{"id":12222,"date":"2026-03-19T06:00:25","date_gmt":"2026-03-19T06:00:25","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12222"},"modified":"2026-05-29T17:34:17","modified_gmt":"2026-05-29T16:34:17","slug":"act-endometriosis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-endometriosis\/","title":{"rendered":"Mae endometriosis yn effeithio un o bob 10 menyw \u2013 felly pam nad ydym yn siarad amdano yn fwy?"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-endometriosis\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/IMG_8734-1-scaled-e1773067029591.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/IMG_8734-1-scaled-e1773067029591.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignnone size-full wp-image-20317\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae endometriosis yn effeithio 1.5 miliwn o fenywod a&#8217;r rhai a neilltuwyd yn fenywod adeg eu genedigaeth ledled y DU. Mae tua un o bob 10 menyw sydd o oedran atgenhedlu yn cael ei effeithio, gan ei wneud yr ail gyflwr gynaecolegol mwyaf cyffredin yn genedlaethol. Er gwaethaf ei gyffredinrwydd, mae&#8217;n parhau i fod yn gyflwr sydd wedi&#8217;i gamddeall gydag amserlen diagnosis rhwystredig o hir.<\/p>\n<p>Fel rhan o ddatblygiad parhaus ei Bolisi Iechyd Menywod, mae ACT yn falch o fod wedi dod yn Gyflogwr Cyfeillgar i Endometriosis. Mae cymryd rhan yn y cynllun, a gr\u00ebwyd gan yr elusen <a href=\"https:\/\/www.endometriosis-uk.org\/\">Endometriosis UK<\/a>, yn ymrwymiad i feithrin amgylchedd a diwylliant sy&#8217;n galluogi gweithwyr ACT i ffynnu yn y gwaith.<\/p>\n<p>Rhan bwysig o&#8217;i addewid yw i rannu ymwybyddiaeth o&#8217;r cyflwr, ei symptomau a&#8217;r ffyrdd y gall y rhai sydd \u00e2&#8217;r cyflwr gael eu cefnogi&#8217;n well.<\/p>\n<p>Mae Sarah Stokes, Arweinydd Cefnogi Contractau ACT, wedi byw gydag endometriosis am y rhan fwyaf o&#8217;i bywyd, ond ni dderbyniodd ei diagnosis tan yn ddiweddar o\u2019r diwedd.<\/p>\n<p>Er gwaethaf profi symptomau gwanychol o un ar ddeg oed, dim ond ar \u00f4l pedair blynedd ar bymtheg o ymladd i gael ei chlywed daeth y diagnosis. Rhannodd ei phrofiad gyda ni yn y gobaith bydd eraill yn cael eu hysbysu&#8217;n well am y cyflwr.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r mythau sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r cyflwr yw ei fod yn &#8216;gyfnod gwael&#8217;. Mae endometriosis yn digwydd pan fydd celloedd tebyg i&#8217;r rhai yn leinin y groth i&#8217;w cael mewn mannau eraill yn y corff. Gall y celloedd hyn dyfu a newid mewn ymateb i hormonau yn y cylch mislif, ag gall achosi llid, poen a meinwe creithiau.<\/p>\n<p>Mae symptomau cyffredin yn cynnwys mislifoedd poenus a thrwm, ie, ond hefyd poen a llid ar adegau eraill heibio\u2019r mislif.<\/p>\n<p><strong>I Sarah, mae blinder yn rhywbeth mae hi wedi cael trafferth ag ef ers degawdau.<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Mae angen i mi orffwys a chael nap yn aml oherwydd blinder. Rydw i wedi cael fy ngalw&#8217;n ddiog o\u2019i herwydd,&#8221; esboniodd. &#8220;Ond dydy pobl ddim yn deall mai dim ond symptom arall o endometriosis ydy hyn.&#8221;<\/p>\n<p>Ychwanegodd mai un o&#8217;r rhannau anoddaf o reoli endometriosis yn broffesiynol yw&#8217;r diffyg ymwybyddiaeth o faterion iechyd menywod yn gyffredinol. &#8220;Does dim digon o gyllid nac ymchwil i iechyd menywod,&#8221; meddai. &#8220;Mae agweddau pobl yn aml, &#8216;o, mae hi&#8217;n edrych yn iawn. Roedd hi&#8217;n iawn ddoe, felly sut gallai hi fod yn waeth heddiw?&#8217;<\/p>\n<p>\u201cRwy&#8217;n teimlo&#8217;n euog am y ffordd mae fy symptomau yn cael effaith weithiau. Ni allaf ragweld pryd bydd hynny&#8217;n digwydd.&#8221;<\/p>\n<p>Gall endometriosis effeithio ar fwy na&#8217;r system atgenhedlu yn unig. Bu achosion o&#8217;r cyflwr yn effeithio ar yr ysgyfaint, trwynau a hyd yn oed yr ymennydd. Rhannodd Sarah fod llawdriniaeth ddiweddar i drin ei endometriosis hefyd wedi lleddfu fferdod yr oedd hi wedi&#8217;i brofi yn ei choes ers blynyddoedd. Roedd hyn oherwydd y meinwe endo yn cywasgu ar ei nerfau pelfig a oedd yn pelydru\u2019r fferdod i lawr ei choes, rhywbeth sy&#8217;n rhyfeddol o gyffredin i ddioddefwyr.<\/p>\n<p>Er gwaethaf cyfres o symptomau, llawer ohonynt gyda chydberthynas uniongyrchol \u00e2&#8217;i gilydd, profodd Sarah flynyddoedd o gael ei gwrthod gan weithwyr proffesiynol meddygol.<\/p>\n<p>&#8220;Doedd neb yn edrych ar fy nghofnodion. Roeddwn i&#8217;n anemig, gyda B12 isel, arthritis rhiwmatoid, problemau mislif, poen yn y goes a does neb yn rhoi dau a dau at ei gilydd,&#8221; meddai. &#8220;Sut ydw i wedi mynd yr holl flynyddoedd hynny gyda&#8217;r un materion a dim un person yn meddwl cysylltu&#8217;r dotiau?&#8221;<\/p>\n<p>Diolch byth, cafodd Sarah ddiagnosis o&#8217;r diwedd yn 30 oed, gan ddewis talu&#8217;n breifat am driniaeth.<\/p>\n<p>Mae cymorth yn y gweithle hefyd wedi helpu wrth iddi lywio&#8217;r cyfnod hwn.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gwybod bod hyblygrwydd a dealltwriaeth yn dileu stigma ac yn eich helpu i reoli symptomau heb straen ychwanegol,&#8221; meddai. &#8220;Mae cael ystafell les breifat gallwch fynd iddi pan fyddwch chi mewn poen weithiau a dydych chi ddim eisiau bod o gwmpas pobl yn wych. Gallwch chi ymlacio,&#8221; esboniodd. &#8220;Mae gwneud yn si\u0175r bod cynnyrch mislif yn cael eu stocio&#8217;n llawn mewn ystafelloedd ymolchi hefyd yn bwysig oherwydd gallwch gael eich dal allan.&#8221;<\/p>\n<p>Gofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw gyngor i reolwyr, ychwanegodd: &#8220;Dydy pawb ddim efo\u2019r un symptomau neu sut mae pobl yn ymdopi, felly peidiwch \u00e2 gwneud rhagdybiaethau.<\/p>\n<p>&#8220;Addysgwch eich hun cyn i chi geisio cefnogi rhywun, oherwydd ni fydd pawb yn agored yn yr un modd. A pheidiwch \u00e2 diystyru sut mae rhywun yn ymdopi neu&#8217;n teimlo dim ond oherwydd nad ydych chi&#8217;n ei ddeall.&#8221;<\/p>\n<p>Ar gyfer cydweithwyr sy&#8217;n cael trafferth mewn tawelwch, anogodd Sarah hunan-dosturi. &#8220;Peidiwch \u00e2 theimlo&#8217;n euog. Dydy ychwanegu euogrwydd ar ben popeth arall ddim yn mynd i helpu&#8217;r sefyllfa o gwbl,&#8221; meddai. &#8220;Cewch eich tabledi, eich potel d\u0175r poeth, padiau gwres a dillad isaf sb\u00e2r yn barod i fynd. Peidiwch \u00e2 bod \u00e2 chywilydd.&#8221;<\/p>\n<p>Wrth edrych ymlaen, mae Sarah yn gobeithio bydd gweithleoedd fel ACT yn parhau i esblygu yn eu hagwedd at iechyd menywod. &#8220;Mae cyfathrebu agored, hyblygrwydd, a&#8217;r wybodaeth bod eich cyflwr yn cael ei ddeall yn gadarnhaol,&#8221; meddai. &#8220;Gobeithio, bydd y brwydrau rydyn ni&#8217;n eu hwynebu heddiw yn helpu rhywun arall yfory.&#8221;<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am Endometriosis a sut i gefnogi staff gyda&#8217;r cyflwr yn well, ewch i <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.endometriosis-uk.org\/\">Endometriosis UK<\/a>.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae endometriosis yn effeithio 1.5 miliwn o fenywod a&#8217;r rhai a neilltuwyd yn fenywod adeg eu genedigaeth ledled y DU. Mae tua un o bob 10 menyw sydd o oedran atgenhedlu yn cael ei effeithio, gan ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-endometriosis\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12222","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12222"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12222\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12482,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12222\/revisions\/12482"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}