{"id":11745,"date":"2025-09-25T06:13:17","date_gmt":"2025-09-25T05:13:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11745"},"modified":"2025-09-19T11:18:55","modified_gmt":"2025-09-19T10:18:55","slug":"ntfw-sept-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-sept-25\/","title":{"rendered":"Darparwyr hyfforddiant yn gofyn i Lywodraeth newydd Cymru flaenoriaethu prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-sept-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-sept-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19055\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19055\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, NTFW Strategic Director portrait shot.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19055\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19055\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW.<\/p><\/div>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi ymrwymo\u2019n llwyr i sicrhau bod prentisiaethau&#8217;n cael eu blaenoriaethu yn ogystal \u00e2&#8217;u diogelu yn nhymor y Senedd nesaf.<\/p>\n<p><strong>\u201cByddwn yn dal ati i lob\u00efo er mwyn cryfhau lleisiau darparwyr a dysgwyr, gan sicrhau bod yr agenda sgiliau&#8217;n dal yn ganolog i strategaeth economaidd a chymdeithasol Cymru,\u201d pwysleisiodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cDros y blynyddoedd diwethaf, mae&#8217;r NTFW wedi bod yn werthfawr iawn i ddarparwyr prentisiaethau ledled Cymru, gan hyrwyddo\u2019r sector trwy eiriol, cydweithio ac arloesi.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 chryfhau trefniadaeth dysgu seiliedig ar waith, mae ein gwaith wedi sicrhau bod llunwyr polis\u00efau, cyflogwyr a dysgwyr yn fwy ymwybodol o&#8217;r maes ac yn ymddiried mwy ynddo.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r NTFW yn llysgennad amlwg dros ddysgu seiliedig ar waith, gan gynrychioli darparwyr prentisiaethau ledled Cymru a brwydro drostynt.<\/p>\n<p>Dyma rai enghreifftiau o&#8217;r ffordd y mae\u2019r NTFW wedi hybu darparwyr prentisiaethau. <\/p>\n<p>Ym maes eiriolaeth a dylanwadu ar bolisi, mae\u2019r NTfW wedi chwarae rhan ganolog wrth lywio\u2019r sgwrs genedlaethol am brentisiaethau, gan gyfrannu at ymchwiliadau Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar benderfyniadau allweddol ar gyllido a fframweithiau cyflenwi.<\/p>\n<p>O ran cydweithio strategol, mae\u2019r NTFW wedi cydweithio\u2019n agos \u00e2 Medr, rheoleiddiwr newydd addysg drydyddol yng Nghymru, a\u2019r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith er mwyn ymateb i heriau yn y sector. Ymhlith yr heriau hyn mae cefnogaeth ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), taliadau cymhelliant i gyflogi pobl anabl, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu. <\/p>\n<p>Mae\u2019r NTFW o blaid amrywiaeth a chynhwysiant. Mewn sgyrsiau, cyflwyniadau a digwyddiadau, mae\u2019r NTFW wedi hyrwyddo gwella mynediad ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cynnwys pobl ag anableddau, menywod yn y diwydiant adeiladu a chymunedau ethnig amrywiol. <\/p>\n<p>Gyda Colegau Cymru, trefnodd yr NTFW Ffair Brentisiaethau lwyddiannus yn y Senedd i ddangos i Weinidogion ac Aelodau pa moe eang yw\u2019r cyfleoedd sydd ar gael a phwysleisio gwerth prentisiaethau i weithlu&#8217;r dyfodol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Bu\u2019r NTFW ar flaen y gad erioed o ran dathlu rhagoriaeth. Roedd yn falch o gael cefnogi Gwobrau Prentisiaethau Cymru, gan gydnabod dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr rhagorol. Mae\u2019r gwobrau hyn wedi rhoi sylw i lwyddiannau sy\u2019n ysbrydoli ac sy&#8217;n cadarnhau effaith y sector.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRydym wedi llwyddo i sicrhau rhai buddugoliaethau allweddol, yn cynnwys adfer a diogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau,\u201d meddai Lisa. \u201cAr \u00f4l lob\u00efo cyson, llwyddodd yr NTFW i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i beidio \u00e2 thorri cymaint ag y bwriadwyd oddi ar y gyllideb yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddiogelu llawer o waith hanfodol y rhwydwaith darparwyr.<\/p>\n<p>\u201cFe wnaethon ni berswadio Llywodraeth Cymru i beidio \u00e2 gostwng lefelau cyllid prentisiaethau yn y flwyddyn gyfredol chwaith, er gwaethaf pwysau ariannol ehangach ar y sector cyhoeddus.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Cynhadledd Flynyddol a\u2019n cyfraniad at WorldSkills UK wedi rhoi amlygrwydd i brentisiaethau Cymru gartref a thramor.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd aelodau o&#8217;r NTFW yn cefnogi rhai o enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 hefyd, yn cynnwys Jessica Williams, Prentis Uwch y Flwyddyn, Gwynfor Jones, Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Trafnidiaeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n<p>Gydag etholiad y Senedd 2026 yn agos\u00e1u, mae\u2019r NTFW wedi lansio Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau, gan alw am ddyblu&#8217;r buddsoddiad fel y gall 200,000 o bobl ddechrau ar brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhesymeg yn glir,\u201d meddai Lisa. \u201cYn \u00f4l y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes, trwy ddyblu&#8217;r buddsoddiad, gellid ychwanegu \u00a33.4 biliwn at enillion gydol oes pobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau\u2019n hanfodol er mwyn rhoi sgiliau ymarferol i bobl, ac maent wedi\u2019u teilwra i anghenion diwydiant, yn enwedig mewn sectorau sy\u2019n datblygu fel ynni gwyrdd, arloesedd digidol a gofal iechyd.<\/p>\n<p>\u201cMae ehangu mynediad at brentisiaethau yn hybu twf cynhwysol ac yn grymuso cymunedau ledled Cymru. Mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall darparwyr barhau i gynnig gwasanaethau cymorth pwrpasol i ddysgwyr er budd eu hiechyd meddwl a\u2019u llesiant.\u201d <\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019i waith, mae\u2019r NTFW wedi mynd ati i ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid gwleidyddol trwy fynychu cynadleddau pleidiau, cyfarfodydd bord gron a chyfarfodydd y Senedd, cyfrannu at ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i addysg \u00f4l-16 a llwybrau prentisiaethau, a lob\u00efo i sicrhau cyllid teg, hirdymor fel y bydd prentisiaethau\u2019n dal yn ganolog i bolisi\u2019r llywodraeth i&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi ymrwymo\u2019n llwyr i sicrhau bod prentisiaethau&#8217;n cael eu blaenoriaethu yn ogystal \u00e2&#8217;u diogelu yn nhymor y Senedd nesaf. \u201cByddwn yn dal ati i lob\u00efo er mwyn cryfhau lleisiau darparwyr a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-sept-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11745","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11745","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11745"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11745\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11746,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11745\/revisions\/11746"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11745"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11745"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11745"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}