{"id":11659,"date":"2025-07-23T11:37:38","date_gmt":"2025-07-23T10:37:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11659"},"modified":"2025-07-23T11:37:07","modified_gmt":"2025-07-23T10:37:07","slug":"act-employer-pledge","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-employer-pledge\/","title":{"rendered":"Pam mae angen i arweinwyr busnes gamu i\u2019r adwy dros bobl ifanc Cymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-employer-pledge\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-employer-pledge\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_16609\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/Richard-Spear-ACT-scaled-e1701429417365.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16609\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/Richard-Spear-ACT-scaled-e1701429417365.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-16609\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16609\" class=\"wp-caption-text\">Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT<\/p><\/div>\n<p>Fel cyflogwyr rydym yn aml yn siarad am y bwlch sgiliau, am bobl ifanc sydd heb eu paratoi i ymuno a\u2019r gweithlu, ac am heriau recriwtio a chadw. Ond y cwestiwn mawr yw: beth ydyn ni\u2019n ei wneud i newid hynny?<\/p>\n<p>Yma yng Nghymru, mae Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn ymrwymiad pwysig i\u2019n pobl ifanc 16\u201324 oed, gan sicrhau bod gan oedolion ifanc fynediad at gymorth, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Ond mae ei lwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth arnom ni \u2013 busnesau Cymru. <\/p>\n<p>Yn ACT, rydym yn galw ar fusnesau i gamu i\u2019r bwlch ac ymuno \u00e2\u2019n <a href=\"https:\/\/www.acttraining.org.uk\/employer-information-jobs-growth-wales \">Haddewid Cyflogwyr<\/a>, ymrwymiad i gefnogi dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, rhwng 16 a 19 oed, drwy leoliadau gwaith neu gyfleoedd gyrfa cynnar. Mae\u2019n weithred syml ond yn un bwerus sydd \u00e2\u2019r gallu i lunio dyfodol person ifanc a chryfhau eich busnes ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Nid gwneud y peth iawn yn unig yw hyn, mae\u2019n ymwneud \u00e2 gwneud rhywbeth rhagweithiol ar gyfer eich sefydliad. Mae ein profiad o weithio gyda miloedd o gyflogwyr ledled Cymru wedi dangos bod pobl ifanc yn dod ag egni, meddwl ffres, a photensial hirdymor i\u2019r gweithle. Maen nhw\u2019n gofyn cwestiynau, yn cynnig safbwyntiau newydd, ac yn aml yn ein herio pan rydyn ni\u2019n parhau a\u2019n hen ffyrdd.<\/p>\n<p>Yn allweddol, does dim cost i chi am gymryd dysgwr trwy Addewid Cyflogwyr ACT. Rydym yn talu lwfans y dysgwr tra byddwch chi\u2019n elwa o unigolyn brwd sy\u2019n awyddus i ddysgu a chyfrannu. Ar ben hynny, mae ein t\u00eem ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o\u2019r ffordd er mwyn sicrhau bod y broses yn un llyfn i bawb.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae yna hefyd gyfrifoldeb moesol yma. I lawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy\u2019n aml yn cael eu hanwybyddu am gyfleoedd neu sydd heb ffynnu mewn addysg draddodiadol, gall lleoliad newid eu bywyd. Mae\u2019n cynnig cam cyntaf, hwb i\u2019w hyder, a chipolwg ar sut ddyfodol allai fod iddynt mewn sector sydd at eu dant. Fel cyflogwyr, mae gennym y gallu \u2013 ac yn fy marn i, y cyfrifoldeb \u2013 i greu\u2019r cyfleoedd hynny.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/blog\/2025\/07\/01\/employer-and-learner-partnership-helps-business-go-from-strength-to-strength\/\">Captiva Spa<\/a> yng Nghaerffili yn un busnes sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc. Maent wedi cymryd dysgwyr sydd nid yn unig wedi dod yn aelodau gwerthfawr o\u2019r t\u00eem yn ystod eu lleoliadau ond wedi mynd ymlaen i ddod yn weithwyr hirdymor a hyd yn oed yn rheolwyr. Yn yr un modd, mae\u2019r cwmni cyllid o Gaerdydd, <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/blog\/2025\/02\/18\/how-jobs-growth-wales-helped-city-brokers-find-new-talent\/ \">Ramsay &#038; White<\/a>, wedi croesawu dau ddysgwr Twf Swyddi Cymru+ fel aelodau staff parhaol ar \u00f4l eu gwylio\u2019n ffynnu ar leoliad. Nid straeon llwyddiant eithriadol yw\u2019r rhain, maen nhw\u2019n enghreifftiau o\u2019r hyn sy\u2019n digwydd pan fydd busnesau\u2019n buddsoddi mewn potensial. <\/p>\n<p>Nid tic mewn bocs yw cefnogi Gwarant Person Ifanc trwy Addewid Cyflogwyr ACT. Mae\u2019n gyfle i newid bywydau trwy adeiladu piblinell o dalent, cefnogi\u2019r gymuned leol, a llunio\u2019r math o weithlu mae pob un ohonom am ei weld \u2013 medrus, brwdfrydig, a pharod ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>I\u2019r rhai sy\u2019n dal ar y ffens, bydden i\u2019n eich herio i beidio \u00e2 thanbrisio\u2019r hyn y gall person ifanc gynnig i\u2019ch t\u00eem. Wrth gwrs y bydd angen arweiniad arnynt ond gyda\u2019r mentora cywir maen nhw\u2019n aml yn ein synnu gyda\u2019u menter, eu huchelgais a\u2019u syniadau.<\/p>\n<p>Yn ACT, ein pwrpas yw \u2018gwella bywydau trwy ddysgu\u2019 ond gallwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen i fusnesau ledled Cymru ymuno a\u2019r addewid a helpu i gefnogi ein gweithlu i ffynnu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am yr <a href=\"https:\/\/www.acttraining.org.uk\/employer-information-jobs-growth-wales \">Addewid Cyflogwyr<\/a> a sut y gall eich busnes gymryd rhan.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Fel cyflogwyr rydym yn aml yn siarad am y bwlch sgiliau, am bobl ifanc sydd heb eu paratoi i ymuno a\u2019r gweithlu, ac am heriau recriwtio a chadw. Ond y cwestiwn mawr yw: beth ydyn ni\u2019n ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-employer-pledge\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11659","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11659","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11659"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11659\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11661,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11659\/revisions\/11661"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11659"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11659"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11659"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}