{"id":11399,"date":"2025-03-27T06:01:24","date_gmt":"2025-03-27T06:01:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11399"},"modified":"2025-03-25T13:26:00","modified_gmt":"2025-03-25T13:26:00","slug":"ntfw-march-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-march-25\/","title":{"rendered":"Chwarter prysur o ddigwyddiadau, cyfarfodydd a lob\u00efo i&#8217;r NTFW!"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-march-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-march-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19055\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19055\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, NTFW Strategic Director portrait shot.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19055\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19055\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW.<\/p><\/div>\n<p>Cynhadledd flynyddol lwyddiannus, dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, cyfres o gyfarfodydd pwysig a lob\u00efo parhaus ar ran aelodau \u2013 bu&#8217;n chwarter (neu&#8217;n dri mis) prysur i&#8217;r NTFW.<\/p>\n<p>Nawr, a hithau&#8217;n wanwyn, mae\u2019r sylw&#8217;n troi at ein strategaeth ar gyfer etholiadau\u2019r Senedd yn 2026 a Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau. <\/p>\n<p><strong>Cyfarfod Deiliaid Contractau Prentisiaethau (ACH)<\/strong><br \/>\nAr ddechrau&#8217;r chwarter, cynhaliwyd cyfarfod i Ddeiliaid Contractau Prentisiaethau (ACH) ar gyfer y 10 deiliad contract a gomisiynwyd. Mae trafodaethau ar gylchred y Fframwaith ac adolygiadau ohono, contractio a\u2019r gyllideb ddrafft yn hanfodol er mwyn sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn dal yn effeithiol ac yn cael digon o arian. <\/p>\n<p><strong>Cydweithredu a Chefnogi&#8217;r Sectorau<\/strong><br \/>\nRydym wedi bod yn cydweithio \u00e2 phobl yn Medr a\u2019r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith ar sawl cynllun allweddol, yn cynnwys cymorth ADY, cymelldaliadau i gyflogi pobl anabl, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Buom yn trafod heriau\u2019r diwydiant adeiladu hefyd, yn enwedig yr angen am lwybr Prentisiaethau Lefel 2. <\/p>\n<p>Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth o&#8217;r problemau sy&#8217;n wynebu dysgwyr a chyflogwyr mewn perthynas \u00e2 chyflenwi Fframweithiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 a 5. Bydd y cynnydd yn cael ei rannu \u00e2&#8217;r rhwydwaith er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth ac atebion. <\/p>\n<p><strong>Lob\u00efo ac Ymgysylltu \u00e2 Llywodraeth Cymru<\/strong><br \/>\nDros y misoedd diwethaf, treuliwyd cryn dipyn o amser yn mynychu cyfarfodydd Llywodraeth Cymru ac yn lob\u00efo. Buom yn lob\u00efo ynghylch canlyniadau anfwriadol peidio \u00e2 chynyddu\u2019r gyllideb brentisiaethau a byddwn yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr angen am ragor o fuddsoddi. <\/p>\n<p>Cafodd yr NTFW ei gynrychioli hefyd mewn dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru. Y cyntaf oedd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lwybrau at Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-16, lle buom yn trafod rhwystrau a heriau wrth bontio o\u2019r ysgol i brentisiaethau, gan gynnwys materion yn ymwneud \u00e2 chostau byw a trafnidiaeth. <\/p>\n<p>Yr ail oedd ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Lwybrau Prentisiaethau. Fe wnaethom ni dynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru gael strategaeth sgiliau ac at bwysigrwydd cynnwys cyflogwyr a chynghori pobl ifanc i ddewis y llwybr prentisiaeth cywir iddyn nhw pan fyddant yn gadael yr ysgol. <\/p>\n<p><strong>Ffair Brentisiaethau<\/strong><br \/>\nYm mis Chwefror, daeth nifer dda o bobl i Ffair Brentisiaethau ar y cyd \u00e2 ColegauCymru yn y Senedd. Yno, buom yn dangos i Weinidogion ac Aelodau\u2019r Senedd beth sydd gan brentisiaethau i\u2019w gynnig. <\/p>\n<p><strong>Cystadlaethau Sgiliau<\/strong><br \/>\nA ninnau&#8217;n aelod o Gr\u0175p Llywio WorldSkills, rydym yn cydweithio \u00e2 rhanddeiliaid eraill i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU a&#8217;u cefnogi. Fe&#8217;u cynhelir yng Nghymru yn yr hydref.<\/p>\n<p><strong>Dathlu Llwyddiant: Digwyddiadau Allweddol<\/strong><br \/>\nDaeth y chwarter i ben ar nodyn uchel yng Nghaerdydd gyda chinio cyntaf Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) a Chynhadledd Flynyddol lwyddiannus NTFW yn Stadiwm Dinas Caerdydd. <\/p>\n<p>Yn y gynhadledd roedd siaradwyr o Cymwysterau Cymru, Medr, Agored Cymru, a City &#038; Guilds. Un o&#8217;r uchafbwyntiau oedd y gweithdai, a arweiniwyd gan randdeiliaid allweddol yn y diwydiant a phedwar prentis a fu&#8217;n rhannu eu profiadau&#8217;n huawdl. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, oedd yn cloi&#8217;r digwyddiad.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cynhadledd flynyddol lwyddiannus, dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, cyfres o gyfarfodydd pwysig a lob\u00efo parhaus ar ran aelodau \u2013 bu&#8217;n chwarter (neu&#8217;n dri mis) prysur i&#8217;r NTFW. Nawr, a hithau&#8217;n wanwyn, mae\u2019r sylw&#8217;n troi at ein strategaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-march-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11399","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11399","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11399"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11399\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11438,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11399\/revisions\/11438"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11399"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11399"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11399"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}