{"id":11395,"date":"2025-03-27T06:00:18","date_gmt":"2025-03-27T06:00:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11395"},"modified":"2025-03-25T13:26:27","modified_gmt":"2025-03-25T13:26:27","slug":"iseiw-march-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-march-25\/","title":{"rendered":"Adeiladu Gweithlu Medrus: R\u00f4l Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn Hyfforddiant Galwedigaethol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/iseiw-march-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-march-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19048\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/ISEiW-ACT-winners-cropped-e1742819156540.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19048\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/ISEiW-ACT-winners-cropped-e1742819156540.jpg\" alt=\"ACT Award winners with their trophies.\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-19048\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19048\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr medal Efydd mewn Cyfrifeg: Zach Mitchell, Lauren Gunning, Maddy Groves o ACT Training Ltd.<\/p><\/div>\n<p>Diben Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yw helpu dysgwyr ledled Cymru i ddatblygu sgiliau o safon uchel trwy addysg alwedigaethol a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae&#8217;r cystadlaethau hyn yn rhoi llwyfan i ddysgwyr ddangos eu galluoedd, cael profiad ymarferol, a meithrin digon o hyder i ffynnu yn eu gyrfaoedd. Trwy gystadlu ar y lefel hon, gall unigolion fireinio&#8217;u sgiliau technegol, eu gallu i ddatrys problemau, a&#8217;u gwytnwch; sef nodweddion allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y gweithlu heddiw. <\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019n gwaith gyda cholegau addysg bellach, rydym yn cydweithio \u00e2 nifer o Ddarparwyr Hyfforddiant Annibynnol (ITPs) <strong>fel ACT, ITEC Training Solutions, a Bumblebees \u2013 Little Inspirations (sy&#8217;n gysylltiedig ag Educ8) eleni.<\/strong> Mae&#8217;r darparwyr hyn yn cyflenwi hyfforddiant o ansawdd da mewn gwahanol ddiwydiannau, gan sicrhau bod dysgwyr yn meithrin y sgiliau ymarferol a&#8217;r hyder y mae arnynt eu hangen i ragori yn y gweithle. <\/p>\n<p>Yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025, bu rhai sy&#8217;n dysgu gyda Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol yn dangos eu harbenigedd, gan ennill medalau a chanmoliaeth mewn sawl categori. Mae eu llwyddiant yn arwydd o gryfder dysgu seiliedig ar waith ac ymroddiad yr ITPs i ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus sy&#8217;n barod i ddiwallu anghenion cyflogwyr.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 llwyddiant unigolion, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau diwydiannau a chefnogi economi Cymru. Trwy annog dysgwyr i fireinio&#8217;u sgiliau o dan bwysau, mae&#8217;r cystadlaethau&#8217;n helpu i greu gweithlu sy&#8217;n effeithiol iawn, yn hyblyg ac yn barod i fodloni gofynion cyflogwyr. Mae busnesau&#8217;n elwa o gyflogi pobl sydd eisoes wedi dangos y gallant weithio ar lefel uchel, gan ddod \u00e2 syniadau ffres, sgiliau datrys problemau, ac arbenigedd sy&#8217;n benodol i&#8217;w diwydiant. Felly, mae cystadlaethau sgiliau yn cyfrannu nid yn unig at dwf gyrfaoedd personol ond hefyd at gynhyrchiant ac arloesedd cyffredinol diwydiannau ledled Cymru.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio&#8217;n agos \u00e2 diwydiant a sicrhau bod dysgwyr yn cael hyfforddiant ymarferol o ansawdd da, mae ITPs yn gwneud cyfraniad sylweddol at weithlu ac economi Cymru. A ninnau&#8217;n parhau i gefnogi rhagoriaeth alwedigaethol, mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn dal wedi ymrwymo i ddathlu cyflawniadau dysgwyr a rhoi sylw i gystadlaethau sgiliau ledled y wlad.<\/p>\n<p>Llongyfarchiadau i enillwyr y medalau eleni. Enillodd <strong>ACT Training Ltd<\/strong> fedal Efydd mewn Cyfrifeg. Yn ogystal, cafodd y darparwyr a ganlyn ganmoliaeth uchel: <strong>Bumblebees \u2013 Little Inspirations<\/strong> ym maes Gofal Plant, <strong>ITEC Training Solutions<\/strong> mewn Sgiliau Cynhwysol mewn Gofal Plant, a Sgiliau Cynhwysol: IT Software Solutions ym maes Busnes. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/results\/skills-competition-wales-202425\">Canlyniadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024\/25<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Diben Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yw helpu dysgwyr ledled Cymru i ddatblygu sgiliau o safon uchel trwy addysg alwedigaethol a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae&#8217;r cystadlaethau hyn yn rhoi llwyfan i ddysgwyr ddangos eu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iseiw-march-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11395","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11395","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11395"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11395\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11434,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11395\/revisions\/11434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11395"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11395"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11395"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}