{"id":11090,"date":"2024-12-12T00:02:30","date_gmt":"2024-12-12T00:02:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11090"},"modified":"2024-12-11T21:50:14","modified_gmt":"2024-12-11T21:50:14","slug":"ntfw-dec24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-dec24\/","title":{"rendered":"Tri Mis Prysur:  Cynrychioli Buddiannau ein Rhwydwaith yn y Senedd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-dec24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-dec24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_15455\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15455\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\" alt=\"head shot of Lisa Mytton\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15455\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15455\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW<\/p><\/div>\n<p>A ninnau&#8217;n agos\u00e1u at ddiwedd y flwyddyn, rwyf am rannu uchafbwyntiau\u2019r tri mis diwethaf \u2014 cyfnod pryd y cafwyd cryn dipyn o eiriolaeth a chydweithio er mwyn hybu blaenoriaethau ein rhwydwaith. O gyflwyno tystiolaeth yn y Senedd i lywio trafodaethau ar brentisiaethau, addysg, a chynhwysiant, mae wedi bod yn gyfnod cynhyrchiol.<\/p>\n<h4>Newyddion Allweddol o&#8217;r Senedd<\/h4>\n<p><strong>Addysg a&#8217;r Gymraeg<\/strong><br \/>\nCefais gyfle i gyflwyno tystiolaeth lafar ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).  Yn ystod y trafodaethau hyn, soniais am bwysigrwydd sicrhau bod y Bil yn adlewyrchu anghenion amrywiol prentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant.  Mae hwn yn gam hollbwysig er mwyn cryfhau\u2019r Gymraeg ar draws y sectorau mewn ffordd ystyrlon a chynhwysol.<\/p>\n<p><strong>Cydraddoldeb a Chyflogaeth<\/strong><br \/>\nMewn ail sesiwn, fe wnes i annerch y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gan s\u00f4n am eu hymchwiliad i anabledd a chyflogaeth. Tynnais sylw at gydymdrechion darparwyr prentisiaethau yng Nghymru i gefnogi dysgwyr anabl. Mae&#8217;r ymdrechion hyn yn cynnwys cynlluniau wedi&#8217;u teilwra, canllawiau ar hawliau anabledd a chyflogwyr cynhwysol, a rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, y rhain oll wedi&#8217;u cynllunio i helpu dysgwyr anabl i sicrhau cyfleoedd ystyrlon.<\/p>\n<p><strong>Eiriol dros Raglen Brentisiaethau Cymru<\/strong><br \/>\nAr \u00f4l i ColegauCymru a ninnau anfon llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog ynghylch Rhaglen Brentisiaethau Cymru, cawsom ymateb cadarnhaol gan Jack Sargeant AS. Edrychwn ymlaen at gwrdd ag ef yn y Flwyddyn Newydd i drafod y camau nesaf.<\/p>\n<h4>Ymateb i Ymgyngoriadau o Bwys<\/h4>\n<p><strong>Cynllun Strategol Medr<\/strong><br \/>\nRoeddem yn cefnogi pwyslais y cynllun ar addysg cyfrwng Cymraeg ac ar gysylltu addysg ag arloesi a thwf economaidd. Fe wnaethom ni annog strategaethau mwy penodol a fyddai&#8217;n targedu oedolion sy\u2019n dysgu a chyfleoedd ailsgilio, yn cynnwys cysylltiadau \u00e2 rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, yn ogystal \u00e2\u2019r angen parhaus am gydraddoldeb, cydweithredu, cyfleoedd i dyfu a chynnydd mewn cyllid cynaliadwy.<\/p>\n<p><strong>Adolygiad y CBI o&#8217;r System Brentisiaethau<\/strong><br \/>\nMewn ymateb i adolygiad y CBI o System Brentisiaethau Cymru, fe wnaethom ni argymell gwneud gwell defnydd o&#8217;r ardoll. Yn aml, mae\u2019r agwedd bresennol o \u201cuse it or lose it\u201d yn arwain at danwario arian a allai wneud mwy i gefnogi datblygiad y gweithlu. Trwy addasu\u2019r polis\u00efau hyn, gellid sicrhau bod y defnydd gorau&#8217;n cael ei wneud o gyllid prentisiaethau er budd dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr.<\/p>\n<h4>Ymgysylltu a Mewnwelediad<\/h4>\n<p><strong>Trafodaethau&#8217;r Gr\u0175p Trawsbleidiol<\/strong><br \/>\nYn ystod cyfarfod diwethaf y Gr\u0175p Trawsbleidiol yn y Senedd, buom yn edrych ar Weledigaeth Medr ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru. Ymhlith y pwyntiau allweddol roedd gallu unigryw Cymru i gynnwys yr holl randdeiliaid wrth wneud penderfyniadau, a phwysigrwydd ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr er mwyn esbonio&#8217;r glir wrth bobl ifanc, athrawon a rhieni beth mae prentisiaethau yn ei olygu.<\/p>\n<p><strong>Cydweithredu \u00e2 FAB<\/strong><br \/>\nCafodd Sarah John (ALS), Faith O\u2019Brien (Hyfforddiant Cambrian) a minnau gyfarfod gyda Rob Nitsch, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB). Buom yn trafod cynnwys AI mewn asesiadau a sicrhau bod modd trosglwyddo cymwysterau o fewn y Deyrnas Unedig, ymhlith pethau eraill.<\/p>\n<p><strong>Adolygu Fframweithiau gyda Medr<\/strong><br \/>\nCawsom gyfarfod hefyd gyda chynrychiolwyr Medr a\u2019n 10 deiliad contract a gomisiynwyd er mwyn adolygu&#8217;r fframweithiau prentisiaethau presennol. Trafodwyd amserlenni&#8217;r adolygiad a ffurfio gr\u0175p llywio i oruchwylio&#8217;r ymdrechion hyn.<\/p>\n<p><strong>Amddiffyn Cyllidebau Prentisiaethau<\/strong><br \/>\nRhoddwyd cryn bwyslais ar eiriol dros gyllid prentisiaethau dros y tri mis diwethaf, yn enwedig mewn ymateb i\u2019r toriad blaenorol o 14%. Mae adroddiad diweddar Cebr &#8211; Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru, a gomisiynwyd gan NTFW a ColegauCymru, yn amlygu effaith y toriadau hyn, yn enwedig ar sectorau hollbwysig fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu. <\/p>\n<p>Trwy bodlediadau gyda Panda Education a Will This Be in the Test? gan Agored, ynghyd \u00e2 chyfweliadau gyda BBC Radio Wales a Global Radio, rwyf wedi tanlinellu\u2019r angen dybryd am fuddsoddi mewn prentisiaethau, a phroffesiynoli\u2019r gweithlu.<\/p>\n<h4>Cyfarchion y Tymor<\/h4>\n<p>Wrth i ni baratoi at heriau a chyfleoedd y Flwyddyn Newydd, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a\u2019ch cydweithrediad parhaus.  Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi!<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg A ninnau&#8217;n agos\u00e1u at ddiwedd y flwyddyn, rwyf am rannu uchafbwyntiau\u2019r tri mis diwethaf \u2014 cyfnod pryd y cafwyd cryn dipyn o eiriolaeth a chydweithio er mwyn hybu blaenoriaethau ein rhwydwaith. O gyflwyno tystiolaeth yn y Senedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-dec24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11090","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11090","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11090"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11090\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11151,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11090\/revisions\/11151"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11090"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11090"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11090"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}