{"id":11639,"date":"2025-07-10T07:00:54","date_gmt":"2025-07-10T06:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11639"},"modified":"2025-07-01T12:35:03","modified_gmt":"2025-07-01T11:35:03","slug":"act-lois-jgw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-lois-jgw\/","title":{"rendered":"Lleoliad dysgwr yn arwain at yrfa ystyrlon"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-lois-jgw\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-lois-jgw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19413\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Lois-Denatale-crop-scaled-e1751369344369.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19413\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Lois-Denatale-crop-scaled-e1751369344369.jpg\" alt=\"Lois standing outside the offices with company director, Gary Bagstaff.\" width=\"460\" height=\"321\" class=\"size-full wp-image-19413\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19413\" class=\"wp-caption-text\">Lois gyda cyfarwyddwr, Gary Bagstaff.<\/p><\/div>\n<p>Yn \u00f4l yn 2021, dechreuodd y dysgwr Lois Denatale leoliad gyda busnes Sauce (Print Sauce gynt) o Gaerffili. Roedd Lois yn ei harddegau ac yn awyddus i gael profiad yn y gweithle wrth weithio tuag at ei phrentisiaeth Gweinyddu Busnes. Pedair blynedd yn ddiweddarach ac mae Lois yn dal i fynd o nerth i nerth yn y cwmni arwyddion o Dde Cymru &#8211; bellach yn aelod medrus a phrofiadol o&#8217;r t\u00eem.<\/p>\n<p>Darganfu Lois y cyfle trwy ei haseswr ACT, Michelle Marshall.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i ar leoliad pan wnes i ddarganfod y gallai fod cyfle prentisiaeth gyda Sauce,&#8221; esboniodd Lois. &#8220;Roedd y r\u00f4l yn apelio ataf oherwydd ei fod yn amrywiol iawn a doedd dim dau ddiwrnod yr un peth. Gwnaeth y brentisiaeth adael i mi ddechrau heb brofiad ac i ddysgu yn y gwaith.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Sauce yn adnabyddus am gynhyrchu arwyddion pwrpasol a graffeg cerbydau ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid enwog gan gynnwys Warner Bros, Prifysgol Caerdydd, Met Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Chyngor Sir Fynwy.<\/p>\n<p>Er bod peth ansicrwydd cychwynnol yngl\u0177n \u00e2 chynnig lleoliadau i weithwyr ifanc, roedd wastad yn rhywbeth yr oedd Gary Bagstaff, cyfarwyddwr y cwmni, yn awyddus i roi cynnig arni.<\/p>\n<p>&#8220;Cefais fy magu yng Nghaerffili ac felly mae cefnogi&#8217;r gymuned leol wedi bod yn bwysig i mi erioed,&#8221; meddai Gary. &#8220;Mae gallu rhoi cyfle i berson ifanc o&#8217;r dref yn gwneud i fi deimlo&#8217;n falch &#8211; mae hefyd yn dda i&#8217;r busnes.<\/p>\n<p>&#8220;Cyn i ni gysylltu ag ACT, roeddwn ychydig yn betrusgar am yr hyn oedd yn gysylltiedig \u00e2 chymryd prentis neu ddysgwr ifanc ymlaen. Doedd e ddim yn rhywbeth roeddwn i&#8217;n gwybod unrhyw beth amdano ond unwaith i fi siarad ag ACT roedd yn syml iawn. Fe ddaethon nhw allan i&#8217;n gweld ni ac roedd y broses yn llyfn o&#8217;r diwrnod cyntaf. Byddwn i&#8217;n ei argymell i unrhyw fusnes.&#8221;<\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd, mae Lois wedi cymryd cyfrifoldeb cynyddol o fewn y t\u00eem ac, er ei bod bellach wedi cwblhau ei hastudiaethau, mae&#8217;n parhau i ddod o hyd i fwynhad a sgiliau newydd yn y gwaith.<\/p>\n<p>&#8220;Mae fy lleoliad cychwynnol bellach wedi esblygu&#8217;n swydd llawn amser. Mae&#8217;n wych gweithio yma, mae&#8217;n waith hwyliog iawn.  &#8220;Mae&#8217;r lleoliad wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a gwneud i fi deimlo&#8217;n fwy hyderus wrth siarad \u00e2 chwsmeriaid,&#8221; ychwanegodd. <\/p>\n<p>&#8220;Fe wnaeth pawb fy helpu i deimlo&#8217;n werthfawr ac yn rhan o&#8217;r t\u00eem.&#8221;<\/p>\n<p>Mae ACT yn annog mwy o gyflogwyr i gefnogi dysgwyr Twf Swyddi Cymru+ rhwng 16 a 19 oed drwy leoliadau gwaith yn y byd go iawn.<\/p>\n<p>Trwy weithio gydag ACT, gall busnesau chwarae r\u00f4l hanfodol wrth ddatblygu talent ifanc, llunio gweithwyr proffesiynol y dyfodol, a dod \u00e2 syniadau newydd i&#8217;w timau. Yn eu tro, mae dysgwyr yn ennill hyder, gwytnwch a sgiliau amhrisiadwy na ellir eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a chefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf, ewch i <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/employer-information-jobs-growth-wales\/\">acttraining.org.uk\/employer-information-jobs-growth-wales<\/a> <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn \u00f4l yn 2021, dechreuodd y dysgwr Lois Denatale leoliad gyda busnes Sauce (Print Sauce gynt) o Gaerffili. Roedd Lois yn ei harddegau ac yn awyddus i gael profiad yn y gweithle wrth weithio tuag at ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-lois-jgw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11639","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11639","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11639"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11639\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11640,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11639\/revisions\/11640"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11639"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11639"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11639"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}