{"id":11761,"date":"2025-09-25T06:09:54","date_gmt":"2025-09-25T05:09:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11761"},"modified":"2025-09-21T13:46:37","modified_gmt":"2025-09-21T12:46:37","slug":"fdq-sept-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fdq-sept-25\/","title":{"rendered":"Stori Menter Pobyddion Ifanc"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/fdq-sept-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fdq-sept-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19701\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/5.FDQ_Bako-1-scaled-e1758456785179.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19701\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/5.FDQ_Bako-1-scaled-e1758456785179.jpg\" alt=\"Ella Muddiman and Naomi Spaven at the bakery holding loaves of bread.\n\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19701\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19701\" class=\"wp-caption-text\">Ella Muddiman a Naomi Spaven<\/p><\/div>\n<p>Ella Muddiman a Naomi Spaven, sy\u2019n gweithio ym Mecws I\u00e2l yng Ngholeg Cambria yw\u2019r cyntaf i gymryd rhan ym Menter Pobyddion Ifanc &#8211; cydweithrediad newydd rhwng BAKO, Coleg Cambria a Wrights, fel rhan o\u2019r Compleat Food Group, wedi\u2019i ddyfeisio i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o bobyddion. <\/p>\n<p>Dechreuodd y syniad ar gyfer y prosiect yng Nghynhadledd Becws Cymru 2025, a gafodd ei chynnal ar safle Wrecsam, Coleg Cambria, lle chwaraeodd Ella a Naomi ran sylweddol wrth drefnu\u2019r digwyddiad a oedd yn cynnwys sgyrsiau ysbrydoledig, gan gynnwys un gan Brif Swyddog Gweithredol FDQ  Terry Fennell, a oedd yn pwysleisio bod dyfodol y diwydiant pobi yn dibynnu ar dalent newydd. Roedd yn annog busnesau i gyflogi prentisiaid a\u2019u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau. Atseiniodd Sara Autton o gwmni Worshipful Company of Bakers yr un neges, gan dynnu sylw at y bwlch sgiliau sylweddol a\u2019r angen i gyflogwyr ddarganfod cyfleoedd i gefnogi talent newydd gyda\u2019u cwmn\u00efau eu hunain. <\/p>\n<p>Gwnaeth y sgyrsiau hyn ysbrydoli David Armstrong, Cyfarwyddwr Masnachol Gr\u0175p yn BAKO, i lansio cynnyrch newydd wedi\u2019i anelu at bontio\u2019r bwlch rhwng addysg a\u2019r diwydiant pobi modern. Roedd gwaith Ella a Naomi ar y gynhadledd wedi gwneud argraff arno, felly gwnaeth eu gwahodd i arwain y rhaglen beilot. Daeth y bartneriaeth yn fyw yn sydyn gyda BAKO yn cydweithio gyda Wrights, fel rhan o\u2019r Compleat Food Group, i wireddu\u2019r prosiect. <\/p>\n<p>Mae Naomi Spaven, ac Ella Muddiman yn astudio Diploma Lefel 3 FDQ mewn Hyfedredd mewn Sgiliau Uwch yn y Diwydiant Pobi gyda\u2019r coleg a llynedd cyrhaeddodd nhw rownd derfynol categori Seren Addawol Gwobrau&#8217;r Diwydiant Pobi (BIA) Pobydd Prydain gyda Naomi\u2019n ennill y wobr ac Ella\u2019n cael ei henwebu eto eleni. Cawson nhw friff Datblygu Cynnyrch Newydd: creu cynnyrch Nadoligaidd melys a sawrus ar gyfer tymor Nadolig 2025. Wrth weithio ym mecws y coleg, gwnaethon nhw danio syniadau, profi, mireinio cyfres o ryseitiau cyn eu cyflwyno i BAKO a Wrights. <\/p>\n<p>Cafodd Ella a Naomi brofiad uniongyrchol wrth addasu eu ryseitiau becws ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr, drwy dreulio amser yn ffatri Wrights. Dysgon nhw i ystyried cost, blas, gwead a gallu, gan roi cipolwg gwerthfawr iddyn nhw ar realiti datblygu cynnyrch newydd mewn lleoliad masnachol.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i&#8217;r broses gynhyrchu, roedden nhw hefyd yn rhan o lansio&#8217;r cynnyrch, gan gynorthwyo gyda ffotograffiaeth ar gyfer eu creadigaethau a briffio t\u00eem Gwerthu BAKO. Rhoddodd hyn olwg gynhwysfawr iddyn nhw ar daith gyfan gynnyrch newydd, o&#8217;r cysyniad cychwynnol i&#8217;w ryddhau ar y farchnad.<\/p>\n<p>Bydd canran o&#8217;r elw o&#8217;r gwerthiannau yn cael ei ailfuddsoddi mewn cronfa bwrpasol ar gyfer Mentrau Pobyddion Ifanc yn y dyfodol, gan sicrhau bod y prosiect hwn yn parhau i gefnogi talent ifanc flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn. Caiff y prosiect ei gefnogi gan The Craft Bakers Association, Worshipful Company of Bakers, Cyngor Pobyddion y Dyfodol ac FDQ.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect cydweithredol hwn, wedi&#8217;i yrru gan greadigrwydd Ella a Naomi, wedi arwain at dri chynnyrch Nadoligaidd newydd ar gyfer dewis o gynnyrch arbennig Select BAKO. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys dau opsiwn &#8220;Cacennau ar gyfer Gorffen&#8221; newydd: y Sleisen Goffi Gwyddelig, gyda&#8217;i haenau o garamel coffi a hufen gwirod Gwyddelig, a thro modern ar y Sleisen Goedwig Ddu glasurol. Gwnaethon nhw hefyd greu Sleisen Nadoligaidd greisionllyd sawrus newydd yn cynnwys caws brie a llugaeron, wedi\u2019i orffen gyda sglein.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r tri chynnyrch bellach ar gael i gwsmeriaid Gr\u0175p BAKO.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/05-FDQ_Bako-2-1280x640-1-e1758458711465.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/05-FDQ_Bako-2-1280x640-1-e1758458711465.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-19709\" \/><\/a><\/p>\n<p>Fel rhan o Fenter y Pobyddion Ifanc, rhannodd y cyfranogwyr a&#8217;r partneriaid eu profiadau, o&#8217;r broses greadigol a&#8217;r wybodaeth a gawson nhw i&#8217;r cyffro o weld eu syniadau&#8217;n dod yn realiti. Dyma beth oedd ganddyn nhw i&#8217;w ddweud:<\/p>\n<p>Dywedodd Ella: \u201cDwi wedi bod wrth fy modd gyda phob cam o\u2019r prosiect yma\u2026.O danio syniadau i dreialu blasau gwahanol, i addasu\u2019r ryseitiau yn Wrights fel eu bod nhw\u2019n gweithio wrth eu cynhyrchu, mi wnes i ddysgu gymaint.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hollol wych gwybod bod rhywbeth dwi wedi helpu\u2019i greu yn mynd i fod ar werth dros y Nadolig. Mae\u2019n profi bod pobyddion ifanc yn gallu gwneud gwahaniaeth. A dwi\u2019n gobeithio ei fod yn dangos i eraill eu bod nhw\u2019n gallu hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Naomi: \u201cMae cymryd rhan yn y prosiect yma wedi bod yn brofiad anhygoel, mae\u2019n hollol wahanol i\u2019r pobi artisan dwi wedi\u2019i wneud o\u2019r blaen. Dwi wir eisiau i bobl ifanc weld bod cymaint o lwybrau gyrfa gwahanol o fewn pobi, o weithio mewn becws artisan i gynhyrchu ar raddfa fawr a datblygu cynnyrch newydd. Mae fy ngwneud i\u2019n hyd yn oed yn fwy sicr fy mod i yn y diwydiant cywir, a dwi\u2019n gyffrous iawn am y dyfodol.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Matthew Bell, Pennaeth Datblygu Busnes o FDQ:<\/strong> \u201cMae menter Pobyddion Ifanc gyntaf BAKO yn nodi cam beiddgar tuag at feithrin arweinwyr pobi y dyfodol a thrwy bartneru \u00e2 darparwyr hyfforddiant prentisiaeth pobi fel Coleg Cambria nid yn unig y maen nhw\u2019n hyfforddi, maen nhw\u2019n creu cenhedlaeth newydd o bobyddion sydd wedi\u2019u harfogi i arloesi ac ysbrydoli.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Nid yn unig y mae Menter y Pobyddion Ifanc wedi cyflwyno tri chynnyrch Nadoligaidd newydd cyffrous ond mae hefyd wedi gosod y sylfeini ar gyfer rhaglen a fydd yn parhau i feithrin creadigrwydd, ysbrydoli uchelgais a hyrwyddo&#8217;r genhedlaeth nesaf o dalent pobi am flynyddoedd i ddod.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.fdq.org.uk\/\">FDQ<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ella Muddiman a Naomi Spaven, sy\u2019n gweithio ym Mecws I\u00e2l yng Ngholeg Cambria yw\u2019r cyntaf i gymryd rhan ym Menter Pobyddion Ifanc &#8211; cydweithrediad newydd rhwng BAKO, Coleg Cambria a Wrights, fel rhan o\u2019r Compleat Food Group, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fdq-sept-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11761","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11761","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11761"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11761\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11793,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11761\/revisions\/11793"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11761"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11761"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11761"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}