{"id":12060,"date":"2026-01-29T17:15:38","date_gmt":"2026-01-29T17:15:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12060"},"modified":"2026-01-29T17:15:38","modified_gmt":"2026-01-29T17:15:38","slug":"cynhadledd-ntfw-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2026\/","title":{"rendered":"Cynhadledd yn rhoi sylw i\u2019r etholiad i&#8217;r Senedd a&#8217;r rhaglen brentisiaethau newydd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-conference-26\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2026\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_20070\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/NTFW-conference-delegates-25-sml-scaled-e1768744720691.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20070\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/NTFW-conference-delegates-25-sml-scaled-e1768744720691.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20070\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20070\" class=\"wp-caption-text\">Cynadleddwyr yng nghynhadledd flynyddol NTFW y llynedd.<\/p><\/div>\n<p>Bydd y sylw ar yr etholiad i&#8217;r Senedd ym mis Mai a datblygiad Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru, i ddechrau ym mis Awst 2027, pan ddaw ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ynghyd yn eu cynhadledd flynyddol ym mis Mawrth.<\/p>\n<p> \u2018Llunio Sgiliau ar gyfer Cyfnod Newydd\u2019 yw thema\u2019r gynhadledd a drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 10 Mawrth. <\/p>\n<p>Gallwch gadw lle yn awr yn y gynhadledd sy\u2019n dod ar adeg allweddol i ddyfodol prentisiaethau, gyda&#8217;r etholiad i&#8217;r Senedd a cham nesaf y rhaglen brentisiaethau newydd ar y gorwel.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cCydweithio sy&#8217;n rhoi cryfder i&#8217;n sector ni,\u201d <strong>meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW<\/strong>. \u201cTrwy ddod \u00e2 darparwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid ynghyd, gallwn gynllunio rhaglen brentisiaethau sy\u2019n barod at y dyfodol ac sy\u2019n ymateb i anghenion y diwydiant, yn cefnogi dysgwyr o bob cefndir, ac yn adeiladu gweithlu cydnerth ar gyfer byd sy\u2019n newid.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Bydd siaradwyr o Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cavendish Cymru, Agored Cymru \u2013 prif noddwr y gynhadledd, a City &#038; Guilds.<\/p>\n<p>Bydd Cavendish Cymru yn rhoi rhagolwg o&#8217;r ffordd y bydd y Senedd yn newid ar \u00f4l yr etholiad ar 7 Mai, yn bwrw golwg ar y polau a gafwyd yn ddiweddar ac yn damcaniaethu am gyfansoddiad tebygol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd.<\/p>\n<p> \u201cMae\u2019n bleser gan Agored Cymru fod yn noddwr pennaf Cynhadledd NTFW eleni eto,\u201d <strong>meddai Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru.<\/strong> \u201cTrwy greu cymwysterau galwedigaethol a fframweithiau prentisiaethau dwyieithog o safon byd-eang, ein nod yw sbarduno twf economaidd a sicrhau bod anghenion sgiliau\u2019r dyfodol yng Nghymru yn cael eu diwallu drwy ymgysylltu, rhagfynegi ac arloesi. <\/p>\n<p> \u201cRydym yn falch o gael cydweithio \u00e2 darparwyr mor ymroddedig ac angerddol er mwyn sicrhau bod unigolion, beth bynnag eu cefndir neu eu hamgylchiadau, yn cael y wybodaeth a\u2019r sgiliau i wireddu eu dyheadau o ran gyrfa ac i gyfrannu at economi ffyniannus a llewyrchus.\u201d<\/p>\n<p>Trefnir wyth gweithdy i&#8217;r cynadleddwyr ddewis ohonynt hefyd, yn cynnwys un o&#8217;r enw Rhaglen Brentisiaethau ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru, a gyflwynir gan Medr. Bydd cyfle i glywed am brosiectau allweddol a fydd yn gwneud y rhaglen yn fwy ymatebol wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 blaenoriaethau sgiliau ar gyfer economi sy&#8217;n newid. <\/p>\n<p>Yn eu gweithdy nhw, bydd Cymwysterau Cymru yn trafod sut i feithrin perthynas ystyrlon, hirdymor \u00e2 chyflogwyr, fel bod cymwysterau galwedigaethol \u00f4l-16 a reoleiddir yn cyfateb i&#8217;r sgiliau angenrheidiol sy\u2019n esblygu. <\/p>\n<p>Bydd Resilient Futures Coach yn arwain gweithdy rhyngweithiol, gan roi set o ddyfeisiau hybu gwydnwch i ymarferwyr i&#8217;w defnyddio ar eu cyfer nhw\u2019u hunain a gyda\u2019u dysgwyr, a bydd Gyrfa Cymru yn ystyried sut mae canllawiau gyrfaoedd diduedd yn grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.<\/p>\n<p>Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) ail-lunio sgiliau ledled Cymru, mae prentisiaethau yn y rheng flaen. Thema gweithdy Jisc yw \u2018AI a sgiliau ar gyfer gweithlu Cymru yn y dyfodol\u2019.<\/p>\n<p>Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn archwilio r\u00f4l rheoleiddio a chofrestru proffesiynol ym maes dysgu seiliedig ar waith, bydd Estyn yn trafod cefnogaeth i brentisiaid \u00e2 medrau llythrennedd a rhifedd a bydd cadeiryddion y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn rhannu\u2019r wybodaeth ranbarthol ddiweddaraf, blaenoriaethau sgiliau sy\u2019n datblygu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae bargeinion cynnar ar gael i rai sy\u2019n cadw lle ar lein cyn 13 Chwefror yn <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/cynhadledd-ntfw-2026\/\">ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/cynhadledd-ntfw-2026<\/a>.<\/p>\n<p>Mae nifer o becynnau noddi ar gael hefyd yn <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/cynhadledd-noddi-26\/\">ntfw.org\/wel\/digwyddiadau\/cynhadledd-noddi-26<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bydd y sylw ar yr etholiad i&#8217;r Senedd ym mis Mai a datblygiad Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru, i ddechrau ym mis Awst 2027, pan ddaw ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ynghyd yn eu cynhadledd flynyddol ym &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw-2026\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9],"tags":[],"class_list":["post-12060","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12060","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12060"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12060\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12098,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12060\/revisions\/12098"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12060"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12060"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12060"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}