{"id":11617,"date":"2025-06-17T23:00:15","date_gmt":"2025-06-17T22:00:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11617"},"modified":"2025-06-17T23:00:15","modified_gmt":"2025-06-17T22:00:15","slug":"uk-spend-jun-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/uk-spend-jun-25\/","title":{"rendered":"Herio Llywodraeth Cymru i fuddsoddi fel Lloegr mewn prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/uk-spend-jun-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/uk-spend-jun-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_15455\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15455\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\" alt=\"head shot of Lisa Mytton\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15455\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15455\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol NTFW<\/p><\/div>\n<p>Mae corff sy&#8217;n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn herio Llywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a blaenoriaethu buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU y rhoddir \u00a31.2 biliwn y flwyddyn i gefnogi hyfforddiant a phrentisiaethau mwy na miliwn o bobl ifanc yn Lloegr.<\/p>\n<p>Bwriad Llywodraeth y DU yw dyrannu \u00a323 biliwn i Gymru, a hoffai Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) weld Llywodraeth Cymru&#8217;n buddsoddi mwy o arian er mwyn ehangu cyfleoedd am brentisiaethau mewn ffordd sy&#8217;n cyfateb i ymrwymiad Lloegr i ddatblygu&#8217;r gweithlu.<\/p>\n<p>Mewn datganiad ystadegol yn ddiweddar gan Medr, sy&#8217;n rheoleiddio ac yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, datgelwyd bod 1,880 yn llai o ddysgwyr wedi dechrau prentisiaethau yng Nghymru rhwng mis Awst diwethaf a mis Ionawr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTFW wedi mynegi pryder wrth Lywodraeth Cymru yn gyson y gallai peidio \u00e2 gwneud iawn am yr arian Ewropeaidd a gollwyd ar gyfer prentisiaethau, yn dilyn Brexit, amharu&#8217;n sylweddol ar ddysgwyr a busnesau ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gostyngiad o 15% yn nifer y prentisiaid newydd wedi taro rhai sectorau&#8217;n galed iawn. Yn eu plith mae&#8217;r sector adeiladu, sy&#8217;n allweddol i brosiectau seilwaith y dyfodol, ac a welodd ostyngiad o 26%.  Bu gostyngiad o 10.5% yn nifer y rhai a ddechreuodd brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy&#8217;n hanfodol er mwyn sicrhau bod y system iechyd gyfan yn gweithredu&#8217;n effeithiol.<\/p>\n<p>Er gwaetha&#8217;r toriadau ariannol, mae rhaglen brentisiaethau Cymru yn un o&#8217;r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU, gyda chyfradd gwblhau gyfartalog o 74%, sy&#8217;n well na Lloegr (61%) a Gogledd Iwerddon (62%). <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan hanfodol mewn tri maes allweddol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ffyniant Economaidd<\/strong> \u2013 Yn \u00f4l y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (CEBR), gallai dyblu&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau dros dymor y Senedd nesaf ychwanegu \u00a33.4 biliwn at enillion gydol-oes pobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf.<\/li>\n<li><strong>Cynhwysiant Cymdeithasol <\/strong>\u2013 Mae&#8217;r rhaglen brentisiaethau yn arbennig o fuddiol i unigolion o gefndiroedd difreintiedig, gan gynnig llwybrau i swyddi ystyrlon.<\/li>\n<li><strong>Gofal Iechyd<\/strong> \u2013 Mae prentisiaethau\u2019n hanfodol er mwyn i&#8217;r GIG yng Nghymru weithredu&#8217;n effeithlon, gan sicrhau cyflenwad da o weithwyr proffesiynol medrus.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Daw galwad yr NTFW ar \u00f4l cyfarfod cynhyrchiol ddydd Iau diwethaf rhwng aelodau&#8217;r bwrdd a&#8217;r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Jack Sargent.  <\/p>\n<p>Dywedodd yr NTFW fod y gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i&#8217;w pryderon ac wedi cydnabod manteision economaidd ehangach rhaglenni prentisiaethau.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>O ystyried buddsoddiad enfawr Lloegr mewn prentisiaethau a hyfforddiant, dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW:<\/strong>  \u201cGallai Llywodraeth Cymru wireddu blaenoriaethau hanfodol o ran yr economi, iechyd ac addysg trwy fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau a gwneud iawn am yr arian Ewropeaidd a gollwyd.<\/em><\/p>\n<p><em class=\"quote\">\u201cWrth fuddsoddi mwy, gellir creu llwybrau i bobl o bob cefndir, boed ar ddechrau eu gyrfaoedd neu\u2019n ailhyfforddi ar gyfer cyfleoedd newydd, i ffynnu mewn diwydiannau sy\u2019n hanfodol i ffyniant hirdymor Cymru.<\/em><\/p>\n<p><em class=\"quote\">\u201cAr hyn o bryd, nid yw cyflogwyr mawr sy\u2019n gweithio ar y naill ochr a&#8217;r llall i\u2019r ffin yn deall pam fod cyllid a chyfleoedd i brentisiaid wedi cael eu torri yng Nghymru, a\u2019r rhaglen yn dal i dyfu\u2019n gyflym yn Lloegr.<\/em> <\/p>\n<p><em class=\"quote\">\u201cGyda chefnogaeth gref y Llywodraeth, gallai prentisiaethau ddal ati i roi hwb ymlaen i Gymru, gan greu swyddi newydd, cryfhau diwydiannau a sicrhau dyfodol llewyrchus i\u2019r genhedlaeth nesaf.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae corff sy&#8217;n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn herio Llywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a blaenoriaethu buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau. Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/uk-spend-jun-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11617","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11617","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11617"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11617\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11619,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11617\/revisions\/11619"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11617"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11617"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11617"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}