{"id":11603,"date":"2025-06-24T11:30:35","date_gmt":"2025-06-24T10:30:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11603"},"modified":"2025-06-18T10:59:21","modified_gmt":"2025-06-18T09:59:21","slug":"manifesto-launch-june-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/manifesto-launch-june-25\/","title":{"rendered":"Herio ymgeiswyr yn Etholiad y Senedd i ddyblu&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/manifesto-launch-june-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/manifesto-launch-june-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Email-Banner-3600x1800px-CY-v2-e1750081704970.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Email-Banner-3600x1800px-CY-v2-e1750081704970.jpg\" alt=\"Banner image\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-11605\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae sefydliad sy&#8217;n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol a&#8217;r holl ymgeiswyr yn Etholiad y Senedd 2026 i ymrwymo i ddyblu&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau er mwyn cefnogi 200,000 o brentisiaid dros dymor y Senedd nesaf. <\/p>\n<p>Heddiw (Mehefin 24), lansiodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) y &#8216; Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau: Adeiladu Economi Sgiliau\u2019n Gyntaf i Gymru&#8217; sydd \u00e2&#8217;r nod o &#8220;adeiladu Cymru sy&#8217;n ffynnu ar sgiliau, cyfleoedd ac uchelgais i bawb.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (CEBR), gallai dyblu&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau dros dymor y Senedd nesaf ychwanegu \u00a33.4 biliwn at enillion gydol oes pobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf.<\/p>\n<p><strong>&#8220;Mae prentisiaethau&#8217;n fwy na llwybr at gyflogaeth; maent yn asgwrn cefn economi lewyrchus yng Nghymru, yn arfogi pobl o bob cefndir \u00e2 sgiliau ymarferol sy&#8217;n diwallu anghenion ein diwydiannau,&#8221; dywed Maniffesto&#8217;r NTFW.<\/strong><\/p>\n<p><strong>&#8220;Mae buddsoddi mewn prentisiaethau&#8217;n fuddsoddiad mewn pobl ac yn nyfodol Cymru. Gyda chyllid teg, mynediad cynhwysol a phartneriaethau cryf, gall prentisiaethau helpu i bweru cenedl fwy cyfartal, medrus a chydnerth.<\/strong><\/p>\n<p><strong>&#8220;Mae&#8217;r NTFW yn annog pob plaid wleidyddol a&#8217;r holl ymgeiswyr yn Etholiad y Senedd i ymrwymo i&#8217;r weledigaeth hon. Gadwch i ni adeiladu Cymru sy&#8217;n ffynnu ar sgiliau, cyfleoedd ac uchelgais i bawb.\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Mae &#8216;cydweithio&#8217; yn air allweddol trwy&#8217;r Maniffesto cyfan ac mae&#8217;r NTFW yn awyddus i weithio mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, Medr, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr, dysgwyr, Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB), Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) a&#8217;r Coleg Cymraeg Cenedlaethol..<\/p>\n<p>&#8220;Trwy gydweithio&#8217;n agos \u00e2 Medr, gallwn sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau&#8217;n ymatebol, yn flaengar ac yn diwallu anghenion sy&#8217;n datblygu yn y diwydiant,&#8221; dywed y Maniffesto.<\/p>\n<p>&#8220;Trwy gydweithredu, gallwn lunio rhaglenni prentisiaethau sy\u2019n mynd i\u2019r afael yn uniongyrchol \u00e2 bylchau sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn cefnogi amrywio economaidd.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r NTFW yn ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i ennill cymwysterau a gyflenwir trwy gyfrwng y Gymraeg neu&#8217;n ddwyieithog ac mae&#8217;n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu gwasanaethau cymorth i brentisiaid ym maes iechyd meddwl a llesiant.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Maniffesto&#8217;n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i adfer yr arian a dorrwyd o&#8217;r gylldeb brentisiaethau y llynedd ac i gyflwyno model cyllido hirdymor, cynaliadwy sy&#8217;n gwneud prentisiaethau&#8217;n gyfartal \u00e2 mathau eraill o addysg \u00f4l-16.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n dweud bod rhaid i brentisiaethau fod yn greiddiol i bolisi\u2019r llywodraeth ac mae&#8217;n galw am strategaeth sgiliau galwedigaethol, wedi&#8217;i datblygu mewn partneriaeth \u00e2 darparwyr, er mwyn penderfynu beth y mae angen ei wneud er mwyn manteisio i&#8217;r eithaf ar gyfleoedd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Innovate-Trust-pic-e1750237757347.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Innovate-Trust-pic-e1750237757347.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"386\" class=\"alignleft size-full wp-image-19373\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;r Maniffesto&#8217;n galw am:<\/p>\n<ul>\n<li>system sgiliau sy\u2019n adlewyrchu dyheadau economi Cymru.\n<li>cyfle i bobl o bob oed a chefndir i ailhyfforddi neu uwchsgilio trwy brentisiaethau, gan hybu symudedd cymdeithasol a thwf cynhwysol.<\/li>\n<li> mwy o gyllid ar gyfer prentisiaethau mewn sectorau sy&#8217;n tyfu, fel ynni gwyrdd, arloesi digidol a gofal iechyd, er mwyn diogelu gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.<\/li>\n<li>cyfleoedd i ddilyn prentisiaethau ym mhob rhan o Gymru, er mwyn cefnogi econom\u00efau lleol, lleihau anghydraddoldebau a grymuso cymunedau.<\/li>\n<\/ul>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW:<\/strong> \u201cRydym wedi lansio\u2019r maniffesto hwn sy&#8217;n nodi\u2019r hyn rydym yn disgwyl i Lywodraeth newydd Cymru ei flaenoriaethu yn eu polis\u00efau a\u2019u strategaeth sgiliau er mwyn hybu economi Cymru.<\/em> <\/p>\n<p><em class=\"quote\">&#8220;Ein mandad i\u2019r llywodraeth nesaf yw sicrhau bod mwy o fuddsoddiad ar gael ar gyfer prentisiaethau. Rydym yn ceisio\u2019r ymrwymiad hwnnw gan bob un o&#8217;r ymgeiswyr yn etholiad nesaf y Senedd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Ac meddai John Nash, cadeirydd yr NTFW:<\/strong> &#8220;Mae hwn yn ddigwyddiad arwyddocaol.  Rydym wedi creu Maniffesto uchelgeisiol ar gyfer Prentisiaethau a dylai fod yn hanfodol i bob un o&#8217;r ymgeiswyr yn Etholiad y Senedd ei ddarllen.<\/em><\/p>\n<p><em class=\"quote\">&#8220;Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol ymrwymo i roi prentisiaethau wrth galon polis\u00efau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol er mwyn adeiladu economi lewyrchus a chydnerth ac iddi weithlu eithriadol o fedrus.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Y siaradwyr yn y cyfarfod lansio a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd, oedd cadeirydd yr NTFW John Nash, y cyfarwyddwr strategol Lisa Mytton, Pennaeth Cymru FSB Ben Cottam, Ioan Matthews Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac un o gyfarwyddwyr Cavendish Cymru Nerys Evans.<\/p>\n<p>&nbsp;<br \/>\n<a style=\"font-size: 20px; font-weight: bold; border: none; padding: 3px 6px; color: #fff; background: #d2232a; border-radius: 3px;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/NTFW-Manifesto-4pg-A5-CY.pdf\">Maniffesto NTFW &#8211; Lawrlwythwch yma.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae sefydliad sy&#8217;n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol a&#8217;r holl ymgeiswyr yn Etholiad y Senedd 2026 i ymrwymo i ddyblu&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau er mwyn cefnogi 200,000 o brentisiaid dros dymor &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/manifesto-launch-june-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11603","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11603","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11603"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11603\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11622,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11603\/revisions\/11622"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11603"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11603"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11603"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}