{"id":11781,"date":"2025-09-25T06:05:17","date_gmt":"2025-09-25T05:05:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11781"},"modified":"2025-09-19T15:28:07","modified_gmt":"2025-09-19T14:28:07","slug":"learn-work-sept-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/learn-work-sept-25\/","title":{"rendered":"Prentisiaeth yn lansio gyrfa effeithiau arbennig yr enillydd gwobr Will"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/learn-work-sept-25\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/learn-work-sept-25\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19637\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/8.Learn-Work_Will-Hougham-Inspire-e1758291678972.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19637\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/8.Learn-Work_Will-Hougham-Inspire-e1758291678972.jpg\" alt=\"Will Hougham standing against a colourful backdrop.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19637\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19637\" class=\"wp-caption-text\">Mae Will Hougham wedi ffynnu fel prentis.<\/p><\/div>\n<p>Mae Will Hougham yn teimlo ei fod yn ffodus o fod wedi medru parhau i weithio a dysgu fel prentis technegydd effeithiau arbennig yn \u201cswigen waith\u201d ei gyflogwyr yn ystod y pandemig COVID-19 a ddaeth \u00e2\u2019r rhan fwyaf o\u2019r byd i stop.<\/p>\n<p>Roedd Will, sy\u2019n 21 oed ac o Gaerdydd, newydd gychwyn ar ei yrfa yn y diwydiant sgrin pan gychwynnodd y cyfnod clo byd-eang, gan greu ansicrwydd i filiynau o weithwyr y Deyrnas Unedig a roddwyd ar ffyrlo.<\/p>\n<p>Ond penderfynodd Real SFX, y cwmni o Gaerdydd lle\u2019r oedd yn dysgu ei grefft fel technegydd effeithiau arbennig, ddefnyddio\u2019r amser i adeiladu ar gyfer y dyfodol, gyda Will uchelgeisiol yn ganolog i\u2019w \u2018swigen waith\u2019.<\/p>\n<p>\u201cWrth edrych yn \u00f4l, rwy\u2019n ystyried fy hun yn lwcus i fod wedi parhau i weithio yn ystod yr amser hwnnw pan oedd bron bawb arall yr oeddwn yn ei adnabod yn methu gwneud hynny,\u201d meddai Will.<\/p>\n<p>\u201cFe wnes i helpu i symud gweithdai oedd yn golygu bod y cyfleuster Real SFX newydd yn barod pan wnaeth cynyrchiadau ddechrau ffilmio eto. Rhoddodd y cyfle i mi gael profiad ymarferol gwerthfawr gydag amrywiol fathau o offer a fu\u2019n rhan fawr o gael fy nghyflogi gan y cwmni ar \u00f4l gorffen fy mhrentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>I gydnabod ei ymroddiad, enillodd Will y Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Mae\u2019r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.<\/p>\n<p><strong>Meddai Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru:<\/strong><br \/>\n\u201cMewn byd sy\u2019n esblygu\u2019n gyflym, mae\u2019n hanfodol cefnogi a dathlu\u2019r oedolion yng Nghymru sy\u2019n mynd ati i ddysgu ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau newydd nid yn unig yn trawsnewid eu bywydau eu hunain ond hefyd yn helpu i lunio dyfodol mwy gwydn a haws ei addasu i\u2019n cymunedau.\u201d<\/p>\n<p>Mae gyrfa Will wedi ffynnu. Mae\u2019r props a\u2019r rigiau arbenigol y mae wedi eu creu wedi cael eu defnyddio ar sioeau teledu erbyn hyn. Mae hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn gweithredu peiriannau codi a phrentisiaeth Lefel 1 Diogelwch a Thrin Effeithiau Ffrwydron Arbennig, y ddau\u2019n werthfawr i\u2019w wneud yn haws ei gyflogi yn y diwydiant.<\/p>\n<p>Mae Will yn rhannu\u2019n hyn a ddysgodd trwy fentora\u2019r genhedlaeth nesaf o brentisiaid Real SFX ac mae wedi arbed miloedd o bunnoedd i\u2019w gwmni trwy ffurfio rhestr o bob ased oedd yn eiddo i\u2019r busnes.<\/p>\n<p>Mae cwblhau ei brentisiaeth wedi helpu Will i ddatblygu fel unigolyn trwy ei herio i fod yn fwy hyderus ynddo ei hun, a thrwy hynny oresgyn iselder a gorbryder oedd wedi golygu ei fod yn brin o hunanhyder.<\/p>\n<p>\u201cMae llunio gyrfa wedi fy helpu i newid fy mywyd,\u201d dywedodd. \u201cRwyf yn awr yn teimlo\u2019n llawer mwy hyderus o\u2019m sgiliau fy hun fel technegwr ac mae fy hyder wrth sgwrsio ag eraill mewn sefyllfaoedd cymdeithasol wedi gwella\u2019n fawr.\u201d<\/p>\n<p>Cefnogodd Sgil Cymru o Gaerdydd daith ddysgu Will ac mae ei benderfyniad wrth hyrwyddo prentisiaethau ymhlith eraill sy\u2019n cychwyn yn y diwydiant wedi gwneud argraff neilltuol arnynt.<\/p>\n<p>\u201cNid yn unig roedd gwaith caled a pharodrwydd i addasu Will o fudd i\u2019w dwf personol ond mae hefyd wedi cefnogi\u2019r t\u00eem yn Real SFX yn fawr,\u201d <strong>dywedodd Sue Jeffries, asesydd arweiniol a chyfarwyddwr rheoli Sgil Cymru.<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Will Hougham yn teimlo ei fod yn ffodus o fod wedi medru parhau i weithio a dysgu fel prentis technegydd effeithiau arbennig yn \u201cswigen waith\u201d ei gyflogwyr yn ystod y pandemig COVID-19 a ddaeth \u00e2\u2019r rhan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/learn-work-sept-25\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11781","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11781","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11781"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11781\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11782,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11781\/revisions\/11782"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11781"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11781"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11781"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}