{"id":11361,"date":"2025-03-11T01:00:21","date_gmt":"2025-03-11T01:00:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11361"},"modified":"2025-03-11T14:31:28","modified_gmt":"2025-03-11T14:31:28","slug":"ntfw-conference-result","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-result\/","title":{"rendered":"Ymrwymiad i brentisiaethau&#8217;n &#8220;gadarn&#8221;, meddai&#8217;r Gweinidog Sgiliau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-conference-result\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-result\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18951\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-438-scaled-e1741697683628.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18951\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-438-scaled-e1741697683628.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-18951\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18951\" class=\"wp-caption-text\">Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, yn sgwrsio \u00e2&#8217;r prentisiaid Elinor Jones, Luke Jones, Sara Williams a Rhiannon Young yn y gynhadledd.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, wedi pwysleisio ymrwymiad &#8220;cadarn&#8221; Llywodraeth Cymru i brentisiaethau er mwyn diwallu anghenion economi sy&#8217;n esblygu&#8217;n barhaus.<\/p>\n<p>Wrth annerch cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd: \u201cRydyn ni&#8217;n llywio chwyldro gwyrdd Cymru trwy ein rhaglen brentisiaethau, gyda hyfforddiant mewn technoleg werdd flaengar, arloesi digidol a deallusrwydd artiffisial. <\/p>\n<p>&#8220;Trwy&#8217;r rhaglenni hyn rydyn ni&#8217;n buddsoddi yn nyfodol Cymru ac mae ein hymrwymiad i brentisiaethau&#8217;n dal yn gadarn.\u201d<\/p>\n<p>Daeth nifer dda o bobl i&#8217;r gynhadledd ar y thema &#8216;Prentisiaethau: Hybu Twf Economaidd a Chynlluniau i Arloesi yn y Dyfodol&#8217; a Mr Sargeant AS roddodd yr araith i gloi. Diolchodd i&#8217;r cynadleddwyr am eu hymroddiad a&#8217;u hangerdd dros ddarparu prentisiaethau ledled Cymru. <\/p>\n<p>\u201cGyda\u2019n gilydd, rydyn ni&#8217;n adeiladu Cymru lle mae pawb yn cael cyfle i lwyddo,\u201d meddai. \u201cGadewch inni ddal ati i gydweithio, law yn llaw, i sicrhau bod prentisiaethau&#8217;n cael yr effaith fwyaf ar ein heconomi a\u2019n cymdeithas.\u201d<\/p>\n<p>Gwrandawodd yn astud ar sesiwn holi ac ateb gyda phedwar prentis presennol o wahanol rannau o Gymru a dywedodd ei bod yn &#8220;wirioneddol wych&#8221;. <\/p>\n<p>Mr Sargeant yw&#8217;r cyn-brentis cyntaf i ddod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai rhagor yn dilyn yn y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n llawn balchder ac optimistiaeth wrth weld eich bod wedi gallu canfod grym trawsnewidiol prentisiaethau a\u2019u r\u00f4l allweddol wrth lunio gweithlu medrus a hyblyg yn ein heconomi fyd-eang sy\u2019n esblygu\u2019n barhaus,\u201d meddai wrth y cynadleddwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Mae prentisiaethau&#8217;n pontio&#8217;r bwlch sgiliau, yn cynnig profiad ymarferol, ac yn meithrin y gallu i arloesi. Maen nhw&#8217;n ein helpu i gyraedd ein nodau economaidd ac yn cyfrannu at symudedd cymdeithasol. Mae mwy i&#8217;r rhaglenni hyn na dysgu crefft; maen nhw&#8217;n helpu i adeiladu dyfodol lle gall pob unigolyn ffynnu a chyfrannu at y gymdeithas.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni&#8217;n creu cyfleoedd i bobl o bob oed, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn breuddwydion newydd.  Gyda dros hanner ein prentisiaid dros 25 oed, rydyn ni&#8217;n helpu pobl i ailddyfeisio eu gyrfaoedd beth bynnag yw eu hoedran.\u201d<\/p>\n<p>Pwysleisiodd y byddai cyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn dal yn \u00a3144 miliwn ar gyfer 2025-26.  Yn ogystal, meddai, roedd y Llywodraeth yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Medr, y corff newydd sy&#8217;n cyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod llwybrau prentisiaeth yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.<\/p>\n<p>Agored Cymru oedd noddwr pennaf y gynhadledd a City &#038; Guilds oedd y noddwr cyswllt. Roedd yn canolbwyntio ar y rhan hanfodol y mae prentisiaethau\u2019n ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu o\u2019r radd flaenaf i sicrhau twf economaidd i Gymru yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru; Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol Polisi, Medr; Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru; Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, ac Angharad Lloyd Beynon, uwch-reolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau gyda City &#038; Guilds yn y cenhedloedd ac Iwerddon.<\/p>\n<p>Pwysleisiodd pawb ohonynt yr angen i gydweithio yn wyneb heriau\u2019r presennol a\u2019r dyfodol, yn cynnwys cofleidio technolegau AI er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr a\u2019r economi, sy&#8217;n newid yn barhaus.  <\/p>\n<p>Roeddent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd paru prentisiaethau ag anghenion cyflogwyr, yr economi a chymdeithas gan gynnig sgiliau trosglwyddadwy.  <\/p>\n<p>Dywedodd Mr Howells fod Agored Cymru yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, Medr a Cymwysterau Cymru i wella prentisiaethau er mwyn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a&#8217;r economi, ond pwysleisiodd fod cydlyniant yn hollbwysig. <\/p>\n<p>Mynnai na ddylai Cymru ddilyn Lloegr a chael gwared ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer prentisiaid sy\u2019n oedolion, gan rybuddio:  \u201cMae hyn yn beryglus os ydyn ni am lenwi\u2019r bylchau sgiliau yn y Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>\u201cDdylen ni ddim anghofio fod yr hyn a wnawn ni yng Nghymru yn fodel llwyddiannus a bod darparwyr o Loegr yn aml yn eithaf cenfigennus ohono.  Rhaid inni fod yn ddewr ac yn arloesol a gwthio\u2019r ffiniau i wneud gwahaniaeth heb amharu ar ansawdd.\u201d<\/p>\n<div id=\"attachment_18953\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2L2A6289-scaled-e1741697769534.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18953\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2L2A6289-scaled-e1741697769534.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-18953\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18953\" class=\"wp-caption-text\">Siaradwyr yng Nghynhadledd Flynyddol NTFW (o&#8217;r chwith) Angharad Beynon, City &#038; Guilds, Lisa Mytton, NTFW, Rhian Edwards, Medr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru a Darren Howells, Agored Cymru.<\/p><\/div>\n<p>Cyhoeddodd Rhian Edwards y byddai cynllun strategol sy\u2019n cyflwyno uchelgeisiau Medr yn cael ei gyhoeddi ar 12 Mawrth, wedi\u2019i ddilyn gan gynllun gweithredol ym mis Mai a gweledigaethau, nodau ac amcanion strategol Rhaglen Brentisiaethau newydd ar gyfer y cyfnod ar \u00f4l 2027 erbyn diwedd eleni.<\/p>\n<p>Ymhlith heriau Medr mae taclo cyfradd uchel anweithgarwch economaidd yng Nghymru a mynd i\u2019r afael \u00e2 bylchau sgiliau yn y gweithlu. \u201cMae gennym ni faterion cymhleth i&#8217;w hwynebu a fydd Medr ddim yn gallu cyflawni&#8217;r uchelgeisiau sydd gennym ar y cyd ar gyfer Cymru a\u2019i dysgwyr heb gydweithio \u00e2\u2019n rhanddeiliaid a\u2019n partneriaid ar draws y sector.<\/p>\n<p>\u201cTrwy gydweithio \u00e2 chi, rydyn ni\u2019n hyderus y gallwn ni sicrhau system addysg drydyddol ac ymchwil sy\u2019n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, y gymdeithas a\u2019r economi gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltiad yn ganolog iddi,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Tynnodd Lisa Mytton sylw at y ffaith fod cydweithio&#8217;n thema gref yn y gynhadledd.  \u201cMae yna lawer o newidiadau ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRhaid i ni adnewyddu ein hymrwymiad i ddatblygu prentisiaethau wrth i ni barhau \u00e2\u2019n perthynas o gydweithio \u00e2 Medr a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cymru\u2019n dal i gynnig cyfleoedd i bawb i gefnogi twf economaidd.\u201d<\/p>\n<p>Cyflwynwyd gweithdai gan Estyn, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, Cymwysterau Cymru, Panda Education and Training, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor y Gweithlu Addysg a Future Digital Education.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, wedi pwysleisio ymrwymiad &#8220;cadarn&#8221; Llywodraeth Cymru i brentisiaethau er mwyn diwallu anghenion economi sy&#8217;n esblygu&#8217;n barhaus. Wrth annerch cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn Stadiwm Dinas &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-conference-result\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-11361","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11361","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11361"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11361\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11371,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11361\/revisions\/11371"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11361"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11361"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11361"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}