{"id":11033,"date":"2024-11-25T11:03:32","date_gmt":"2024-11-25T11:03:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11033"},"modified":"2024-11-25T19:58:31","modified_gmt":"2024-11-25T19:58:31","slug":"worldskillsuk-2024-winners","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-2024-winners\/","title":{"rendered":"Cystadleuwyr Cymru yn disgleirio wrth ennill 70 medal yn rowndiau terfynol DU"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/worldskillsuk-2024-winners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-2024-winners\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18406\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Jessica-and-Gareth-e1732531529534.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18406\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Jessica-and-Gareth-e1732531529534.jpg\" alt=\"Jessica and Gareth with their medals\" width=\"460\" height=\"261\" class=\"size-full wp-image-18406\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18406\" class=\"wp-caption-text\">Jessica Poole a Gareth Williams, enillwyr medal Efydd WorldSkills UK 2024<\/p><\/div>\n<p><strong>Mae cystadleuwyr o Gymru wedi cael llwyddiant anghygoel wrth ennill 70 medal yn rowndiau terfynol cenedlaethol , gan osod y llwyfan yn barod i Gymru a fydd yn cynnal y digwyddiad yn 2025.<\/strong><\/p>\n<p>Gan adeiladu ar lwyddiannau&#8217;r llynedd, o&#8217;r 118 o gystadleuwyr o Gymru a fu&#8217;n rhan o&#8217;r digwyddiad fe enillodd T\u00eem Cymru 16 medal aur, 20 arian a 22 efydd a chafodd 12 ganmoliaeth uchel.<\/p>\n<p>Yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhaliwyd mewn lleoliadau ledled Manceinion rhwng 19 Tachwedd  a 22 Tachwedd, gwelwyd mwy na 400 o bobl ifanc o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a&#8217;r Alban yn cystadlu mewn cyfres o heriau galwedigaethol i fod y gorau yn y DU. Yn y cyfamser, ym Milton Keynes, roedd y cystadleuwyr  o Gymru yng nghystadleuaeth Skillbuild mewn gwaith coed, gwaith teilsio waliau a lloriau,  gwaith plastro a sgiliau sylfaenol: gwaith coed Wedi&#8217;i chyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi&#8217;r Diwydiant Adeiladu, SkillBuild yw&#8217;r gystadleuaeth sgiliau aml-fasnach fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect Sgiliau Ysbrydoledig yn cefnogi pobl ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau, gan hyrwyddo arferion gorau a chodi safonau ar draws ystod o sgiliau o gynnal a chadw awyrennau a gwaith saer i wneud melysion a patisserie, a gwyddoniaeth fforensig, a chwmpasu prentisiaethau ac addysg dechnegol.<\/p>\n<p>Fe wnaeth T\u00eem Cymru ragori hefyd yn y cystadlaethau Sgiliau Sylfaen, gan sicrhau cyfanswm o 19 o fedalau. Mae&#8217;r cystadlaethau hyn yn tynnu sylw at alluoedd myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, neu&#8217;r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol ar 21 Tachwedd ar gyfer SkillBuild a 22 Tachwedd ar gyfer WorldSkills yn ystod seremon\u00efau medalau.<\/p>\n<p>Mae cystadlaethau&#8217;n dechrau ar lefel lleol  gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru sy&#8217;n cael ei chydlynu gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac yn symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.<\/p>\n<p>Wedi&#8217;i ariannu&#8217;n rhannol gan Lywodraeth Cymru a&#8217;i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, nod y cystadlaethau yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau&#8217;r dyfodol trwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sergeant:<\/strong><br \/>\n&#8220;Rwy&#8217;n llongyfarch T\u00eem Cymru ar eu llwyddiant rhyfeddol yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a SkillBuild. Unwaith eto fe wnaethant ddangos eu rhagoriaeth gyda chasgliad trawiadol o fedalau, gan dynnu sylw at yr ymroddiad a&#8217;r dalent yn ein gwlad.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cystadlaethau sgiliau yn dathlu llwyddiannau unigol, ond maent hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin talent pobl ifanc ledled Cymru, gan eu paratoi i fod yn weithwyr medrus iawn y dyfodol.   <\/p>\n<p>&#8220;Rydym yn arbennig o gyffrous i groesawu cystadlaethau WorldSkills UK i Gymru yn 2025. Bydd cynnal y rowndiau terfynol hyn yn gyfle gwych i arddangos y gorau o dalent Cymru ar dir cartref ac ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl ifanc ledled y wlad i ddilyn eu huchelgeisiau ac ymdrechu am ragoriaeth.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym wedi ymrwymo i gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion a sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac i&#8217;r bobl a gefnogodd nhw.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:<\/strong><br \/>\n\u201cLlongyfarchiadau i bawb a gafodd fedal eleni. Mae cael eich cydnabod fel y gorau yn eich maes sgiliau yn llwyddiant aruthrol , sy\u2019n adlewyrchu ymrwymiad yr athrawon yn ein colegau a\u2019n prifysgolion, heb s\u00f4n am ein darparwyr hyfforddiant, sy\u2019n sylfaen i\u2019r sector sgiliau ar draws y Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>\u201cMae gan ein rhaglen hyfforddi ar sail cystadleuaeth, sy\u2019n cael ei hategu gan dueddiadau byd-eang, r\u00f4l bwysig yn y gwaith o godi safonau dysgu ac asesu ym maes prentisiaethau ac addysg dechnegol. Gan gydweithio \u00e2\u2019n partneriaid ledled y diwydiant ac mewn addysg, rydym yn hyrwyddo\u2019r sgiliau sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ac sy\u2019n allweddol yn y gwaith o ysgogi buddsoddiad a thwf mewn busnesau ledled y Deyrnas Unedig.\u201d<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i ddechrau eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i <a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\">https:\/\/inspiringskills.gov.wales<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cystadleuwyr o Gymru wedi cael llwyddiant anghygoel wrth ennill 70 medal yn rowndiau terfynol cenedlaethol , gan osod y llwyfan yn barod i Gymru a fydd yn cynnal y digwyddiad yn 2025. Gan adeiladu ar lwyddiannau&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-2024-winners\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[21,11,18],"tags":[],"class_list":["post-11033","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cystadleuaeth-sgiliau-cymru","category-newyddion","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11033","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11033"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11033\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11047,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11033\/revisions\/11047"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11033"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11033"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11033"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}