{"id":12229,"date":"2026-03-13T10:53:47","date_gmt":"2026-03-13T10:53:47","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12229"},"modified":"2026-05-29T17:50:23","modified_gmt":"2026-05-29T16:50:23","slug":"ntfw-post-conference-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-post-conference-26\/","title":{"rendered":"Bwrw golwg ar Raglen Brentisiaethau newydd i Gymru a&#8217;r etholiad i&#8217;r Senedd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-post-conference-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20360\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/10.03.26-mh-NTFW-Conference-42-scaled-e1773395641228.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20360\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/10.03.26-mh-NTFW-Conference-42-scaled-e1773395641228.jpg\" alt=\"Keynote speakers at the NTFW conference\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20360\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20360\" class=\"wp-caption-text\">Y prif siaradwyr yng nghynhadledd NTFW (o\u2019r chwith) Patrick Craven o City &#038; Guilds UK, Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, Rhian Edwards o Medr, Dr Lowri Morgans o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru, y noddwr pennaf.<\/p><\/div>\n<p>Roedd datblygu Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru a&#8217;r rhagolygon am fuddugoliaeth i Blaid Cymru yn yr etholiad i&#8217;r Senedd ar 7 Mai yn bynciau allweddol yng nghynhadledd flynyddol yr ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith dydd Mawrth. <\/p>\n<p> \u2018Llunio Sgiliau ar gyfer Cyfnod Newydd\u2019 oedd thema\u2019r gynhadledd a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn awyddus i gael dweud eu dweud am y ffordd yr effeithir ar eu gwaith yn y dyfodol gan fodel newydd grantiau cyllido Rhaglen Brentisiaethau Cymru, a gynigir gan Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru. <\/p>\n<p>Bydd Medr yn ymgynghori \u00e2 darparwyr am y rhaglen newydd yn yr haf eleni, cyn iddi gael ei chyflwyno ym mis Awst 2027. <\/p>\n<p>Yn ystod gweithdy gan Medr yn y gynhadledd, cododd cynadleddwyr gwestiynau ynghylch seilio\u2019r model ariannu ar ganlyniadau, gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu fframwaith ac yn symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy. Maent yn awyddus i ddysgwyr gael eu cydnabod am ennill cymwysterau a chyflawni rhannau o fframweithiau hefyd. <\/p>\n<p>Awgrymodd cynrychiolwyr y dylid creu cymelliadau i gyflogwyr, yn enwedig fusnesau bach a chanolig, i gyflogi prentisiaid ac y dylid sicrhau bod prentisiaethau&#8217;n cael yr un parch ag addysg uwch. <\/p>\n<p>Pwysleisiodd y prif siaradwyr fod angen i&#8217;r rhaglen newydd fod yn hyblyg gan ymateb i anghenion dysgwyr, cyflogwyr a&#8217;r economi wrth iddynt ddatblygu ac i flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Cafwyd canmoliaeth hefyd i&#8217;r rhaglen brentisiaethau bresennol am fod yn gryf ac i ymarferwyr am eu hymrwymiad i brentisiaid.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi a buddsoddiad Medr:<\/strong> \u201cRydym wedi ymrwymo i wireddu&#8217;n gweledigaeth, sef system addysg drydyddol sy\u2019n ymateb i anghenion yr economi, dysgwyr a chyflogwyr a system sy\u2019n canolbwyntio ar y dyfodol gan greu cyfleoedd, dewis, llwyddiant, positifrwydd a ffyniant i bawb mewn partneriaeth \u00e2 chi. <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau\u2019n ganolog i&#8217;r gwaith o greu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Maen nhw&#8217;n llwybr uniongyrchol i sectorau blaenoriaeth, yn hybu twf mewn cynhyrchiant ac yn galluogi pobl i ennill cymwysterau o ansawdd da wrth weithio.\u201d<\/p>\n<p>Pwysleisiodd fod Medr yn awyddus i barhau \u00e2\u2019r cydweithio cryf sydd rhyngddo a\u2019r rhwydwaith darparwyr yn y rhaglen newydd.<\/p>\n<p>Cafodd rhaglen brentisiaethau Cymru ei chanmol gan <strong>Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru, noddwr pennaf y gynhadledd<\/strong>. Dywedodd ei bod gyda&#8217;r gorau yn y byd a&#8217;i bod yn ddyfais strategol i sicrhau gwydnwch cenedlaethol a chystadleurwydd economaidd.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Ychwanegodd:<\/strong> &#8220;Gall prentisiaethau lunio sgiliau ar gyfer cyfnod newydd yng Nghymru ac, yn wir, mae&#8217;n rhaid iddyn nhw wneud hynny. Nid rhywbeth i&#8217;w wneud &#8216;os nad y brifysgol yw&#8217;r lle i chi&#8217; ydyn nhw. Maen nhw\u2019n fodel effeithiol ag iddo werth mawr, ac yn ffordd o ennill cyflog wrth ddysgu sy\u2019n cyfateb yn uniongyrchol i alw&#8217;r farchnad lafur.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&#8220;Mae\u2019n gweledigaeth ni\u2019n glir ac yn gyson \u2013 galluogi unigolion i ennill y sgiliau a&#8217;r cymwysterau y mae arnyn nhw eu hangen i wireddu eu potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac at economi gref.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n&#8220;Rhaid i ni fod yn ddewr, yn arloesol a gwthio&#8217;r ffiniau i wneud gwahaniaeth heb ostwng y safon.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Soniodd Jo Kiernan, cyfarwyddwr yn Cavendish Cymru, am yr arolygon barn ynghylch yr etholiad i&#8217;r Senedd. Rhagwelai y bydd Plaid Cymru&#8217;n arwain Llywodraeth nesaf Cymru ond ei bod yn debygol y bydd angen cynghrair rhyngddi a&#8217;r Blaid Lafur neu&#8217;r Blaid Werdd i lywodraethu&#8217;n llwyddiannus. <\/p>\n<p>Mae angen 49 Aelod o&#8217;r Senedd ar Blaid Cymru i sicrhau mwyafrif, a dywedodd fod hynny&#8217;n annhebygol, ond bod arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth yn awyddus i lywodraethu heb gynghrair. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW<\/strong>, fod y gynhadledd yn hynod ddifyr ac yn ysgogi pobl i feddwl wrth i&#8217;r sector dysgu seiliedig ar waith baratoi ar gyfer &#8220;newid sylweddol&#8221;. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Mae heddiw wedi&#8217;n hatgoffa mewn modd pwerus fod cryfder ein sector wedi&#8217;i seilio ar ein pobl a&#8217;n cydweithrediad,&#8221; meddai. &#8220;Rydyn ni&#8217;n barod am newid a chyfleoedd newydd ac rydym yn wybodus, yn uchelgeisiol ac yn unedig yn ein cred bod rhaid i brentisiaethau a sgiliau barhau&#8217;n ganolog i bolis\u00efau Llywodraeth newydd Cymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Y siaradwyr eraill oedd Luke Fletcher, AS Plaid Cymru a chadeirydd Gr\u0175p Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, Dr Lowri Morgans, uwch-reolwr addysg bellach a phrentisiaethau yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Patrick Craven, cyfarwyddwr materion cyhoeddus, partneriaethau ac ymgysylltu yn City &#038; Guilds UK, noddwr cyswllt y gynhadledd.<\/p>\n<p>Cafwyd saith gweithdy hefyd, yn cael eu rhedeg gan Medr, Cymwysterau Cymru, Resilient Futures Coach, Gyrfa Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a\u2019r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd datblygu Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru a&#8217;r rhagolygon am fuddugoliaeth i Blaid Cymru yn yr etholiad i&#8217;r Senedd ar 7 Mai yn bynciau allweddol yng nghynhadledd flynyddol yr ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith dydd Mawrth. \u2018Llunio &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-post-conference-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9,11],"tags":[],"class_list":["post-12229","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12229","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12229"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12229\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12486,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12229\/revisions\/12486"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12229"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12229"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12229"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}