{"id":11642,"date":"2025-07-10T09:36:04","date_gmt":"2025-07-10T08:36:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11642"},"modified":"2025-07-10T09:48:42","modified_gmt":"2025-07-10T08:48:42","slug":"wsuk-finalists-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wsuk-finalists-25\/","title":{"rendered":"Rhagoriaeth Sgiliau\u2019r DU yn Dod i Gymru am y Tro Cyntaf"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wsuk-finalists-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wsuk-finalists-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WSUK-competitor-scaled-e1752135927289.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WSUK-competitor-scaled-e1752135927289.jpg\" alt=\"WorldSkills UK competitor\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-19417\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ym mis Tachwedd eleni, bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol <a href=\"https:\/\/www.worldskillsuk.org\/\">WorldSkills UK<\/a> 2025 yn cael eu cynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Bydd prif gystadleuaeth sgiliau\u2019r DU yn dod i leoliadau Cymreig; carreg filltir fawr a fydd arddangos y wlad ar lefel genedlaethol.<\/p>\n<p>Gyda 417 o gystadleuwyr yn cymryd rhan o bob cwr o\u2019r DU a dros 47 o rowndiau terfynol wedi\u2019u cynllunio, nid cystadleuaeth yn unig yw\u2019r digwyddiad hwn ond dathliad cenedlaethol o hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol o\u2019r radd flaenaf.<\/p>\n<p>Mae nifer o\u2019r cynrychiolwyr o Gymru hefyd; mae 120 o bobl ifanc o bob cwr o\u2019r wlad wedi ennill eu lle yn dilyn perfformiadau rhagorol yn y rowndiau rhagbrofol. Mae hyn yn golygu y bydd o leiaf 29% o\u2019r cystadleuwyr cenedlaethol yn dod o Gymru; cynnydd sylweddol o gymharu \u00e2 25% y llynedd.<\/p>\n<p><strong>Cystadleuwyr yn cynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK:<\/strong><br \/>\n<strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WSUK-25-Welsh-finalists.xlsx\">WorldSkillsUK Welsh Finalists<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei phartneriaeth i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU gyda Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a WorldSkills UK ym mis Medi diwethaf, yn dilyn rowndiau terfynol llwyddiannus WorldSkills yn Lyon. Mae\u2019r bartneriaeth hon wedi gosod y sylfeini i\u2019r Rowndiau Terfynol eleni gael eu cynnal ar draws 5 lleoliad yng Nghymru, rhwng 26 a 28 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bydd cystadleuwyr yn arddangos eu galluoedd mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Celf Gemau Digidol 3D, Cynnal a Chadw Awyrennau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chelfyddydau Coginio. Mae modd i\u2019r rhai sy\u2019n creu argraff dan bwysau gael eu dewis i gynrychioli\u2019r DU ar y llwyfan rhyngwladol yn y \u201cGemau Olympaidd y Sgiliau\u201d yn Japan yn 2028.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:<\/strong><br \/>\n\u201cMae\u2019r cystadlaethau hyn yn dangos gwerth ac arwyddoc\u00e2d prentisiaethau ac maen nhw\u2019n amhrisiadwy wrth sicrhau dyfodol ein heconomi.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch bod Cymru\u2019n cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2025. Mae ein gwlad yn un brydferth, ac rwy\u2019n gobeithio y bydd ein ymwelwyr yn cymryd amser i\u2019w harchwilio.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn ddymunopob lwc i\u2019r garfan newydd o gystadleuwyr \u2013 rwy\u2019n gwybod y byddwn yn falch ohonoch a\u2019ch ymroddiad.\u201d<\/p>\n<p>Yn rhan annatod o galendr addysg a hyfforddiant \u00f4l-16, mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn denu dros 6,000 o ddarpar gystadleuwyr o bob rhan o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon bob blwyddyn. Mae\u2019r rhaglenni hyfforddi sy\u2019n seiliedig ar gystadlu yn rhoi cyfleoedd i sefydliadau addysg a chyflogwyr ddatblygu a meincnodi galluoedd eu myfyrwyr a\u2019u prentisiaid yn erbyn safonau rhyngwladol.<\/p>\n<p><strong>Mae Mark Wright, prentis yn International Crusher Solutions Ltd, yn cystadlu yn y gystadleuaeth Gwneuthuro Metel. Dywedodd:<\/strong><br \/>\n&#8220;Dechreuais mewn cystadlaethau Adeiladu Gwaith Metel y llynedd ac enillais fedal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru gyda&#8217;r sg\u00f4r uchaf yn y rhanbarth, ac un arian yn WorldSkills UK.<\/p>\n<p>\u201cFe wnes i fwynhau cymaint nes i mi benderfynu mynd am y cystadlaethau rhagbrofol yn y DU eleni mewn Gwneuthuro Metel hefyd, ac rwyf wrth fy modd yn mynd i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK. Mae&#8217;n brofiad gwych, ac rwy&#8217;n edrych ymlaen i ddechrau a mwynhau&#8217;r profiad.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae Logan Sweet, prentis yn Aston Martin, yn cystadlu yn y gystadleuaeth Ail-orffen Modur. Dywedodd:<\/strong><br \/>\n\u201cErs dechrau fy mhrentisiaeth, rwyf wastad wedi bod eisiau profi fy hun a chystadlu.<\/p>\n<p>\u201cGyda chefnogaeth fy narparwr hyfforddiant, Coleg Caerdydd a&#8217;r Fro, gwthiais fy hun o ennill medal efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK erbyn hyn.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n deimlad anhygoel &#8211; rwy&#8217;n falch iawn o ba mor bell dw i wedi dod ac mae&#8217;r holl waith caled sydd wedi talu ar ei ganfed.\u201d<\/p>\n<p><strong>Parhaodd Elara Jones, sy\u2019n cystadlu yn y gystadleuaeth Ymarferydd Therapi Harddwch, gan ddweud:<\/strong><br \/>\n\u201cMae ennill medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a chael fy newis ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn dangos bod yr holl waith caled a\u2019r ymdrech wedi talu ar ei ganfed.<\/p>\n<p>\u201cRydw i mor falch, mae\u2019n teimlo bod popeth rydw i wedi\u2019i wneud wedi bod yn arwain at y foment hon, ac mae\u2019n golygu llawer i weld popeth yn gorffen ar bwynt mor gyffrous.\u201d<\/p>\n<p>Am fwy o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i ddechrau ar eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i:<br \/>\n<a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">inspiringskills.gov.wales<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ym mis Tachwedd eleni, bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 yn cael eu cynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Bydd prif gystadleuaeth sgiliau\u2019r DU yn dod i leoliadau Cymreig; carreg filltir fawr a fydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wsuk-finalists-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11,18],"tags":[],"class_list":["post-11642","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11642","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11642"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11642\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11647,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11642\/revisions\/11647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11642"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11642"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11642"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}