{"id":1204,"date":"2012-04-30T11:11:20","date_gmt":"2012-04-30T11:11:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=1204"},"modified":"2013-12-12T12:57:44","modified_gmt":"2013-12-12T12:57:44","slug":"hyrwyddwr-dwyieithrwydd-yn-hybur-gymraeg-yn-y-gweithle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyrwyddwr-dwyieithrwydd-yn-hybur-gymraeg-yn-y-gweithle\/","title":{"rendered":"Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Yn Hybu&#8217;r Gymraeg Yn Y Gweithle"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_2472\" style=\"width: 187px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Ryan-Evans.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-2472\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Ryan-Evans-177x300.jpg\" alt=\"\" title=\"National Training Federation for WalesPB210-2012\" width=\"177\" height=\"300\" class=\"size-medium wp-image-2472\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-2472\" class=\"wp-caption-text\">Yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd - Ryan Evans<\/p><\/div>\n<p>Penodwyd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i sicrhau bod modd dilyn llwybr dysgu seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>Bydd Ryan Evans sy\u2019n 28 oed ac yn ieithydd o Ddoc Penfro yn ymuno \u00e2 th\u00eem NTfW yng Nghaerdydd ar gontract 29 mis ar \u00f4l treulio bron chwe blynedd fel rheolwr cyllid a swyddog datblygu\u2019r Gymraeg gyda PRP Training Ltd. <\/p>\n<p>Bydd yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith a Llywodraeth Cymru, sy\u2019n ariannu\u2019r swydd fel rhan o\u2019i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.<\/p>\n<p>Nod yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yw helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i ddatblygu darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn meysydd lle bu\u2019n brin hyd yma. <\/p>\n<p>Her gyntaf Mr Evans fydd paratoi cynllun sy\u2019n cynnwys amcanion ynghylch: <\/p>\n<ul>\n<li>cynyddu nifer y dysgwyr sy\u2019n manteisio ar ddarpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn sectorau penodol yn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith;<\/li>\n<li>annog pobl ifanc sy\u2019n gadael ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog i barhau \u00e2\u2019u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg;<\/li>\n<li>rhannu arferion da o fewn y rhwydwaith;<\/li>\n<li>sicrhau bod mwy o ddarpariaeth Gymraeg gynaliadwy\u2019n cael ei datblygu; a<\/li>\n<li>codi proffil yr iaith a datblygu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud \u00e2\u2019r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhwydwaith darparwyr NTfW.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd Mr Evans yn cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i gyflawni ei amcanion.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n swydd gyffrous gan fy mod  i\u2019n frwd dros yr iaith Gymraeg ac yn awyddus i wella\u2019r cyfleoedd sydd ar gael i bawb sy\u2019n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am fanteision dysgu dwyieithog,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r iaith Gymraeg yn rhan o\u2019n treftadaeth a\u2019n diwylliant ac rydyn ni am sicrhau lle mwy amlwg iddi yn y gweithle. Byddaf yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i ganfod a rhannu arferion da.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal, byddaf yn cyfarfod \u00e2 hyrwyddwyr dwyieithrwydd mewn colegau addysg bellach i ganfod arferion gorau a strategaethau sy\u2019n addas ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n edrych ymlaen at gasglu sylwadau darparwyr hyfforddiant ym mhedwar rhanbarth Cymru am ffyrdd o wella\u2019r ddarpariaeth ddwyieithog yn y gweithle. Mae manteision i ddarparwyr a chyflogwyr sy\u2019n rhoi cyfle i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. <\/p>\n<p>\u201cCeir llawer mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg mewn ysgolion erbyn hyn ac mae angen ehangu hynny i\u2019r gweithle. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod y Gymraeg a\u2019r Saesneg yn cael eu defnyddio\u2019n gyfartal.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi pennu targedau ar gyfer nifer y dysgwyr yr anelir at eu cael yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog erbyn 2015.<\/p>\n<p>Dywedodd Cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins wrth ymddeol o\u2019r gadair: \u201cRydym yn eithriadol o falch ein bod wedi sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen \u00e2\u2019r her o ddatblygu\u2019r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym mhob rhan o\u2019r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>\u201cEr mwyn cyrraedd y targedau a nodir yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, bydd angen rhannu\u2019r arferion gorau trwy\u2019r rhwydwaith cyfan. Mae\u2019n bwysig ein bod yn deall sut orau i gynnwys sgiliau dwyieithog ym myd gwaith, lle mae ein dysgwyr ni\u2019n datblygu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Penodwyd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i sicrhau bod modd dilyn llwybr dysgu seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog. Bydd Ryan Evans sy\u2019n 28 oed ac yn ieithydd o Ddoc Penfro yn ymuno \u00e2 &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyrwyddwr-dwyieithrwydd-yn-hybur-gymraeg-yn-y-gweithle\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1204","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1204","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1204"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1204\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1204"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1204"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1204"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}