{"id":11378,"date":"2025-03-27T06:00:37","date_gmt":"2025-03-27T06:00:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11378"},"modified":"2025-03-25T13:25:46","modified_gmt":"2025-03-25T13:25:46","slug":"act-march-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-march-25\/","title":{"rendered":"Gweithiwr cyngor yn meithrin sgiliau gwyrdd trwy gymhwyster Rheoli Ynni a Charbon"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-march-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-march-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19045\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/enews-story-3-03-2025-no-border-e1742819042642.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19045\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/enews-story-3-03-2025-no-border-e1742819042642.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-19045\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19045\" class=\"wp-caption-text\">Aminah Ali, prentis Carbon ac Ynni gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.<\/p><\/div>\n<p>Mae Aminah Ali, sy&#8217;n brentis, yn profi manteision uwchsgilio ar \u00f4l cwblhau cymhwyster mewn Rheoli Ynni a Charbon yn ddiweddar gyda&#8217;r darparwr hyfforddiant ACT. <\/p>\n<p>Prentis Carbon ac Ynni gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw Aminah ac mae wedi bod yn rhoi&#8217;r hyn a ddysgodd ar waith yn ei swydd o ddydd i ddydd. <\/p>\n<p>Yn ei gwaith, mae Aminah yn rheoli data mesuryddion ynni ar dros 30 o safleoedd unigol; rhywbeth sy&#8217;n uniongyrchol berthnasol i&#8217;r cwrs, sy&#8217;n edrych ar reoli&#8217;r defnydd o ynni.  <\/p>\n<p> \u201cRoedd y cymhwyster yn help i mi ddysgu mwy am fesur faint o ynni a ddefnyddir ac rwy&#8217;n gallu cymhwyso&#8217;r wybodaeth yn fy ngwaith o ddydd i ddydd,\u201d esboniodd Aminah. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae gwaith Aminah ar brosiectau lleihau ynni, fel cynlluniau paneli solar a goleuo LED, wedi elwa&#8217;n fawr o&#8217;r elfen rheoli prosiectau oedd yn rhan o&#8217;r cymhwyster.  <\/p>\n<p>&#8220;Roedd y modiwl hwnnw&#8217;n help mawr wrth i mi ddysgu sut i strwythuro fy mhrosiectau a pha gamau i&#8217;w cymryd i sicrhau bod prosiectau&#8217;n cael eu cyflawni&#8217;n gywir,&#8221; meddai. &#8220;Rwy&#8217;n mwynhau rhedeg prosiectau yn fy ngwaith a hoffwn barhau i wneud hynny trwy gydol fy ngyrfa. Roedd dysgu sut i strwythuro a chynnal prosiectau&#8217;n llwyddiannus yn ddefnyddiol iawn.\u201d <\/p>\n<p>Roedd y modiwl Excel yn elfen werthfawr arall o&#8217;r brentisiaeth. \u201cRoedd y modiwl yn dda am gynnig triciau a syniadau rydw i&#8217;n gallu eu rhoi ar waith yn fy nhaenlenni, gan fy helpu i wneud fy nhasgau o ddydd i ddydd yn fwy effeithiol.\u201d <\/p>\n<p>Ond yr agwedd fwyaf eithriadol o&#8217;i phrofiad ar y brentisiaeth oedd yr uned Newid Ymddygiad. Cychwynnodd Aminah a&#8217;i th\u00eem yn y cyngor gynllun newid ymddygiad gyda&#8217;r nod o ddysgu staff am ymwybyddiaeth o ynni, yn y gwaith a gartref.  <\/p>\n<p> \u201cRoedd yr uned newid ymddygiad yn mynd law yn llaw \u00e2\u2019r hyn roedden ni&#8217;n ceisio\u2019i gyflawni,\u201d meddai. &#8220;Rwy\u2019n credu bod hwn yn faes y gall pawb ddysgu amdano a\u2019i weithredu nid yn unig yn y gwaith ond hefyd yn eu bywyd bob dydd. <\/p>\n<p> \u201cMae cael diwylliant o weithwyr sy&#8217;n ymwybodol o faterion ynni yn fuddiol iawn nid yn unig i\u2019r sefydliad ond hefyd i iechyd cyffredinol y blaned ac i helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd sero net.\u201d <\/p>\n<p>Yn ystod ei phrentisiaeth, cafodd Aminah gefnogaeth gan ACT, yn enwedig ei thiwtor, Michelle Marshall. Roedd Michelle ar gael i ateb cwestiynau neu bryderon ac roedden nhw&#8217;n cael sgwrs am y brentisiaeth bob mis.  <\/p>\n<p>Roedd gan gyflogwr Aminah ran hanfodol i&#8217;w chwarae yn ei llwyddiant hefyd, gyda chyfarfodydd bob pythefnos i drafod hynt y gwaith ac ymateb i unrhyw bryderon.  <\/p>\n<p>Erbyn hyn mae Aminah yn cychwyn ar swydd newydd gyffrous fel Swyddog Cydymffurfio Mecanyddol gyda&#8217;r cyngor. Mae\u2019n awyddus i gymhwyso\u2019r sgiliau a ddysgodd ar ei phrentisiaeth i\u2019w swydd newydd, gan sicrhau bod effeithlonrwydd ynni&#8217;n dal yn ganolog i&#8217;w chyfrifoldebau. Mae hefyd yn bwriadu datblygu ei haddysg trwy ddilyn cyrsiau gradd rhan-amser. <\/p>\n<p>Cyfle i ddysgu mwy am gymhwyster Rheoli Ynni a Charbon ACT &#8211; <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/course-categories\/green-skills\/\">https:\/\/acttraining.org.uk\/course-categories\/green-skills<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Aminah Ali, sy&#8217;n brentis, yn profi manteision uwchsgilio ar \u00f4l cwblhau cymhwyster mewn Rheoli Ynni a Charbon yn ddiweddar gyda&#8217;r darparwr hyfforddiant ACT. Prentis Carbon ac Ynni gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw Aminah ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-march-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11378","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11378","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11378"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11378\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11436,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11378\/revisions\/11436"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11378"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11378"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11378"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}