{"id":11913,"date":"2025-11-18T13:34:33","date_gmt":"2025-11-18T13:34:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=11913"},"modified":"2025-11-18T13:34:33","modified_gmt":"2025-11-18T13:34:33","slug":"cambrian-staff-graduate","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-staff-graduate\/","title":{"rendered":"Pedwar gweithiwr Cwmni Hyfforddiant blaenllaw yn dathlu llwyddiant prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-staff-graduate\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-staff-graduate\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_19884\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Cambrian-Staff-Graduating-with-Faith-e1763472291496.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19884\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Cambrian-Staff-Graduating-with-Faith-e1763472291496.jpg\" alt=\"Faith O&#039;Brien and the 4 members of staff who graduated wearing their robes.\" width=\"460\" height=\"290\" class=\"size-full wp-image-19884\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19884\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O\u2019Brien (canol) gyda graddedigion (o\u2019r chwith) Alex Hogg, Sharon Roberts, Manon Rosser ac Iestyn Evans.<\/p><\/div>\n<p>Mae pedwar gweithiwr o ddarparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru wedi dilyn ei bregeth ei hun trwy wella eu sgiliau a\u2019u datblygiad proffesiynol. <\/p>\n<p>Dathlwyd cyflawniadau Alex Hogg, pennaeth technoleg gwybodaeth, Sharon Roberts ac Iestyn Evans, swyddogion hyfforddiant, a Manon Rosser, Swyddog Cymorth y Gymraeg a Chyfathrebu yn seremoni raddio prentisiaethau&#8217;r hydref Cwmni Hyfforddiant Cambrian yr wythnos ddiwethaf.<\/p>\n<p><strong>Mae Alex, 43, wedi cyflawni Prentisiaeth Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol gyda\u2019r Brifysgol Agored, gan gydnabod ei ymrwymiad i ddysgu gydol oes.<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l weithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng am 17 mlynedd, mae wedi cydbwyso ei r\u00f4l yn rheoli TG a dadansoddi data gyda phedwar blynedd o amser astudio academaidd wythnosol.<\/p>\n<p>\u201cDoeddwn i ddim yn meddwl fy mod i\u2019n academaidd ac roeddwn i\u2019n synnu i gael anrhydeddau dosbarth cyntaf,\u201d meddai Alex. \u201cMae\u2019r radd yn meincnodi fy sgiliau ac yn rhoi hwb i\u2019m hyder.\u201d<\/p>\n<p>Trwy gydol ei astudiaethau, defnyddiodd Alex ei ddysgu yn uniongyrchol er budd y busnes, gan ddatblygu sawl rhaglen meddalwedd pwrpasol sydd wedi symleiddio prosesau mewnol &#8211; o dreuliau i deithio &#8211; gan arbed amser staff a gwella effeithlonrwydd. <\/p>\n<p>Mae ei r\u00f4l yn ganolog i lwyddiant gweithredol y cwmni, gan sicrhau dadansoddi data ac adrodd cywir i fodloni contract prentisiaeth gwerth \u00a38 miliwn gyda Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Mae cwblhau prentisiaeth uwch mewn Ymarfer Cyfieithu wedi agor drysau i\u2019r raddedig, Manon, a ddaeth yn Llysgennad Prentisiaethau gyda\u2019r Coleg Cymraeg, ac sydd bellach yn helpu prentisiaid eraill i ddod yn un hefyd. <\/strong><\/p>\n<p>Yn raddedig Gwleidyddiaeth a Hanes Modern, cwblhaodd ei phrentisiaeth gyda Choleg G\u0175yr Abertawe ynghyd \u00e2 chymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 3. <\/p>\n<p>\u201cFy nod nawr yw defnyddio fy sgiliau i helpu Hyfforddiant Cambrian i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau yn gynhwysol, hyblyg ac wedi\u2019u teilwra i ddulliau dysgu yn y byd go iawn, yn enwedig i\u2019r rhai sy\u2019n ffynnu\u2019n well mewn amgylchedd dysgu mwy ymarferol. Maent yn cynnig dull personol, hyblyg sy\u2019n grymuso dysgwyr i ffynnu.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae Sharon, sy\u2019n byw ger Abbergavenny, wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli ac mae&#8217;n ei hychwanegu at gyfres o gymwysterau eraill, gan gynnwys Prentisiaeth Uwch mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Asesu Mewnol.<\/strong><\/p>\n<p>Yn swyddog hyfforddiant a swyddog sicrhau ansawdd mewnol mewn gweithgynhyrchu bwyd a diod, cofrestrodd ar gyfer y brentisiaeth i wella dealltwriaeth o ddulliau rheoli ac i helpu i reoli ei llwyth achosion.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r profiad hwn wedi rhoi cipolwg i mi o\u2019r strwythurau rheoli o fewn y cwmni,\u201d meddai Sharon. \u201cFy nod yw defnyddio\u2019r cymhwyster yn effeithiol.\u201d<\/p>\n<p>Mae hi wedi gweithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian am 10 mlynedd, gan ddarparu fframweithiau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 bwyd a diod a sicrhau safonau ansawdd.<\/p>\n<p><strong>Graddiodd Iestyn, 56, sy\u2019n byw yng Nghaerffili, gyda Phrentisiaeth Uwch mewn Dysgu a Datblygu sy\u2019n cefnogi ei waith fel swyddog hyfforddi gweithgynhyrchu bwyd a diod. <\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio o King\u2019s College, Llundain, gyda Gradd mewn Fferylliaeth, roedd Iestyn yn rhedeg ei siop fferyllfa ei hun yng Nghaerfyrddin tan ei 30au hwyr pan benderfynodd ymgymryd \u00e2 her newydd fel mentor T\u00eem Troseddwyr Ifanc Caerdydd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l hynny, hyfforddodd fel cigydd gyda Chris Hayman Butchers, Maesycwmer, cyn ymuno \u00e2 Chwmni Hyfforddiant Cambrian pum mlynedd yn \u00f4l i rannu ei sgiliau a\u2019i wybodaeth gyda phrentisiaid. <\/p>\n<p>\u201cRwyf wrth fy modd ag amrywiaeth fy ngwaith pob dydd,\u201d esboniodd Iestyn. \u201cMae pobl ifanc weithiau\u2019n derbyn enw drwg ond rwy\u2019n eu gweld nhw\u2019n eithaf anhygoel, ar y cyfan. Rwy\u2019n mwynhau ymgysylltu \u00e2 phrentisiaid a\u2019u cyflogwyr yn y gweithle.<\/p>\n<p>\u201cMae cyflawni prentisiaeth uwch wedi gwella fy r\u00f4l o fod yn aseswr i athro, ac mae wedi rhoi\u2019r wybodaeth i gefnogi fy sgiliau ymarferol. Mae wedi gwneud i mi hunan-fyfyrio a dadansoddi&#8217;r hyn y gallaf ei wneud i wneud fy mhrentisiaid yn well yn eu swyddi.\u201d<\/p>\n<p><strong>Llongyfarchodd Faith O\u2019Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y pedwar graddedig a dywedodd: <\/strong><br \/>\n\u201cRydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pob aelod o\u2019n t\u00eem yn cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am y sector. Nid yw buddsoddiad parhaus mewn datblygiad proffesiynol yn ddigwyddiad untro &#8211; mae\u2019n rhan graidd o\u2019n diwydiant ac yn addewid rydym yn ei gynnal trwy gydol taith pob cydweithiwr gyda ni.<\/p>\n<p>\u201cMae eu taith yn dangos pa mor bwerus y gall prentisiaethau fod: datgloi potensial, magu hyder, a chreu effaith go iawn, parhaol ar draws y busnes.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae pedwar gweithiwr o ddarparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru wedi dilyn ei bregeth ei hun trwy wella eu sgiliau a\u2019u datblygiad proffesiynol. Dathlwyd cyflawniadau Alex Hogg, pennaeth technoleg gwybodaeth, Sharon Roberts ac Iestyn Evans, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-staff-graduate\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-11913","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11913","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11913"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11913\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11914,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11913\/revisions\/11914"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11913"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11913"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11913"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}