{"id":11381,"date":"2025-03-27T06:00:32","date_gmt":"2025-03-27T06:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11381"},"modified":"2025-03-25T13:26:42","modified_gmt":"2025-03-25T13:26:42","slug":"aspire2be-march-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire2be-march-25\/","title":{"rendered":"Rhaglen Aspire 2Be yn Helpu Dysgwraig i Gael Swydd Cynorthwyydd Addysgu"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aspire2be-march-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire2be-march-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19046\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/enews-story-12-03-2025-no-border-e1742819106632.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19046\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/enews-story-12-03-2025-no-border-e1742819106632.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-19046\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19046\" class=\"wp-caption-text\">Gemma Young, Cynorthwyydd Addysgu yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Swffryd.<\/p><\/div>\n<p>Mae dysgwraig ymroddedig sy&#8217;n dilyn cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu gan Aspire 2Be wedi canmol y rhaglen am ei helpu i symud i swydd amser llawn Cynorthwyydd Addysgu. <\/p>\n<p>Dechreuodd Gemma ddilyn y cwrs ar \u00f4l i gydweithiwr s\u00f4n wrthi am y cyfle a&#8217;i chyflwyno i d\u00eem Aspire 2Be. A hithau&#8217;n awyddus i symud ymlaen yn ei gyrfa newydd, ymunodd \u00e2&#8217;r rhaglen i&#8217;w helpu i bontio i swydd yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Swffryd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r cwrs wedi bod yn amhrisiadwy ar fy nhaith broffesiynol,\u201d meddai Gemma. \u201cYn ogystal \u00e2 dysgu llawer i mi, mae&#8217;n fy ngalluogi i gymhwyso sgiliau newydd i fy swydd o ddydd i dydd. Rwy&#8217;n dysgu strategaethau newydd ac yn eu rhoi ar waith trwy&#8217;r amser ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.\u201d<\/p>\n<p>Un elfen allweddol o&#8217;r rhaglen a fu&#8217;n arbennig o fuddiol i Gemma oedd yr uned ar hybu ymddygiad cadarnhaol mewn plant a phobl ifanc. A hithau&#8217;n gweithio\u2019n agos gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cafodd fewnwelediad newydd i broblemau ymddygiad a strategaethau effeithiol i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n<p> \u201cLlwyddodd yr uned hon i agor fy llygaid i ddeall pam y mae plant yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol a beth yw\u2019r ffordd orau i\u2019w cefnogi,\u201d esboniodd. \u201cMae\u2019r hyn a ddysgais wedi cael effaith uniongyrchol ar fy ngwaith yn yr ystafell ddosbarth, gan fy helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol a chynhwysol.\u201d<\/p>\n<p>Tra bu&#8217;n astudio, mae Gemma wedi cael cymorth cadarn yn ei gweithle. O fentora i adolygu cynnydd a chyflwyno tystiolaeth, mae ei chydweithwyr a\u2019r uwch-d\u00eem arwain wedi cydnabod gwerth y cymhwyster a\u2019i effaith ar ei datblygiad proffesiynol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae fy ngweithle wedi bod yn eithriadol o gefnogol,&#8221; meddai. &#8220;Mae anogaeth fy nh\u00eem wedi gwneud y byd o wahaniaeth. Maen nhw wedi bod gyda mi ar bob cam o fy nhaith ddysgu, ac mae\u2019n amlwg eu bod yn gweld manteision y cymhwyster.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gemma&#8217;n llawn canmoliaeth i&#8217;w hyfforddwr, Andy, sydd wedi rhoi arweiniad ar hyd y cwrs. <\/p>\n<p> \u201cMae Andy wedi bod yn anhygoel\u2014bob amser yno i fy nghefnogi ac egluro pethau mewn ffordd sy\u2019n gwneud synnwyr i mi. Mae ein sesiynau\u2019n ddifyr a dydyn nhw byth yn teimlo&#8217;n faich; maen nhw&#8217;n llawn gwybodaeth a rydw i&#8217;n eu mwynhau.\u201d<\/p>\n<p>Un o brif fanteision y rhaglen, yn \u00f4l Gemma, yw ei hyblygrwydd. Mae\u2019r gallu i wneud gwaith cwrs o amgylch ei hymrwymiadau eraill, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o\u2019i gwaith bob dydd, wedi bod yn allweddol i\u2019w llwyddiant.<\/p>\n<p> \u201cMae gallu cyflwyno enghreifftiau o fy swydd\u2014fel lluniau o&#8217;r ystafell ddosbarth\u2014wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae\u2019n gwneud y profiad o ddysgu&#8217;n llawer mwy perthnasol.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs eisoes wedi talu ar ei ganfed i Gemma, gan ei bod newydd gael swydd fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 mewn Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) newydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. <\/p>\n<p>&#8220;Allwn i ddim bod yn hapusach,\u201d meddai. \u201cDyma\u2019r llwybr gyrfa roeddwn i&#8217;n anelu ato, ac mae\u2019r cwrs wedi fy helpu i gyrraedd yno. Ym mis Medi, bydda i&#8217;n symud o bedair swydd ran-amser i un swydd amser llawn \u2013 mae&#8217;r profiad wedi newid fy mywyd.\u201d <\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu gan Aspire 2Be yn dal i rymuso gweithwyr proffesiynol fel Gemma, gan roi\u2019r sgiliau a\u2019r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a chael dylanwad hirdymor ym myd addysg. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/aspire2be.co.uk\/\">Aspire 2Be<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/cy\/\">Educ8<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dysgwraig ymroddedig sy&#8217;n dilyn cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu gan Aspire 2Be wedi canmol y rhaglen am ei helpu i symud i swydd amser llawn Cynorthwyydd Addysgu. Dechreuodd Gemma ddilyn y cwrs ar \u00f4l i gydweithiwr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire2be-march-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11381","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11381","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11381"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11381\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11433,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11381\/revisions\/11433"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11381"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11381"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11381"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}