{"id":12248,"date":"2026-03-26T06:00:19","date_gmt":"2026-03-26T06:00:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12248"},"modified":"2026-05-29T17:31:16","modified_gmt":"2026-05-29T16:31:16","slug":"act-march-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-march-26\/","title":{"rendered":"Cydnabyddiaeth seren aur am ymroddiad gweithiwr gofal iechyd i ddysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-march-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20387\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/ACT-Awards-028-scaled-e1774093709511.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20387\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/ACT-Awards-028-scaled-e1774093709511.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20387\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20387\" class=\"wp-caption-text\">Ifeoluwa Anipupo &#8211; Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn<\/p><\/div>\n<p>Cydnabuwyd un o ddysgwyr ACT, Ifeoluwa Anipupo, fel Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn yn ein Gwobrau Llwyddiant Trwy Sgiliau blynyddol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a&#8217;r Fro, yn dathlu dysgwyr, tiwtoriaid, cyflogwyr a busnesau sydd wedi helpu i hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Cr\u00ebwyd y gwobrau i gydnabod pwysigrwydd prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, nid yn unig fel llwybr addysg a gyrfa dilys i unigolion ond fel arf gweithredol i gyflogwyr.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd y wobr aur i Ifeoluwa i gydnabod ei hymroddiad i&#8217;w hastudiaethau. Ers cofrestru, mae wedi cwblhau ei holl gymwysterau sgiliau hanfodol mewn prin dau fis a hanner &#8211; cyflawniad anhygoel o ystyried bod y targed fel arfer yn naw mis. Roedd ei chyflawniad hyd yn oed yn fwy rhyfeddol o ystyried ei bod yn ddysgwr Saesneg Ail Iaith.<\/p>\n<p>Roedd ei chymwysterau yn cynnwys cyfathrebu, cymhwyso rhif a llythrennedd digidol, ac aeth at y tri a\u2019r un ffocws a brwdfrydedd.<\/p>\n<p>Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Ifeoluwa: &#8220;Mae\u2019n deimlad anhygoel bod wedi ennill gwobr Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn gan ei fod yn foment o ddilysu a chydnabod fy ngwaith caled ag ymroddiad.&#8221;<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Ifeoluwa yn gweithio fel gweithiwr cynnal a chadw yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle mae&#8217;n helpu i gynnal amgylchedd gl\u00e2n a diogel i gleifion, staff ac ymwelwyr.<\/p>\n<p>Mae ei Sgiliau Hanfodol yn rhan o&#8217;i chymhwyster Gwasanaethau Cyfleusterau mewn Gofal Iechyd Lefel 2 ac maent wedi meithrin sgiliau y mae&#8217;n eu defnyddio bob dydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r cymwysterau wedi fy arfogi \u00e2 sgiliau gwell, megis cyfathrebu effeithiol a chydweithredu meddwl agored gyda fy nghydweithwyr a chleifion,&#8221; esboniodd.<\/p>\n<p>&#8220;Fe wnes i gofrestru ar gyfer y cwrs Gwasanaethau Cyfleusterau mewn Gofal Iechyd Lefel 2 er mwyn gwella fy sgiliau a&#8217;m gwybodaeth mewn gofal iechyd, cyfrannu at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a datblygu sgiliau gwerthfawr fel cyfathrebu a datrys problemau sy&#8217;n hanfodol ar gyfer twf gyrfa ac er mwyn darparu cefnogaeth ardderchog i&#8217;m sefydliad.&#8221;<\/p>\n<p>Trwy gydol ei rhaglen, mynychodd Ifeoluwa bob sesiwn, gan gyrraedd yn brydlon a chyfrannu\u2019n llawn; cyflawniad trawiadol o ystyried bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn colli o leiaf un sesiwn.<\/p>\n<p>Wrth fyfyrio ar gynnwys y cwrs, teimla bod llythrennedd digidol a chyfathrebu yn arbennig o ddiddorol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r holl gyrsiau yn berthnasol ond roeddwn i&#8217;n gweld y cyrsiau llythrennedd a chyfathrebu digidol yn ddiddorol iawn, yn enwedig yn ystod y drafodaeth a&#8217;r asesiad gr\u0175p,&#8221; meddai.<\/p>\n<p>Mae Ifeoluwa eisoes wedi gallu cymhwyso ei dysgu yn uniongyrchol i gyfrifoldebau ei r\u00f4l.<\/p>\n<p>&#8220;Rwyf wedi gallu gweithredu rhai o&#8217;r sgiliau a&#8217;r wybodaeth o&#8217;r cwrs yn fy nhasgau beunyddiol. Er enghraifft, rwyf wedi gwella mewn meysydd fel rheoli ac atal heintiau, iechyd a diogelwch a sgiliau cyfathrebu effeithiol.<\/p>\n<p>Canmolodd hefyd y gefnogaeth a gafodd gan ACT trwy gydol ei thaith brentisiaeth.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd fy nhiwtoriaid a&#8217;m haseswyr yn darparu arweiniad trwy gydol fy nhaith prentisiaeth ac yn helpu gydag adnoddau a deunyddiau astudio,&#8221; meddai. &#8220;Mae eu cefnogaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth gydbwyso bywyd gwaith ac astudio.&#8221;<\/p>\n<p>Adleisiodd ei chyflogwr y teimlad cadarnhaol hwn, gan ei disgrifio fel aelod gwerthfawr o&#8217;r Adran Cadw T\u0177 ers ymuno yng ngwanwyn y llynedd. Fe wnaethant ganmol ei safonau glanhau gyson uchel, ei phroffesiynoldeb, a&#8217;i hymrwymiad i gwblhau&#8217;r holl hyfforddiant gorfodol mewn modd amserol ac effeithiol.<\/p>\n<p>Fe ategon nhw ei bod, dros y saith mis diwethaf, wedi dangos ymroddiad i gynnal y safonau gofynnol a chynnal gwerthoedd ac ymddygiadau sefydliadol, gan ddisgrifio ei chyflawniad fel &#8220;gwirioneddol haeddiannol.&#8221;<\/p>\n<p>Wrth edrych ymlaen, mae Ifeoluwa yn canolbwyntio ar barhau \u00e2&#8217;i datblygiad proffesiynol ac ehangu ei chyfraniad yn y sector gofal iechyd.<\/p>\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n gweithio tuag at wella fy sgiliau a&#8217;m gwybodaeth trwy gyrsiau fel hyn ac rwy&#8217;n gobeithio ymgymryd \u00e2 mwy o gyfrifoldebau. Yn y tymor hir, byddwn wrth fy modd yn cyfrannu&#8217;n sylweddol at weithrediadau&#8217;r ysbyty ac archwilio rolau clinigol a gweinyddol gofal iechyd eraill yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Pan ofynnwyd iddi beth fyddai&#8217;n ei ddweud wrth eraill sy&#8217;n ystyried y cwrs, ychwanegodd: &#8220;Byddwn yn argymell y cwrs oherwydd ei fod yn cynnig cyfle gwych i roi hwb i&#8217;ch sgiliau a&#8217;ch hyder mewn gwasanaethau cyfleusterau gofal iechyd. Byddwch yn dysgu sgiliau sy&#8217;n berthnasol yn uniongyrchol i&#8217;ch swydd, mae&#8217;n gam cadarn ar gyfer twf gyrfa, ac rydych chi&#8217;n derbyn cefnogaeth gan ACT trwy gydol y cwrs.&#8221;<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cydnabuwyd un o ddysgwyr ACT, Ifeoluwa Anipupo, fel Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn yn ein Gwobrau Llwyddiant Trwy Sgiliau blynyddol. Mae&#8217;r gwobrau, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a&#8217;r Fro, yn dathlu dysgwyr, tiwtoriaid, cyflogwyr a busnesau sydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-march-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12248","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12248","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12248"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12248\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12479,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12248\/revisions\/12479"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12248"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12248"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12248"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}