{"id":11369,"date":"2025-03-18T07:00:40","date_gmt":"2025-03-18T07:00:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11369"},"modified":"2025-03-19T16:55:09","modified_gmt":"2025-03-19T16:55:09","slug":"fab-dinner-5-march-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fab-dinner-5-march-25\/","title":{"rendered":"Partneriaid yn cyfarfod er mwyn cydweithio i daclo prinder sgiliau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/fab-dinner-5-march-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fab-dinner-5-march-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_18960\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FAB-dinner-scaled-e1741711431807.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18960\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FAB-dinner-scaled-e1741711431807.jpg\" alt=\"Attendees at the FAB Dinner.\" width=\"460\" height=\"270\" class=\"size-full wp-image-18960\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18960\" class=\"wp-caption-text\">Gwesteion yng nghinio cyntaf Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu i&#8217;r diwydiant yng Nghaerdydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae aelodau allweddol o&#8217;r diwydiant cymwysterau ac asesu yng Nghymru wedi cyfarfod \u00e2 rheoleiddwyr a darparwyr hyfforddiant gyda&#8217;r bwriad o gydweithio&#8217;n agosach i daclo&#8217;r prinder sgiliau sy&#8217;n poeni bron hanner busnesau&#8217;r wlad. <\/p>\n<p>Trefnwyd cinio cyntaf y diwydiant yng Nghymru yng Nghaerdydd gan Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB). Cafodd ei gefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a&#8217;i noddi gan Agored Cymru, sy&#8217;n darparu mwy na 400 o gymwysterau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Bu Simon Pirotte, prif weithredwr Medr, corff cyllido a rheoleiddio&#8217;r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, yn s\u00f4n am bwysigrwydd addysg ar adegau o ansicrwydd.<\/p>\n<p>Pwysleisiodd fod Medr yn canolbwyntio ar helpu i ddarparu\u2019r sgiliau y mae ar fusnesau eu hangen a lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.<\/p>\n<p>Cyfeiriodd Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru, y corff rheoleiddio cymwysterau, at fanteision cydweithio a&#8217;r angen i weithio gydag ansicrwydd er mwyn i Gymru lwyddo.  <\/p>\n<p>Drannoeth, aeth llawer oedd yn bresennol yn y cyfarfod i gynhadledd flynyddol yr NTFW, Prentisiaethau: Hybu Twf Economaidd a Chynlluniau i Arloesi yn y Dyfodol, lle cafwyd cyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng busnesau, darparwyr hyfforddiant a chyrff sy\u2019n datblygu ac yn asesu cymwysterau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Roedd y cyfarfod yn gyfle i adnewyddu&#8217;r berthynas rhwng FAB a&#8217;r NTFW sy&#8217;n rhannu ymrwymiad i gryfhau\u2019r broses o gyflenwi sgiliau yng Nghymru.  <\/p>\n<p>Dywed FAB ei fod yn awyddus i sicrhau bod rhagor o\u2019i aelodau&#8217;n ymwybodol o\u2019r cyfleoedd yng Nghymru a\u2019r newidiadau cadarnhaol sydd ar y gweill, yn cynnwys mabwysiadu AI, dull cydlynol o ariannu addysg \u00f4l-16, a chydweithio ym maes rheoleiddio yng Nghymru. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae FAB yn ymgyrchu dros sicrhau bod gwahanol wledydd y DU yn fwy parod i gydnabod eu cymwysterau ei gilydd, rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o flaenoriaeth iddo erbyn hyn. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru:<\/strong><br \/>\n&#8220;Mae\u2019r diwydiant cymwysterau ac asesu yn hanfodol er mwyn goresgyn problem prinder sgiliau yng Nghymru a chefnogi pobl ifanc i gael gwaith.  <\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019r diwydiant wedi ymrwymo i chwarae ei ran a gwneud gwahaniaeth. Roedd y cyfarfod yn gyfle pwysig i godi proffil y diwydiant a chynyddu dealltwriaeth.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Rob Nitsch, prif weithredwr Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu:<\/strong><br \/>\n\u201cRoeddwn wrth fy modd \u00e2\u2019r ymateb i ginio cyntaf y diwydiant yng Nghymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a\u2019r parodrwydd cyffredinol i gydweithio i daclo\u2019r heriau mawr sy\u2019n wynebu busnesau Cymru o ran sgiliau. Mae\u2019n wych gweld y diwydiant yn arloesi ac yn cydweithio ac mae hynny\u2019n argoeli\u2019n dda ar gyfer dyfodol dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r cinio wedi gosod y llwyfan ar gyfer hyd yn oed ragor o gydweithio yn y dyfodol ac mae&#8217;n rhaid i mi ddiolch i&#8217;r NTFW ac Agored Cymru am eu cefnogaeth.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae aelodau allweddol o&#8217;r diwydiant cymwysterau ac asesu yng Nghymru wedi cyfarfod \u00e2 rheoleiddwyr a darparwyr hyfforddiant gyda&#8217;r bwriad o gydweithio&#8217;n agosach i daclo&#8217;r prinder sgiliau sy&#8217;n poeni bron hanner busnesau&#8217;r wlad. Trefnwyd cinio cyntaf y diwydiant &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fab-dinner-5-march-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11369","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11369","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11369"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11369\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11377,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11369\/revisions\/11377"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11369"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11369"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11369"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}