{"id":11057,"date":"2024-12-05T14:33:49","date_gmt":"2024-12-05T14:33:49","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11057"},"modified":"2024-12-11T13:52:11","modified_gmt":"2024-12-11T13:52:11","slug":"ntfw-health-social-care","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-health-social-care\/","title":{"rendered":"Gostyngiad brawychus mewn prentisiaethau&#8217;n dwys\u00e1u&#8217;r argyfwng ym maes iechyd a gofal cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-health-social-care\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-health-social-care\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Barchester-Brand-shoot-Web-Quality-still-59-002-e1733408593731.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Barchester-Brand-shoot-Web-Quality-still-59-002-e1733408593731.jpg\" alt=\"Carers and clients sat outside around a table having a cup of tea.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-18515\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn \u00f4l darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr mae&#8217;r gostyngiad sydyn mewn prentisiaethau&#8217;n gwaethygu argyfwng gweithlu\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar \u00f4l i Lywodraeth Cymru wneud toriadau digynsail i&#8217;w cyllid eleni. <\/p>\n<p>Mae data a ryddhawyd gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, am y cyfnod Chwefror\u2013Ebrill eleni yn dangos gostyngiad o 445 (34%) yn nifer y dysgwyr a ddechreuodd ddilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o&#8217;i gymharu \u00e2\u2019r un cyfnod y llynedd.  Bu gostyngiad o 160 (27%) yn nifer y rhai a ddechreuodd ar Brentisiaeth. <\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy\u2019n cynrychioli darparwyr hyfforddiant, wedi galw am wrthdroi\u2019r toriadau o 14% yng nghyllid prentisiaethau.<\/p>\n<p>Daw\u2019r newyddion digalon i\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dynn ar sodlau\u2019r adroddiad damniol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf am effaith y toriad yng nghyllid prentisiaethau. <\/p>\n<p>Cafodd adroddiad y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr), <strong>\u2018Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru&#8217;<\/strong>, ei gomisiynu ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru, y mae eu haelodau\u2019n gyfrifol am gyflwyno dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/20241112_Effaith-Toriadau-Cyllid-Prentisiaethau-yng-Nghymru_CY.pdf\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/12-e1732537505224.png\" width=\"502\" height=\"282\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn rhagweld y bydd bron 6,000 yn llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru eleni, gyda cholled tymor byr cysylltiedig o \u00a350.3 miliwn i\u2019r economi, wedi\u2019i fesur mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth.  <\/p>\n<p>Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag unigolion o ardaloedd difreintiedig, fydd yn dioddef waethaf oherwydd y toriadau hyn.<\/p>\n<p>Mae \u00f4l-effeithiau&#8217;r dirywiad hwn i&#8217;w teimlo ledled Cymru.  Hyd yn oed cyn y toriadau ariannol, roedd Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi rhybuddio:  \u201cMae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol a diffyg capasiti&#8217;r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal yn un o brif achosion yr oedi cyn rhyddhau pobl o\u2019r ysbyty.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Cynllun Cyflawni\u2019r Gweithlu Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru wedi tanlinellu pwysigrwydd sgiliau a hyfforddiant, gan addo cynyddu nifer y bobl oedd yn gwneud prentisiaethau yn y sector. <\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae&#8217;r data diweddaraf hyn yn awgrymu bod y gwrthwyneb yn digwydd, gan beryglu&#8217;r ymdrechion i fynd i&#8217;r afael \u00e2 phrinder difrifol o weithwyr.<\/p>\n<p><strong>Yn ei sesiwn friffio ar gyfer Ymchwiliad Pwyllgor y Senedd, pwysleisiodd Conffederasiwn y GIG:<\/strong><br \/>\n\u201cMae gan ofal cymdeithasol ran hanfodol i\u2019w chwarae mewn llwybrau gofal drwy sicrhau y gellir rhyddhau cleifion o\u2019r ysbyty&#8217;n gynt ac yn fwy diogel a chadw pobl yn iach am fwy o amser heb fynd i\u2019r ysbyty.\u201d <\/p>\n<p><strong>Dywedodd cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton:<\/strong><br \/>\n\u201cOs yw cynyddu Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hanfodol er mwyn lliniaru\u2019r argyfwng, yna mae\u2019n rhaid bod y gostyngiad serth presennol yn nifer y dysgwyr yn seinio clychau rhybudd yn Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>\u201cHeb weithredu ar unwaith i wrthdroi\u2019r duedd hon, mae perygl i Gymru waethygu\u2019r argyfwng presennol, gan effeithio\u2019n ddifrifol ar gleifion, teuluoedd a\u2019r economi. \u201d<\/p>\n<p>Mae Innovate Trust, sefydliad elusennol sy&#8217;n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw&#8217;n annibynnol yn y gymuned, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am swyddi eleni.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn cyflogi dros 950 o weithwyr, a bydd disgwyl i\u2019r mwyafrif ohonynt weithio tuag at Brentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol,\u201d <strong>meddai Sue Hatch, swyddog hyfforddi a datblygu<\/strong>.  \u201cHeb y cymhwyster hwn mae mwy o risg i\u2019r bobl rydyn ni\u2019n eu cefnogi. <\/p>\n<p>\u201cMae cyllid prentisiaethau&#8217;n hollbwysig i ni fel elusen er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr wedi cymhwyso&#8217;n llawn ac wedi&#8217;u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae toriadau cyllid wedi amharu ar ein gwaith a\u2019n gweithwyr gan ein bod yn dibynnu ar gefnogaeth i ddarparu cymwysterau er mwyn cynnal sgiliau ein gweithlu.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Sarah Clifford, pennaeth prentisiaethau a systemau dysgu digidol gyda Barchester Healthcare:<\/strong><br \/>\n\u201cO ganlyniad i\u2019r toriadau i gyllid prentisiaethau a&#8217;r gostyngiad yn nifer y darparwyr hyfforddiant cymeradwy yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y staff asesu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny\u2019n creu problemau capasiti ac yn effeithio ar gynnydd ein dysgwyr.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer <\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn \u00f4l darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr mae&#8217;r gostyngiad sydyn mewn prentisiaethau&#8217;n gwaethygu argyfwng gweithlu\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar \u00f4l i Lywodraeth Cymru wneud toriadau digynsail i&#8217;w cyllid eleni. Mae data a ryddhawyd gan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-health-social-care\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11057","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11057","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11057"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11057\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11148,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11057\/revisions\/11148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11057"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11057"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11057"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}