{"id":11549,"date":"2025-06-19T05:49:17","date_gmt":"2025-06-19T04:49:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11549"},"modified":"2025-06-18T14:13:47","modified_gmt":"2025-06-18T13:13:47","slug":"rlspsww-june-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-25\/","title":{"rendered":"Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn dyfarnu cyllid i Fenter Addysgol Arloesol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rlspsww-june-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/RLSPSWW-June-25-extended-scaled-e1750072518665.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/RLSPSWW-June-25-extended-scaled-e1750072518665.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"320\" class=\"alignleft size-full wp-image-19320\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn 2020, arweiniwyd y prosiect peilot cyntaf i gael ei ariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, mewn cydweithrediad \u00e2 Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Nod y prosiect oedd mynd i&#8217;r afael \u00e2 bwlch sgiliau yn y rhanbarth trwy gynnig cyfle i ddisgyblion ennill cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. Hon oedd y rhaglen gyntaf o&#8217;i math. Ers iddi gael ei chymeradwyo, mae&#8217;r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth gofrestru cannoedd o ddisgyblion i ddilyn y cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 ac mae llawer wedi gadael yr ysgol \u00e2&#8217;r cymhwyster a symud ymlaen i goleg, prifysgol neu brentisiaeth.<\/p>\n<p>Cynlluniwyd y rhaglen i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i&#8217;r disgyblion o&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael yn y sectorau peirianneg a TG. Trwy gydweithio&#8217;n agos \u00e2&#8217;r Brifysgol, dysgodd y disgyblion sgiliau ymarferol gan ddefnyddio&#8217;r offer diweddaraf ac maent wedi cael budd o waith ymchwil a wnaed gan y Brifysgol.  Mae&#8217;r profiad ymarferol hwn yn yr ysgolion yn golygu eu bod yn symud yn ddiffwdan i addysg uwch.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen Sgiliau a Thalentau, a reolir gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, yn cefnogi prosiectau peilot sy&#8217;n hybu datblygiad sgiliau ac yn ymateb i anghenion economaidd lleol. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy&#8217;n cofrestru ar gyfer y cymwysterau hyn yn y ddwy ysgol. Mae tua 40% o&#8217;r disgyblion sy&#8217;n cwblhau cyrsiau Lefel 2 yn symud ymlaen i Lefel 3, gan ddilyn llwybr addysgol clir a pharhau i ddangos diddordeb yn y meysydd hyn. Ers dechrau&#8217;r prosiect peilot, mae 843 o ddisgyblion wedi cofrestru ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol, gan ddangos llwyddiant y cyrsiau a&#8217;r galw mawr sydd amdanynt.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin: <\/strong>&#8220;Mae&#8217;r Rhaglen Sgiliau a Thalentau wedi sbarduno newid sylweddol, ac mae ein menter addysgol arloesol wedi&#8217;n galluogi i gyrraedd uchelfannau newydd yn ein hysgolion. Yn ogystal \u00e2 galluogi&#8217;r dysgwyr i elwa ar fwy o adnoddau dysgu, mae&#8217;r cyllid hwn wedi eu grymuso \u00e2 sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan feithrin twf a chyfleoedd hirdymor yn y rhanbarth.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r prosiect hwn wedi ychwanegu at gyfleoedd llawer iawn o bobl ifanc gan eu galluogi i ddysgu sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer swyddi yn y dyfodol, yn y rhanbarth a&#8217;r tu hwnt. Rydym yn llongyfarch yr ysgolion ar eu gwaith gwych yn enwedig wrth gyflwyno&#8217;r sgiliau y mae angen mawr amdanynt yn y rhanbarth. Gobeithio y caiff hyd yn oed ragor o fyfyrwyr eu hysbrydoli i ddilyn llwybrau Digidol a Pheirianneg.\u201c Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn un o naw prosiect sydd gan y Fargen Ddinesig. Rheolir y rhaglen gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Mae&#8217;r rhaglen \u00a330 miliwn yn helpu i ddarparu&#8217;r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol mewn 5 sector, sef adeiladu, ynni, digidol, gweithgynhyrchu ac iechyd. Mae&#8217;r rhaglen yn cefnogi prosiectau peilot i ddysgu sgiliau neu uwchsgilio mewn meysydd allweddol lle mae prinder neu nad yw&#8217;r cymwysterau gennym. Hyd yma mae&#8217;r rhaglen wedi cefnogi 23 o brosiectau peilot ac wedi datblygu pedair rhaglen brentisiaethau newydd ac mae rhagor i ddod. Nod y rhaglen erbyn 2030 yw sicrhau 14,000 o unigolion \u00e2 sgiliau uwch a chymhwyster Lefel 2 neu uwch; 3,000 o brentisiaethau; 2,200 o unigolion \u00e2 mwy o sgiliau; creu 20 cwrs newydd a dwy Ganolfan Ragoriaeth.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.rlp.org.uk\/cym\/home\">Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol \u2013 De-orllewin Cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn 2020, arweiniwyd y prosiect peilot cyntaf i gael ei ariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlspsww-june-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11549","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11549","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11549"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11549\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11625,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11549\/revisions\/11625"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11549"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11549"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11549"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}