{"id":11750,"date":"2025-09-25T06:12:59","date_gmt":"2025-09-25T05:12:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11750"},"modified":"2025-09-19T12:37:53","modified_gmt":"2025-09-19T11:37:53","slug":"cambrian-sept-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-sept-25\/","title":{"rendered":"CHC yn dathlu 30 mlynedd mewn Busnes ym mis Medi"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-sept-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-sept-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19631\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/2.Cambrian_Faith-OBrien-scaled-e1758281475571.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19631\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/2.Cambrian_Faith-OBrien-scaled-e1758281475571.jpg\" alt=\"Faith O\u2019Brien, Managing Director of Cambrian Training Company,\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19631\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19631\" class=\"wp-caption-text\">Faith O&#8217;Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p><\/div>\n<p>Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi tyfu o fod yn is-gwmni bach Twristiaeth Canolbarth Cymru, gan ddarparu sgiliau galwedigaethol i gefnogi datblygiad sector twristiaeth y rhanbarth, i fod yn un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf arloesol a pharchus Cymru. Gydag ymrwymiad cadarn i ragoriaeth, mae CHC wedi arloesi hyfforddiant yn y diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod, wrth hefyd ymestyn allan i sectorau newydd megis iechyd a gofal cymdeithasol. Sydd wedi arwain at ennill nifer o wobrau gan gynnwys Darparwr Prentisiaethau\u2019r Flwyddyn a Darparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith Gorau yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae ymroddiad CHC i feithrin talent yn amlwg yn ei mentrau megis creu cystadleuaeth Cigydd Ifanc y Flwyddyn, gwobrau Hyfforddiant Cambrian, a chyfranogiad a chefnogaeth y cwmni wrth redeg cystadlaethau Lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ers ei dechreuad yn 2014. O lansio canolfannau rhagoriaeth i ddod yn gontractwyr uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, a thrawsnewid i ddod yn ymddiriedolaeth sy\u2019n 100% yn eiddo i\u2019r gweithwyr, mae taith CHC yn adlewyrchu angerdd dwfn am rymuso unigolion, cefnogi cymunedau, a hyrwyddo addysg gynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru. Dros y 30 mlynedd o fod mewn busnes, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi cyflwyno mwy na 20,000 o raglenni prentisiaethau ledled Cymru mewn mwy na 4,500 o fusnesau.<\/p>\n<p>Mae CHC hefyd yn chwarae r\u00f4l allweddol wrth hyrwyddo a chefnogi datblygiad, twf, a chynaliadwyedd hirdymor sectorau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru. Mae\u2019r diwydiannau hwn yn gyfranwyr allweddol i economi cenedlaethol Cymru ac yn sefyll fel ffynonellau allweddol o gyflogaeth, yn enwedig o fewn cymunedau gwledig. Trwy bartneriaethau a nawdd strategol &#8211; gan gynnwys Cymdeithas Goginiol Cymru, Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gwobrau twristiaeth ranbarthol &#8211; mae CHC yn cefnogi datblygiad y sector, yn dathlu rhagoriaeth, ac yn meithrin arloesedd yn barhaus. Nid yn unig ydy ymgysylltiad dwfn \u00e2 chyrff a digwyddiadau\u2019r diwydiant yn cryfhau llwybrau galwedigaethol, ond mae hefyd yn sicrhau bod hyfforddiant yn parhau i fod yn berthnasol, ymatebol, ac wedi\u2019i gwreiddiau mewn anghenion gwirioneddol busnesau a chymunedau Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch iawn o\u2019n cyflawniadau yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian dros y 30 mlynedd diwethaf,\u201d meddai Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>\u201cWrth symud ymlaen, fe fydd CHC yn parhau i greu amgylchedd lle mae rhaglenni dysgu seiliedig ar waith hyblyg yn cefnogi newidiadau ar gyfer system drydyddol gydgysylltiedig. <\/p>\n<p>\u201cDyma pam rydym yn lansio\u2019r cystadlaethau celfyddydau coginio newydd y bydd ar agor i brentisiaid dysgu seiliedig ar waith CHC a myfyrwyr lletygarwch blwyddyn 10 a 11 mewn ysgolion uwchradd ym Mhowys,\u201d meddai Faith O\u2019Brien. <\/p>\n<p>Mae \u2018Cystadleuaeth Gwrs Cyntaf Risotto CHC\u2019 yn seiliedig ar un o dasgau yng nghystadleuaeth Celfyddydau Coginio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025-26. Bydd y rownd derfynol yn digwydd yn ein Pafiliwn CHC ar Faes y Sioe Frenhinol ar ail ddiwrnod Y Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar y 25ain o Dachwedd 2025. Mae\u2019r amser yn cyd-fynd yn berffaith \u00e2 diwrnod agor cofrestriadau ar gyfer cystadleuaeth Celfyddydau Coginio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025-26, sydd ar agor i brentisiaid cofrestru o 25ain o Dachwedd tan 6ed o Ragfyr 2025. Mae rowndiau terfynol cystadleuaeth fach CHC hefyd yn cyd-fynd \u00e2 Chymru yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkillsUK, a gynhelir rhwng 25ain &#8211; 28ain Tachwedd 2025.<\/p>\n<p>Bydd enillwyr y cystadlaethau ysgol a phrentisiaethau dysgu seiliedig ar waith yn ennill daleb Amazon \u00a350.<\/p>\n<p>\u201cMae taith CHC hyd yn hyn wedi cael ei ddiffinio gan bartneriaethau cryf, arloesi wrth ddarparu dysgu, ac ymrwymiad angerddol tuag at rymuso pobl gyda\u2019r sgiliau a\u2019r wybodaeth maen nhw angen i ffynnu mewn economi cystadleuol, sy\u2019n newid yn gyflym. Byddwn yn parhau gyda\u2019r gwerthoedd hwn wrth i ni ymgysylltu \u00e2 mwyfwy o ddysgwyr Cymru a\u2019u hysbrydoli nhw i lwyddo yn eu gyrfaoedd dewisol,\u201d meddai Faith O\u2019Brien.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi tyfu o fod yn is-gwmni bach Twristiaeth Canolbarth Cymru, gan ddarparu sgiliau galwedigaethol i gefnogi datblygiad sector twristiaeth y rhanbarth, i fod yn un o ddarparwyr prentisiaethau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-sept-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11750","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11750","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11750"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11750\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11751,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11750\/revisions\/11751"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11750"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11750"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11750"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}