{"id":12243,"date":"2026-03-26T06:01:42","date_gmt":"2026-03-26T06:01:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12243"},"modified":"2026-03-26T12:43:17","modified_gmt":"2026-03-26T12:43:17","slug":"ntfw-scw-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-scw-26\/","title":{"rendered":"Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni\u2019n torri sawl record, meddai cyfarwyddwr NTFW"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-scw-26\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-scw-26\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_20422\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/enews-story-1-03-2026-no-border-e1774267092597.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20422\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/enews-story-1-03-2026-no-border-e1774267092597.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"size-full wp-image-20422\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20422\" class=\"wp-caption-text\">Adam Pike, un o brentisiaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian, enillydd medal aur mewn celfyddydau coginio.<\/p><\/div>\n<p><strong>Mae cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Lisa Mytton, wedi llongyfarch dros 600 o bobl ifanc dalentog am wneud yn wych yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. <\/strong><\/p>\n<p>Dyfarnodd y beirniaid 96 medal aur, 92 medal arian a 97 medal efydd yn y cystadlaethau a gynhaliwyd ym mis Chwefror, gyda 1,168 o gystadleuwyr, mwy nag erioed o\u2019r blaen, yn cymryd rhan mewn 65 o ddisgyblaethau.<\/p>\n<p>Roedd y cystadlaethau yn y rhaglen fwyaf a gyflwynwyd erioed gan Gystadleuaeth Sgiliau Cymru yn amrywio o gelfyddydau coginio a datblygu gwefannau i beirianneg awyrenegol ac ynni adnewyddadwy.<\/p>\n<p>Roedd gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol Cymru 30 o ddysgwyr yn cystadlu, mwy nag erioed o\u2019r blaen, gan ennill medalau a chanmoliaeth uchel mewn 12 cystadleuaeth. <\/p>\n<p>Trwy gysylltiadau cryf y darparwyr \u00e2 chyflogwyr, caff dysgwyr brofiad gwerthfawr yn y byd go iawn yn ogystal \u00e2 hyfforddiant technegol, gan eu helpu i feithrin digon o sgiliau a&#8217;r hyder i lwyddo yn y diwydiant. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRoedd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni\u2019n brofiad gwirioneddol eithriadol, gan arddangos doniau, ymroddiad ac uchelgais rhyfeddol pobl ifanc ledled y wlad,\u201d <strong>meddai Lisa<\/strong>.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae\u2019n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf gan golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, sy\u2019n gweithio mewn partneriaeth \u00e2 chyflogwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd go iawn.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cLlongyfarchiadau i bawb a enillodd fedal neu a gafodd ganmoliaeth uchel \u2013 maen nhw&#8217;n ysbrydoliaeth.  Dymuniadau gorau i\u2019r rhai sy\u2019n mynd ymlaen i\u2019r camau nesaf, gan gynnwys WorldSkills UK. <\/p>\n<p>\u201cMae eu llwyddiant yn adlewyrchu rhagoriaeth y rhwydwaith darparwyr hyfforddiant yma yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y seremoni wobrwyo fyw, yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, yn gyfle i ddathlu llwyddiant 287 o bobl a enillodd fedalau a 327 a gafodd ganmoliaeth uchel yn y cystadlaethau. <\/p>\n<p>Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ddarperir trwy brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn fan cychwyn i ddysgwyr symud ymlaen i gystadlaethau Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International, lle gellir dewis cystadleuwyr i gynrychioli T\u00eem y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru:<\/strong>  \u201cMae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn dal i dyfu o ran ei maint a&#8217;i heffaith.  Eleni roedd dros 1,100 o gystadleuwyr mewn 65 o gystadlaethau ac mae&#8217;n wych gweld cymaint o bobl ifanc dalentog yn gwthio eu hunain er mwyn rhagori. <\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi prawf ar eu sgiliau ar gyfer eu diwydiant, o dan bwysau, gan feithrin hyder, gwydnwch ac uchelgais ar gyfer symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. <\/p>\n<p>\u201cMae ymroddiad cystadleuwyr, tiwtoriaid, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr o bob rhan o Gymru wir yn ysbrydoledig.  Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran a dymuniadau gorau i&#8217;r rhai sy&#8217;n symud ymlaen i&#8217;r cystadlaethau nesaf.\u201d<\/p>\n<p>Y rhai sy&#8217;n cael eu hyfforddi gan ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ac a enillodd fedalau aur yw Chantal Watters a Chloe Williams o ACT mewn cyfrifeg ac Adam Pike o Gwmni Hyfforddiant Cambrian mewn celfyddydau coginio.<\/p>\n<p>Enillodd tri o XR Training fedalau arian ym maes adeiladu a seilwaith \u2013 Karl Alenizy mewn gwaith gosod trydanol ac Adam Davis a Lewis Williams mewn \u00f4l-osod. Yn ogystal, enillodd Bethan Austin-Terry, ACT, fedal arian mewn gofal plant a chafodd Tristan Williams, ITEC Training Solutions, fedal efydd mewnn datrysiadau meddalwedd TG ar gyfer busnes.<\/p>\n<p>Cafodd nifer o ddysgwyr ACT ganmoliaeth uchel \u2013 William Myrick mewn garddwriaeth, Eddie Pearce mewn paratoi bwyd, Mckenzie O&#8217;Rourke mewn gwasanaeth bwytai ac Olivia Ampleford, Ellie Finch a Gintare Jodkeviciute mewn cyfrifeg. <\/p>\n<p>Cystadleuwyr eraill a gafodd ganmoliaeth uchel oedd Ella Davies a Skye Davies, ITEC Training Solutions, mewn gofal plant, William Conway, XR Training, mewn gwaith gosod trydanol a Bleddyn Daw, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mewn celfyddydau coginio. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Lisa Mytton, wedi llongyfarch dros 600 o bobl ifanc dalentog am wneud yn wych yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Dyfarnodd y beirniaid 96 medal aur, 92 medal arian &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-scw-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12243","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12243","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12243"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12243\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12303,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12243\/revisions\/12303"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12243"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12243"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12243"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}