{"id":11696,"date":"2025-09-09T15:00:29","date_gmt":"2025-09-09T14:00:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11696"},"modified":"2025-09-09T15:00:29","modified_gmt":"2025-09-09T14:00:29","slug":"euroskills-25-gabi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/euroskills-25-gabi\/","title":{"rendered":"Gabi, prentis o Gymru sy&#8217;n esiampl i eraill, yn cystadlu \u00e2 chogyddion dawnus Ewrop yn Nenmarc"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/euroskills-25-gabi\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/euroskills-25-gabi\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19575\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Gabbi-Wilson-scaled-e1757426358286.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19575\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Gabbi-Wilson-scaled-e1757426358286.jpg\" alt=\"Gabi Wilson yn derbyn ei sgr\u00f4l prentisiaeth gan reolwr-gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O\u2019Brien, yn y seremoni raddio.\" width=\"460\" height=\"430\" class=\"size-full wp-image-19575\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19575\" class=\"wp-caption-text\">Gabi Wilson yn derbyn ei sgr\u00f4l prentisiaeth gan reolwr-gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O\u2019Brien, yn y seremoni raddio.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd cogydd 20 oed o&#8217;r Canolbarth, sy&#8217;n awyddus i ragori ar gogyddion o bob cwr o Ewrop yr wythnos hon, ei disgrifio fel esiampl i brentisiaid eraill o Gymru. <\/p>\n<p>Bydd Gabi Wilson, o Raeadr Gwy, yn cynrychioli T\u00eem y DU yng ngornest goginio <a href=\"https:\/\/euroskills2025.com\/\">EuroSkills Herning<\/a> yn Nenmarc yn y bennod ddiweddaraf o&#8217;i thaith nodedig yn dysgu coginio.  <\/p>\n<p>Mae Gabi&#8217;n un o saith cystadleuydd o Gymru mewn t\u00eem o 19 sy&#8217;n cynrychioli T\u00eem y DU mewn 17 o wahanol sgiliau yn y gystadleuaeth Ewropeaidd, sydd wedi denu 600 o gystadleuwyr. <\/p>\n<p>Dewiswyd y cogydd ifanc dawnus, sy&#8217;n gweithio yn Chapters, bwyty \u00e2 Seren Werdd Michelin yn y Gelli Gandryll, yn aelod o D\u00eem y DU yn dilyn ei llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol.<\/p>\n<p>A hithau&#8217;n gyn-brentis gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, graddiodd Gabi \u00e2 Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol yn gynharach yn yr haf ac, yn \u00f4l pob argoel, bydd yn cyrraedd brig ei phroffesiwn. <\/p>\n<p>Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn aelod o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a dywed <strong>Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol y Ffederasiwn<\/strong>, y bydd darparwyr prentisiaethau yng Nghymru yn cefnogi Gabi bob cam o&#8217;r ffordd.<\/p>\n<p>\u201cO raddio \u00e2 Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol i gael ei dewis i gynrychioli T\u00eem y DU yn EuroSkills Herning 2025, mae taith Gabi yn arwydd o&#8217;i dawn, ei dygnwch a gwerth dysgu yn y gweithle,\u201d meddai.  \u201cMae hi\u2019n esiampl i brentisiaid eraill Cymru. <\/p>\n<p>\u201cDymunwn bob llwyddiant iddi a gobeithio y bydd ei sgiliau coginio&#8217;n disgleirio fel y gall gweddill Ewrop eu gweld.  Gobeithio y bydd Gabi&#8217;n ysbrydoli rhagor o brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i gydnabod gwerth a manteision cystadlaethau sgiliau cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang.\u201d<br \/>\nMae Gabi&#8217;n awyddus i barhau i ddysgu ei chrefft, ac mae&#8217;n anelu at ennill Diploma Lefel 3 City &#038; Guilds mewn Sgiliau Patisserie a Melysion yng Ngr\u0175p Colegau NPTC yn y Drenewydd, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ei thaith fel cogydd. Dyma&#8217;r coleg a&#8217;i cyflwynodd gyntaf i gystadlaethau WorldSkills UK.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Rwy wrth fy modd ag awyrgylch cystadlaethau,\u201d meddai.  \u201cMae wir yn rhoi hwb i mi ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at weld ble rwy&#8217;n sefyll ymhlith y cystadleuwyr eraill o Ewrop.  Mae cael fy newis i gystadlu yn EuroSkills yn gyfle gwych \u2013 cyfle unwaith mewn oes efallai.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ar \u00f4l ei thaith i Herning, hoffai sicrhau lle yn Nh\u00eem y DU ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026.<\/p>\n<p>Mae Gabi eisoes wedi ennill gornest genedlaethol \u2013 hi oedd enillydd cyntaf Her y Cogyddion Gwyrdd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yn 2024 tra oedd yn gweithio gyda chogyddion eithriadol o brofiadol yn Chartists 1770 yng ngwesty Trewythen, Llanidloes, ac yn dysgu ganddynt. <\/p>\n<p>Pan gaewyd y bwyty hwnnw, cafodd swydd yn Chapters lle caiff ei mentora gan y prif gogydd Mark McHugo, sy&#8217;n gyd-berchennog y bwyty gyda&#8217;i wraig, Charmaine.  <\/p>\n<p>Maen nhw wedi sicrhau bod Gabi&#8217;n cael mynychu hyfforddiant a gwersylloedd hyfforddi i baratoi ar gyfer EuroSkills. Bu cefnogaeth hyfforddiant un-i-un gan gogyddion proffesiynol fel Andrew Addis-Fuller, swyddog hyfforddi lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, yn help iddi fireinio&#8217;i sgiliau coginio hefyd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhoi clod i&#8217;w phrentisiaethau &#8220;anhygoel&#8221; am helpu i feithrin ei hyder a&#8217;i sgiliau.  &#8220;Mae&#8217;n ffordd wych o ddatblygu&#8217;ch sgiliau ym myd gwaith go iawn,&#8221; meddai. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cFy nghyngor i os hoffai rhywun fod yn gogydd yw dewis prentisiaeth mewn man lle mae gweithwyr proffesiynol medrus oherwydd byddwch chi&#8217;n si\u0175r o ddysgu gan y goreuon.  Mae\u2019n llwybr at lwyddiant.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cDw i&#8217;n gobeithio dysgu pob math o sgiliau cyn arbenigo mewn patisserie o bosibl.  Yn y dyfodol, hoffwn i deithio hefyd a threulio cyfnodau mewn gwahanol fwytai i ddysgu gan gogyddion eraill. \u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/strong>, fod Gabi a\u2019r chwe aelod arall o Gymru wedi gwneud yn &#8220;rhagorol&#8221; i gael eu dewis yn aelodau o D\u00eem y DU ar gyfer EuroSkills, prif gystadleuaeth sgiliau Ewrop. <\/p>\n<p>\u201cMae T\u00eem y DU yn defnyddio EuroSkills fel cyfle i baratoi at WorldSkills Shanghai 2026,\u201d pwysleisiodd.  \u201cMae&#8217;n rhan o raglen ddatblygu Gabi ac aelodau eraill y t\u00eem a bydd yn profi eu cadernid meddyliol a\u2019u gwytnwch o dan bwysau cystadleuaeth dridiau.<\/p>\n<p>\u201cBydd hi&#8217;n wynebu heriau a osodwyd a bydd o dan bwysau mawr yn y gystadleuaeth goginio i gyflawni&#8217;r dasg o fewn amser cyfyngedig. <\/p>\n<p>\u201cMae WorldSkills ar gyfer pobl o dan 22 ond mae&#8217;r terfyn oedran yn 25 ar gyfer EuroSkills, sy&#8217;n golygu ei bod yn debygol y bydd rhai o&#8217;r cystadleuwyr eraill wedi cynrychioli eu gwledydd ar lwyfan y byd o&#8217;r blaen. <\/p>\n<p>\u201cGobeithio bod Gabi ar y ffordd i Shanghai ond does dim sicrwydd y bydd hi&#8217;n mynd, gan y bydd hi&#8217;n cystadlu \u00e2 chogyddion eraill am le yn Nh\u00eem y DU.  Trwy gystadlu yn EuroSkills, rwy&#8217;n gobeithio y bydd hi&#8217;n ysbrydoli rhagor o bobl ifanc Cymru i ystyried coginio fel llwybr gyrfa.<\/p>\n<p>\u201cMae hyn fel Gemau Olympaidd Ewrop ym maes sgiliau ac yn gyfle i aelodau Cymru o D\u00eem y DU ddangos ansawdd addysg yn ein gwlad.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd cogydd 20 oed o&#8217;r Canolbarth, sy&#8217;n awyddus i ragori ar gogyddion o bob cwr o Ewrop yr wythnos hon, ei disgrifio fel esiampl i brentisiaid eraill o Gymru. Bydd Gabi Wilson, o Raeadr Gwy, yn cynrychioli &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/euroskills-25-gabi\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11,18],"tags":[],"class_list":["post-11696","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11696","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11696"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11696\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11701,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11696\/revisions\/11701"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11696"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11696"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11696"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}