{"id":11359,"date":"2025-03-12T07:00:46","date_gmt":"2025-03-12T07:00:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11359"},"modified":"2025-03-11T20:17:51","modified_gmt":"2025-03-11T20:17:51","slug":"ntfw-conference-25-elinor","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-25-elinor\/","title":{"rendered":"Elinor yn mwynhau amrywiaeth ei phrentisiaeth ym myd marchnata"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-conference-25-elinor\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-25-elinor\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18929\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/elinor-jones-ntfw-conference-25-scaled-e1741523818152.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18929\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/elinor-jones-ntfw-conference-25-scaled-e1741523818152.jpg\" alt=\"Elinor Jones, apprentice sitting at desk with her laptop\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-18929\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18929\" class=\"wp-caption-text\">Elinor Jones, Marketing Assistant Apprentice<\/p><\/div>\n<p>Mae Elinor Jones yn cyfuno&#8217;i sgiliau creadigol \u00e2\u2019i chariad at deithio a thwristiaeth yn ei phrentisiaeth amrywiol fel cynorthwyydd marchnata gyda Chyngor Caerdydd. <\/p>\n<p>Mae Elinor, 31, yn rhannu ei hamser rhwng Awdurdod Harbwr Caerdydd, Croeso Caerdydd a Pharc Bute wrth iddi weithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3, a drefnir gan y darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT. <\/p>\n<p>Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn Stadiwm Dinas Caerdydd a bu&#8217;n helpu i&#8217;w hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. <\/p>\n<p>Roedd Elinor yn un o bedwar prentis ar banel sesiwn holi ac ateb yn y gynhadledd. Disgrifiwyd y sesiwn gan Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, fel un \u201cwirioneddol wych\u201d a rhagwelai y byddai&#8217;r pedwar prentis ymhlith arweinyddion y dyfodol.<\/p>\n<p>Yn Rhaeadr y magwyd Elinor, bu&#8217;n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, a gwnaeth radd mewn actio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin cyn treulio amser yn teithio.<\/p>\n<p>Rhoddodd gynnig ar nifer o wahanol swyddi cyn chwilio am waith ym maes marchnata digidol, ond roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am brofiad yn y maes. <\/p>\n<p>Yn ffodus, sicrhaodd Elinor brentisiaeth gyda Chyngor Caerdydd y llynedd ac mae hynny\u2019n cynnwys hyrwyddo digwyddiadau ac atyniadau yn y ddinas, Bae Caerdydd ac Ynys Echni a Pharc Bute.  Ar hyn o bryd mae&#8217;n helpu \u00e2 chynlluniau i ddathlu pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn 25 ar Ebrill 1.<\/p>\n<p>\u201cRo&#8217;n i&#8217;n awyddus i ailhyfforddi ond ro&#8217;n i\u2019n ei chael hi&#8217;n anodd cael swydd farchnata gan fod cyflogwyr yn gofyn am ddwy flynedd o brofiad. Roedd hynny&#8217;n rhwystredig,\u201d meddai.  \u201cSut allwn i gael profiad heb iddyn nhw roi swydd i mi?<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r brentisiaeth gyda Chyngor Caerdydd yn berffaith achos rwy&#8217;n gallu dysgu, ennill cymhwyster, a gweithio ac ennill cyflog ar yr un pryd.  Mae llawer o&#8217;r pethau rwy&#8217;n eu dysgu trwy&#8217;r brentisiaeth yn gallu cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn fy ngwaith.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n ffordd wych o ddod i ddeall marchnata.  Rwy\u2019n berson eitha creadigol gyda sgiliau pobl \u2013 dyna pam wnes i radd mewn actio \u2013 felly mae\u2019n hwyl creu cynnwys yn fy swydd. <\/p>\n<p>\u201cHoffwn i aros yn y sector teithio a thwristiaeth gan fy mod wrth fy modd yn y maes, a gweithio fy ffordd i fyny. \u201d<\/p>\n<p>Wrth edrych i&#8217;r dyfodol, dywed Elinor y byddai&#8217;n ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch.  \u201cMae bob amser yn dda dal ati i ddysgu gan fod hynny&#8217;n eich helpu i wneud eich gwaith yn well,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Cafodd Elinor gyfle i ysgrifennu blog am gynhadledd NTFW ac meddai am ei r\u00f4l ar y diwrnod:  \u201cRoedd yn ddiwrnod cyffrous ac yn gyfle gwych i rwydweithio \u00e2 phobl eraill a gweld beth oedd yn digwydd ym myd prentisiaethau yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Canmolwyd ei chyfraniad i\u2019r gynhadledd gan Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTFW.  \u201cGofynnwyd i Elinor a hoffai ysgrifennu blog a helpu \u00e2 chwpl o bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gynhadledd cyn cymryd rhan yn y Sbotolau ar Brentisiaid.  <\/p>\n<p>\u201cLlwyddodd i ragori ar ein disgwyliadau a, gyda phrentisiaid eraill, gwnaeth gyfraniad ardderchog i\u2019r gynhadledd gan haeddu canmoliaeth y Gweinidog Sgiliau.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Elinor Jones yn cyfuno&#8217;i sgiliau creadigol \u00e2\u2019i chariad at deithio a thwristiaeth yn ei phrentisiaeth amrywiol fel cynorthwyydd marchnata gyda Chyngor Caerdydd. Mae Elinor, 31, yn rhannu ei hamser rhwng Awdurdod Harbwr Caerdydd, Croeso Caerdydd a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-25-elinor\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-11359","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11359","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11359"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11359\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11374,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11359\/revisions\/11374"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11359"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11359"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11359"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}