Arweinyddiaeth a Rheoli mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5.  Mae Derek Leith o Aropa Care Group wedi cyflawni Ymarfer Proffesiynol mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4; Mae Jane Slee ac Arwel Morgan o D &#038; S Care Homes, Kelly Morgan o Genus Care a Hannah Rodes o Family Support Wales oll wedi cyflawni Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Plant a Phobl Ifanc), ac mae Olamide Jeremiah o Swansea Bay Home Care Services wedi cyflawni Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 (Oedolion).<\/p>\n<p><strong>Y tri enillydd yng Ngwobrau Cydnabod Cyflawniad Dysgwr oedd:<\/strong> Katie Jones o Transform Hair &#038; Beauty a Chelsea Fethney o Aspire Art of Hair sydd wedi cyflawni Trin Gwallt Lefel 3, a Kate Bamsey o Ysgol Bae Baglan sydd wedi cyflawni Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion.<\/p>\n<p><strong>Y chwe chwmni a ddewiswyd i dderbyn y Gwobrau Cyflogwyr Cefnogol Gorau o\u2019r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd:<\/strong> D&#038;S Care Homes, Aropa Care Group, Modern Care, Hanbury Care, Genus Care a Family Support Wales. Derbyniodd dau gwmni trin gwallt, Transform Hair &#038; Beauty ac Aspire Art of Hair, ac Ysgol Bae Baglan Wobr Cyflogwr Cefnogol Gorau hefyd.<\/p>\n<p><strong>Roedd Tyrone Emmett hefyd yn cydnabod cefnogaeth ei staff yn y digwyddiad.  Dywedodd:<\/strong> &#8220;Hoffwn ddiolch i&#8217;r holl staff anhygoel o WBTA. Mae eich ymrwymiad, eich penderfyniad a&#8217;ch teyrngarwch heb ei ail, a heboch chi ni fyddem yma heddiw. Rydych chi&#8217;n arbenigwyr yn eich meysydd chi.&#8221;   <\/p>\n<p>Diolchodd hefyd i ddeiliad contract WBTA, Hyfforddiant Cambrian a&#8217;i ffrindiau a&#8217;i deulu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019n fraint fawr i WBTA fod yn gysylltiedig \u00e2 chwmni mor ysbrydoledig sydd \u00e2 weledigaeth o freuddwydio, dysgu, byw. Ac rydym wir yn cefnogi hyn. <\/p>\n<p>&#8220;Ar yr adeg arbennig hon, hoffwn ychwanegu fy mod yn lwcus iawn i gael cymaint o bobl yn agos ataf gan gynnwys fy rhieni sy&#8217;n gefnogol iawn. Hefyd, fy nghylch o ffrindiau agos sy&#8217;n parhau i gefnogi fy uchelgeisiau. Heb eich cefnogaeth, eich anogaeth, a&#8217;ch cred barhaus mewn WBTA a minnau, fyddwn i ddim yma heddiw.&#8221;<\/p>\n<p>Cyflwynwyd gwobrau&#8217;r WBTA gan y gwestai arbennig a&#8217;r bersonoliaeth deledu Sian Lloyd.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Sian Lloyd:<\/strong> &#8220;Dwi wastad wedi bod yn gredwr mawr mewn prentisiaethau &#8211; yn dysgu ac yn ennill cyflog ar yr un pryd.  Mae&#8217;r enillwyr hyn yn wych, ynghyd ag aelodau t\u00eem ymroddedig, hyfforddwyr ac aseswyr, dan arweiniad y Tyrone Emmett gwych.&#8221;<\/p>\n<p>Mynychodd y Cynghorydd Charlotte Galsworthy o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a chyn-gapten Clwb Rygbi Aberafan Joe Tomalin-Reeves (Cyfarwyddwr Walter Street Business Centre) hefyd i helpu i ddathlu&#8217;r enillwyr a 20 mlynedd ers sefydlu WBTA.<\/p>\n<p>Cododd arwerthiant a raffl elusennol, a gynhaliwyd er cof am gydweithiwr WBTA a chwaer Tyrone, Carol Emmett, a fu farw o ganser yn 2021, fwy na \u00a3600 i Elusen Maggies.<\/p>\n<p>Gorffennodd Tyrone Emmett ei araith trwy ddiolch unwaith eto i enillwyr y gwobrau a&#8217;u hannog i barhau i ymdrechu yn eu gyrfaoedd a&#8217;u busnesau.<\/p>\n<div id=\"attachment_18355\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/image5-e1730201624149.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18355\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/image5-e1730201624149.jpeg\" alt=\"Group photo of WBTA staff at event.\" width=\"460\" height=\"302\" class=\"size-full wp-image-18355\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18355\" class=\"wp-caption-text\">Staff WBTA yn dathlu eu digwyddiad 20 Mlynedd ers Sefydlu WBTA gyda Sian Lloyd (o&#8217;r chwith) Brenda Daily, Jessica Smith, Rachel Jones, Neil Turner, Tyrone Emmett, Sian Lloyd, Kelly Grabham, Paula Parvin a Teresa Jones.<\/p><\/div>\n<p>&#8220;I&#8217;n holl ddysgwyr, cyflogwyr a chydweithwyr sy&#8217;n ein hysbrydoli bob dydd gyda&#8217;u rhagoriaeth a&#8217;u creadigrwydd, diolch. Mae&#8217;r cyfleoedd i gydweithio a dysgu gennych wedi bod yn werthfawr ac rwy&#8217;n gyffrous i barhau i wthio&#8217;r ffiniau.&#8221;<\/p>\n<p>Fe ychwanegodd: &#8220;Yn olaf, rwyf am ddweud, wrth i chi dderbyn eich gwobrau, rwy&#8217;n gwybod nad yw&#8217;r gwaith yn dod i ben yma.  Mae mwy i&#8217;w gyflawni bob amser, mwy i&#8217;w ddysgu, a mwy o ffyrdd o gyfrannu.  Mae&#8217;r gydnabyddiaeth hon yn ein hatgoffa i barhau i ymdrechu am ragoriaeth, i roi yn \u00f4l, ac yn anad dim i ysbrydoli eraill.&#8221;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wbta-training.co.uk\/\">Work Based Training Agency (WBTA)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dathlodd Work Based Training Agency (WBTA) 20 mlynedd ers sefydlu\u2019r busnes ar 22ain Hydref trwy gydnabod 13 o ddysgwyr a 9 cwmni cyflogwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig a gynhaliwyd yn ei Ganolfan Hyfforddi yn Walter Street Business &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbta-20years-2024\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11,1],"tags":[],"class_list":["post-11004","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11004","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11004"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11004\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11011,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11004\/revisions\/11011"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11004"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11004"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11004"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}