{"id":11904,"date":"2025-11-05T14:59:06","date_gmt":"2025-11-05T14:59:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11904"},"modified":"2025-11-05T14:59:06","modified_gmt":"2025-11-05T14:59:06","slug":"five-ways-business-greener","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/five-ways-business-greener\/","title":{"rendered":"Pum ffordd y gall busnesau yng Nghymru fod yn fwy gwyrdd (a pham mae hyfforddiant yn allweddol)"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/five-ways-business-greener\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/five-ways-business-greener\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/reef-e1762354372911.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/reef-e1762354372911.jpg\" alt=\"Image of a reef\" width=\"460\" height=\"344\" class=\"alignnone size-full wp-image-19877\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae cyllideb garbon Cymru yn gosod targed uchelgeisiol o ostyngiad o 58% mewn allyriadau erbyn 2030. Ond beth mae hynny\u2019n ei olygu i fusnesau Cymru?<\/p>\n<p>Yn \u00f4l tiwtoriaid ACT Karuna Sparks a Wallis Pegington, nid yw\u2019n ymwneud ag aros i\u2019r llywodraeth bennu gofynion cyfreithiol, mae\u2019n ymwneud ag ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar fusnes ar gyfer iechyd yr economi yn ogystal \u00e2\u2019r blaned.<\/p>\n<p>Dyma bum peth y gall cwmn\u00efau wneud nawr er mwyn lleihau eu h\u00f4l troed carbon a pharatoi ar gyfer y dyfodol:<\/p>\n<p><strong>Arwain newid diwylliant<\/strong><br \/>\nNid cyfrifoldeb un adran yn unig yw cynaliadwyedd, mae\u2019n rhan o waith pawb. Yn siarad yn y bennod ddiweddaraf o\u2019r <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/episode\/5oLjSS2gICXdo8eYVoAuCL?si=dGYD1wzKQsWQyoRclqKyFQ \">podlediad Little Big Actions<\/a>, esbonia Karuna: \u201cMae angen ehangu, addasu a gwneud sgiliau gwyrdd yn berthnasol i bob gweithiwr o\u2019r bobl ar y brig yr holl ffordd trwy\u2019r sefydliad. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 newid ymddygiad.\u201d Dechreuwch gyda sesiynau ymwybyddiaeth neu gyflwyniadau diogelwch i helpu staff i ddeall sut mae eu gweithredoedd beunyddiol yn effeithio ar yr amgylchedd.<\/p>\n<p><strong>Gwella effeithlonrwydd ynni<\/strong><br \/>\nGall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr. Newid i oleuadau LED, gosod mesuryddion clyfar, ac annog gweithio hybrid i leihau\u2019r defnydd o ynni mewn adeiladau. Mae newid ymddygiad fel diffodd goleuadau a dyfeisiau trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn gamau bach sy\u2019n adeiladu dros amser.<\/p>\n<p><strong>Ailfeddwl teithio a thrafnidiaeth<\/strong><br \/>\nGallwch annog staff i rannu ceir, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar gyfer busnesau sydd \u00e2 fflydoedd, dechreuwch newid i gerbydau trydan. Mae gweithio hybrid ac o bell hefyd yn helpu i leihau allyriadau cymudo, gan arbed amser a charbon.<\/p>\n<p><strong>Dewis caffael mwy gwyrdd a lleihau gwastraff<\/strong><br \/>\nMae eich cadwyn gyflenwi yn cael effaith enfawr ar eich \u00f4l troed carbon. \u201cNawr, bydd yn rhaid i fusnesau bach a chanolig sy\u2019n cynnig contractau sector cyhoeddus ddarparu cynlluniau lleihau carbon credadwy, gan gynnwys allyriadau Cwmpas 3,\u201d esboniodd Wallis. \u201cDewiswch gyflenwyr lleol, blaenoriaethu deunyddiau carbon isel, digido gwaith papur, ac ailddefnyddio deunydd pacio lle bynnag y bo modd.\u201d<\/p>\n<p><strong>Buddsoddi mewn sgiliau gwyrdd a hyfforddiant<\/strong><br \/>\nGall hyfforddiant fod yn sylfaen ar gyfer newid ystyrlon, gan ganiat\u00e1u i bawb, nid yn unig staff mewn rolau cynaliadwyedd penodol ond ar draws sefydliad cyfan ddeall eu hallbwn carbon yn well.<\/p>\n<p>Mae ACT yn cynnig cymwysterau wedi\u2019u hariannu\u2019n llawn gan gynnwys y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon a chyrsiau rheoli amgylcheddol ISEP gyda lefelau sy\u2019n addas i bob gweithiwr ar unrhyw gam o\u2019u gyrfa. Gall y cymwysterau hyn helpu busnesau i adeiladu arbenigedd mewnol a chydymffurfio \u00e2 safonau cynaliadwyedd newydd.<\/p>\n<p>Gan sgwrsio\u2019n ddi-flewyn ar dafod yn y bennod podlediad, pwysleisiodd Wallis bwysigrwydd bod ar y blaen a rhoi sero net ar y rheng flaen mewn gweithrediadau. \u201cRydyn ni bellach mewn argyfwng hinsawdd,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n ddyletswydd foesol i fusnesau weithredu.\u201d<\/p>\n<p>Os hoffech gymryd y camau cyntaf tuag at fusnes mwy cynaliadwy, gallwch ddod o hyd i gymhwyster sy\u2019n iawn i chi a\u2019ch t\u00eem <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/green\/\">fan hyn<\/a>.<\/p>\n<p>I wrando ar y cyfweliad llawn gyda Wallis a Karuna gallwch <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/episode\/5oLjSS2gICXdo8eYVoAuCL?si=dGYD1wzKQsWQyoRclqKyFQ \">ddilyn y ddolen<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/ \">ACT<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyllideb garbon Cymru yn gosod targed uchelgeisiol o ostyngiad o 58% mewn allyriadau erbyn 2030. Ond beth mae hynny\u2019n ei olygu i fusnesau Cymru? Yn \u00f4l tiwtoriaid ACT Karuna Sparks a Wallis Pegington, nid yw\u2019n ymwneud &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/five-ways-business-greener\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11904","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11904","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11904"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11904\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11905,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11904\/revisions\/11905"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11904"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11904"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11904"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}