{"id":11092,"date":"2024-12-12T00:01:54","date_gmt":"2024-12-12T00:01:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11092"},"modified":"2024-12-10T19:33:47","modified_gmt":"2024-12-10T19:33:47","slug":"educ8-dec24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec24\/","title":{"rendered":"Llwybr Shauna at lwyddiant: Hyrwyddo harddwch gydag ISA Training"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-dec24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18539\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/enews-story-6-12-2024-no-border-e1733780342447.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18539\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/enews-story-6-12-2024-no-border-e1733780342447.jpg\" alt=\"Shauna giving a manicure to a client.\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-18539\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18539\" class=\"wp-caption-text\">Shauna, prentis Harddwch, Lefel 2, ISA Training yn Rokoko Hub.<\/p><\/div>\n<p>Mae taith Shauna yn y diwydiant harddwch wedi bod yn hollol ysbrydoledig. Ar \u00f4l gadael yr ysgol, penderfynodd ddilyn Prentisiaeth Lefel 2 mewn Harddwch gydag ISA Training (sy&#8217;n falch o gael perthyn i <a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/cy\/\">Gr\u0175p Educ8<\/a>). <\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Shauna&#8217;n gweithio yn Rokoko Hub lle mae&#8217;n ffynnu ac yn mwynhau pob cam o&#8217;i datblygiad proffesiynol. Mae ei hangerdd dros harddwch yn cynyddu bob dydd, ac yma mae\u2019n rhannu ei phrofiad o ddewis llwybr prentisiaeth ac effaith gadarnhaol hynny ar ei gyrfa.<\/p>\n<p><strong>Cafodd profiadau pobl o\u2019i chwmpas ddylanwad ar benderfyniad Shauna i ddilyn llwybr prentisiaeth. <\/strong><br \/>\nSylwodd Shauna fod llawer o\u2019i chyfoedion a ddilynodd gyrsiau coleg traddodiadol mewn harddwch yn dweud na chawsant ddigon o brofiad ymarferol, a bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i&#8217;w gyrfaoedd, ond bod y rhai a wnaeth brentisiaeth gydag ISA Training yn ei weld yn opsiwn llawer gwell.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Shauna, wrth ddysgu yn y gweithle mae&#8217;n cael cyfle i ddeall y diwydiant harddwch yn well a defnyddio&#8217;r hyn y mae&#8217;n ei ddysgu wrth weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae&#8217;n gwerthfawrogi&#8217;r profiad ymarferol a gaiff a&#8217;r gallu i ddatblygu sgiliau mewn salon go iawn.<\/p>\n<p><strong>Cafodd Shauna ei phlesio \u00e2 chefnogaeth ac arweiniad ei hanogwr hyfforddiant t\u00e2rwy gydol ei phrentisiaeth. <\/strong><br \/>\nMae\u2019r berthynas weithiol dda hon wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiant Shauna hyd yma. Mae cael rhywun sy\u2019n deall heriau cydbwyso bywyd gwaith ac astudio yn golygu bod ei phrofiad o&#8217;r brentisiaeth yn llawer llyfnach a mwy pleserus. <\/p>\n<p><strong>Meddai:<\/strong> \u2018Mae fy anogwr hyfforddiant mor hyfryd ac yn help mawr wrth drafod y llwyth gwaith neu\u2019r arholiadau. Mae wedi bod yn wych cydweithio \u00e2 hi yn ystod fy nghwrs.\u2019<br \/>\nA hithau mor frwd dros ei thaith fel prentis, mae Shauna eisoes yn ystyried ei chamau nesaf. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei phrentisiaeth Lefel 2, mae\u2019n awyddus i barhau \u00e2\u2019i hyfforddiant trwy ennill cymhwyster Lefel 3 er mwyn ehangu ei sgiliau a datblygu ei gyrfa. Mae\u2019n gwerthfawrogi\u2019r cyfle i ennill profiad mewn gwahanol feysydd yn y salon ac mae&#8217;n credu\u2019n gryf y bydd cwblhau prentisiaeth gydag ISA Training yn rhoi\u2019r profiad cyflawn y mae arni ei angen er mwyn rhagori yn y diwydiant harddwch.<\/p>\n<p><strong>Meddai:<\/strong> \u2018Rwy&#8217;n mwynhau gwaith ewinedd a cholur ar y brentisiaeth ar hyn o bryd, ond rwy wir eisiau rhoi cynnig ar bopeth er mwyn penderfynu beth rwy&#8217;n ei hoffi fwyaf.\u2019<\/p>\n<p>Trwy gyfuno sgiliau ymarferol a gwybodaeth o lyfr, mae Shauna&#8217;n darganfod beth sy&#8217;n rhoi pleser iddi yn ogystal ag yn ei pharatoi ei hunan ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant harddwch. <\/p>\n<p>Os hoffech wybod rhagor am brentisiaethau gydag ISA Training, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/\">isatraining.co.uk<\/a> neu <a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/contact-us\/\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a> i gael gwybod sut i dyfu eich busnes. <\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae taith Shauna yn y diwydiant harddwch wedi bod yn hollol ysbrydoledig. Ar \u00f4l gadael yr ysgol, penderfynodd ddilyn Prentisiaeth Lefel 2 mewn Harddwch gydag ISA Training (sy&#8217;n falch o gael perthyn i Gr\u0175p Educ8). Ar hyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11092","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11092","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11092"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11092\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11146,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11092\/revisions\/11146"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11092"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11092"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11092"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}