{"id":11162,"date":"2025-01-17T20:11:46","date_gmt":"2025-01-17T20:11:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11162"},"modified":"2025-01-17T20:13:08","modified_gmt":"2025-01-17T20:13:08","slug":"act-apps-trends","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-apps-trends\/","title":{"rendered":"Tueddiadau prentisiaethau y byddwn yn eu gweld yn 2025"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-apps-trends\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-apps-trends\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18580\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/22.05.24-Richard-Spear-scaled-e1737143355924.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18580\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/22.05.24-Richard-Spear-scaled-e1737143355924.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"399\" class=\"size-full wp-image-18580\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18580\" class=\"wp-caption-text\">Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT.<\/p><\/div>\n<p>Rydym wedi gweld llawer o newidiadau a heriau i dirwedd prentisiaethau yng Nghymru yn 2024, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/businessnewswales.com\/apprenticeship-funding-cuts-have-devasting-impact-on-economy-and-communities\/\">toriadau ariannol<\/a>. Er gwaethaf hyn, mae dysgu seiliedig ar waith yn parhau i ffynnu, nid yn unig drwy ddarparu cyfleoedd cyffrous i weithwyr a darpar weithwyr, ond hefyd drwy leihau\u2019r bwlch sgiliau a chefnogi sefydliadau bach a mawr Cymru ar draws pob sector. <\/p>\n<p>Er y gall y dirwedd brentisiaeth ymddangos fel petai yn newid yn barhaus, mae yna ychydig o nodweddion y gallwn eu rhagweld. Dyma beth allwn ni ddisgwyl ei weld yn ystod y 12 mis nesaf.<br \/>\nBydd cymwysterau proffesiynol yn parhau i ffynnu <\/p>\n<p>Mae cymwysterau proffesiynol wastad wedi bod yn gonglfaen i ddatblygiad gyrfa, ac mae eu harwyddoc\u00e2d ond yn cynyddu, yn enwedig ymhlith dringwyr yr ysgol yrfa sy\u2019n deall pwysigrwydd mireinio eu sgiliau.  <\/p>\n<p>O <a href=\"https:\/\/www.alstraining.org.uk\/project-management-level-4\/\">reoli prosiectau<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.alstraining.org.uk\/level-4-data-analyst-3\/\">dadansoddi data<\/a> i <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/advice-guidance\/\">gyngor ac arweiniad<\/a> a <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/business-administration-level-2\/\">gweinyddu busnes<\/a>, mae\u2019r cymwysterau hyn yn cynnig llwybr uniongyrchol at rolau arwain i brentisiaid.<\/p>\n<p>I gyflogwyr, mae\u2019r prentisiaethau hyn yn datblygu\u2019r meddwl strategol a\u2019r gallu datrys problem sydd eu hangen ar eu gweithwyr i arwain y busnes. Yn syml, mae uwchsgilio yn y maes hwn yn fuddsoddiad mewn gwytnwch busnes  \u2013 nodwedd holl bwysig wrth i bawb ddygymod \u00e2\u2019r heriau economaidd cyfredol. <\/p>\n<p><strong>Bydd uwchsgilio yn allweddol i gynlluniau Sero Net Cymru <\/strong><br \/>\nWrth i Gymru ymrwymo i dargedau uchelgeisiol Sero Net, rydym wedi gweld nifer sylweddol o fusnesau sydd am fod ar flaen y gad a gwneud synnwyr o beth mae hynny\u2019n ei olygu iddyn nhw cyn iddynt ddod yn statudol. <\/p>\n<p>O ystyried ei phwysigrwydd cynyddol, mae\u2019r economi werdd yn cynrychioli her a chyfle. Mae prentisiaethau mewn pynciau perthnasol fel <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/energy-carbon-management\/\">rheoli carbon ac ynni<\/a> neu <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/course-categories\/green-skills\/\">gyrsiau cynaliadwyedd achrededig IEMA<\/a> yn rhoi\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi ymdrechion datgarboneiddio \u2013 gan dorri trwy\u2019r jargon dryslyd a chynnig datrysiadau  sy\u2019n hawdd eu mabwysiadu ar gyfer anghenion busnes unigol.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019n syndod felly, gyda sylw manylach ar strategaeth werdd Cymru, y gwelwn gynnydd mewn sgiliau yn y maes hwn. <\/p>\n<p><strong>Bydd sefydliadau\u2019n buddsoddi mewn sgiliau digidol <\/strong><br \/>\nMae gweithio hybrid ac o bell wedi dod yn rhan annatod o\u2019r rhan fwyaf o sefydliadau ers rhai blynyddoedd bellach. Ond oherwydd bod ei fabwysiadu cyflym wedi dod o reidrwydd brys yn hytrach na datblygiad cyson, mae gan lawer o fusnesau yr isadeiledd digidol ond heb yr hyfforddiant priodol sydd ei angen i ddefnyddio\u2019r cynhyrchion digidol y maent wedi\u2019u prynu\u2019n yn llawn. <\/p>\n<p>O\u2019r herwydd, bydd prentisiaethau digidol lefel mynediad \u2013 fel <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/digital-skills-for-business-level-2\/\">Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes<\/a> \u2013 yn parhau i fod yn boblogaidd, gan ddarparu hyfforddiant lefel sylfaen i unrhyw aelod o staff sy\u2019n defnyddio cyfrifiadur (a gadewch i ni fod yn onest, mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o bobl). <\/p>\n<p>Bydd pynciau digidol uwch \u2013 fel <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/user-centred-design\/\">dylunio sy\u2019n canolbwyntio ar y defnyddiwr<\/a>, <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/digital-marketing-3\/\">marchnata digidol<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.alstraining.org.uk\/courses\/cyber-security\/\">seiberddiogelwch<\/a> \u2013 hefyd yn gweld cynnydd yn y galw wrth i fusnesau sylweddoli pwysigrwydd ei asedau ar-lein, o safbwynt ddiogelwch yn ogystal \u00e2 hyrwyddo.  <\/p>\n<p><strong>Bydd yr angen am brentisiaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynyddu <\/strong><br \/>\nUn o\u2019r sectorau a gafodd ei tharo waethaf gan doriadau cyllid eleni oedd <a href=\"https:\/\/businessnewswales.com\/alarming-decline-in-apprenticeships-worsens-health-and-social-care-crisis\/\">iechyd a gofal cymdeithasol<\/a> \u2013 sy\u2019n destun pryder dwys o ystyried ei fod eisoes dan straen aruthrol. <\/p>\n<p>Mae hyn ond yn ychwanegu at y dirwedd gymhleth, gydag iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn broffesiwn deniadol i lawer, ond hefyd yn cael trafferth cyflogi a chadw staff. <\/p>\n<p>O\u2019r herwydd, mae cyflogwyr a gweithwyr yn aml yn cael eu cefnogi gan uwchsgilio a hyfforddiant yn y gwaith i sicrhau bod staff mewn sefyllfa dda i fodloni gofynion sector mor bwysig. <\/p>\n<p>Nid yw\u2019n gyfrinach bod cydberthynas uniongyrchol rhwng anweithgarwch economaidd ac iechyd cenedl, felly os yw Cymru am fwrw ymlaen \u00e2\u2019i chynllun ar gyfer economi lewyrchus, bydd angen sicrhau mai\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yw ei chanolbwynt. <\/p>\n<p>I fusnesau yng Nghymru, gall 2025 fod y flwyddyn y bydd uwchsgilio yn dod yn flaenoriaeth strategol. Trwy fuddsoddi yn y pedwar maes allweddol hwn, mae gennym gyfle i adeiladu ffrwd o dalent sy\u2019n barod i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau\u2019r misoedd nesaf a thu hwnt.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Rydym wedi gweld llawer o newidiadau a heriau i dirwedd prentisiaethau yng Nghymru yn 2024, gan gynnwys toriadau ariannol. Er gwaethaf hyn, mae dysgu seiliedig ar waith yn parhau i ffynnu, nid yn unig drwy ddarparu cyfleoedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-apps-trends\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11162","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11162"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11165,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162\/revisions\/11165"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}