{"id":11155,"date":"2024-12-16T10:24:15","date_gmt":"2024-12-16T10:24:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11155"},"modified":"2024-12-16T10:24:15","modified_gmt":"2024-12-16T10:24:15","slug":"draft-budget-dec-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/draft-budget-dec-24\/","title":{"rendered":"Cyllideb ddrafft yn siomi darparwyr prentisiaethau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/draft-budget-dec-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/draft-budget-dec-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18380\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/22.03.24-NTFW-Conference-43-scaled-e1732129918381.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18380\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/22.03.24-NTFW-Conference-43-scaled-e1732129918381.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, NTFW Strategic Director\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-18380\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18380\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW<\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019r corff sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi&#8217;i siomi nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn addo rhagor o arian i brentisiaethau, yn wahanol i feysydd eraill ym maes addysg a hyfforddiant. <\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi galw eto am fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau ac mae wedi addunedu i gydweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru i gyrraedd nodau sydd ganddynt yn gyffredin, wrth i drafodaethau ar y gyllideb barhau.  <\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, cafwyd gostyngiad o 14% yng nghyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Croesawodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW, yr ymrwymiad i gadw cyllideb bresennol prentisiaethau gan ddweud:<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae hyn yn gydnabyddiaeth glir o r\u00f4l hanfodol prentisiaethau er mwyn meithrin gweithlu medrus a chynhwysol. <\/p>\n<p>\u201cPob clod i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, am ddisgrifio\u2019r gyllideb ddrafft fel \u2018cynllun ar gyfer twf\u2019 a \u2018chyllideb sy\u2019n amddiffyn pobl agored i niwed\u2019.  Dyma egwyddorion sydd wrth galon yr hyn y mae prentisiaethau\u2019n ei gyflawni, gan rymuso unigolion a meithrin gwytnwch mewn cymunedau ledled Cymru. <\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n hanfodol cael cyllid ychwanegol i gyflawni\u2019r pedair blaenoriaeth allweddol a amlinellwyd gan y Prif Weinidog ac i lwyr wireddu potensial trawsnewidiol prentisiaethau wrth gyfrannu at dwf ac amddiffyn pobl sy\u2019n agored i niwed.<\/p>\n<p>\u201cByddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cyfrannu at adfer yr hyn a gollwyd yn ddiweddar oherwydd chwyddiant a thoriadau blaenorol i&#8217;r gyllideb. <\/p>\n<p>\u201cTrwy fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau, gallwn gydweithio i gynyddu twf economaidd trwy weithlu medrus, hyrwyddo cynhwysiant a symudedd cymdeithasol, mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau diwydiant-benodol a helpu cymunedau i ddod dros heriau economaidd. <\/p>\n<p>\u201cEr ein bod yn deall pam y mae Llywodraeth Cymru&#8217;n awyddus i\u2019r gyllideb sydd ar gael i brentisiaethau flaenoriaethu\u2019r Warant i Bobl Ifanc, byddai gwneud hynny \u00e2\u2019r gyllideb hon yn achosi rhagor o niwed i\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r NTFW yn dal wedi ymrwymo i gydweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i wneud yn si\u0175r bod prentisiaethau\u2019n parhau i sicrhau manteision ystyrlon i unigolion, busnesau a chymunedau. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn edrych ymlaen at ragor o drafod a chydweithio wrth i ni anelu at nodau sydd gennym yn gyffredin. \u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu canfyddiadau adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn archwilio effaith eu penderfyniad i dorri cyllideb prentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr), a gomisiynwyd ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru yn rhagweld y bydd bron 6,000 yn llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru eleni, gyda cholled dymor byr gysylltiedig o \u00a350.3 miliwn i\u2019r economi, wedi\u2019i fesur mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth. <\/p>\n<p>Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag unigolion o ardaloedd difreintiedig, fydd yn dioddef waethaf oherwydd y toriadau hyn.<\/p>\n<p>Mae data a ryddhawyd gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, am y cyfnod Chwefror\u2013Ebrill eleni yn dangos gostyngiad o 445 (34%) yn nifer y dysgwyr a ddechreuodd ddilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o&#8217;i gymharu \u00e2\u2019r un cyfnod y llynedd. Bu gostyngiad o 160 (27%) yn nifer y rhai a ddechreuodd ar Brentisiaeth.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r corff sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi&#8217;i siomi nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn addo rhagor o arian i brentisiaethau, yn wahanol i feysydd eraill ym maes addysg a hyfforddiant. Mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/draft-budget-dec-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11155","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11155","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11155"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11155\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11158,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11155\/revisions\/11158"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11155"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11155"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11155"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}